'Y Cynnig Gofal Plant i Gymru'

Cyhoeddwyd 04/11/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

04 Tachwedd 2016 Erthygl gan Sian Thomas Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg [caption id="attachment_6396" align="alignright" width="300"]Llun: Wikimedia Commons gan Arto Alanenpää. Dan drwydded Creative Commons Llun: Wikimedia Commons gan Arto Alanenpää. Dan drwydded Creative Commons[/caption] Ddydd Mawrth 8 Tachwedd 2016 bydd Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, yn gwneud datganiad yn y Cyfarfod Llawn am 'Y Cynnig Gofal Plant i Gymru'. Mae'n debygol y bydd y datganiad hwn yn rhoi mwy o fanylion i Aelodau'r Cynulliad am yr ymrwymiad yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru i ddarparu mwy o ofal plant ar gyfer plant 3 a 4 oed. Mae Llywodraeth Cymru yn cyfeirio at yr uchelgais hwn fel 'y cynnig gofal plant mwyaf hael unrhyw le yn y DU'. Roedd maniffesto Plaid Lafur Cymru ar gyfer etholiad y Cynulliad yn 2016 yn cynnwys addewid i gyflwyno 30 awr o ofal plant yr wythnos am ddim i blant tair a phedair oed y mae eu rhieni'n gweithio, am 48 wythnos o'r flwyddyn. Yr addewid ym maniffesto Plaid Cymru oedd gofal cyn-ysgol llawn amser cyffredinol am ddim i blant 3 oed, erbyn diwedd tymor y Cynulliad, a hynny'n cael ei gyflwyno'n raddol, yn ogystal â buddsoddiad cyfalaf i sicrhau bod ysgolion yn addas ar gyfer y blynyddoedd cynnar. Ar ôl yr etholiad, roedd gwefan Plaid Cymru yn cyfeirio at ofal plant fel un o'r meysydd yn ei 'chytundeb' gyda Phlaid Lafur Cymru. Cyfeiriwyd at hyn hefyd yn y Compact i Symud Cymru Ymlaen mewn datganiad ar y cyd â Llafur Cymru. Y sefyllfa ar hyn o bryd yw bod gan bob plentyn tair a phedair oed yr hawl i isafswm o 10 awr yr wythnos o 'addysg y blynyddoedd cynnar' am 38 wythnos o'r flwyddyn o'r tymor ar ôl eu pen-blwydd yn dair. Cyfeirir at hyn yn aml fel 'gofal plant am ddim' ac mae'r ymadroddion yn cael eu defnyddio'n gyfnewidiol ar gyfer y grŵp oedran hwn. Awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am ddarparu'r hawl hon. Gall rhieni yng Nghymru hefyd wneud cais am ryddhad treth ar gyfer gofal plant, ond nid yw'r mater hwn wedi'i ddatganoli ac mae'n gyfrifoldeb i Lywodraeth y DU. Bydd y cynllun presennol, sef Gofal Plant â Chymorth Cyflogwr, yn cael ei ddisodli gan gynllun newydd, sef 'Gofal Plant Di-dreth' yn gynnar yn 2017. Beth rydym ni eisoes yn ei wybod am y 'Cynnig Gofal Plant'? Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ym mis Medi 2016, Symud Cymru Ymlaen, yn cynnwys ymrwymiad allweddol i ddarparu '30 awr yr wythnos o ofal plant rhad ac am ddim i rieni plant 3 a 4 oed sy'n gweithio, 48 wythnos y flwyddyn'. Nid yw'r manylion ynglŷn â'r dull o gyflawni hyn wedi'u cyhoeddi eto. (Nod cynllun presennol Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd yn 2013, Adeiladu Dyfodol Mwy Disglair: Cynllun Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant, yw 'nod[i'r] cyfeiriad ar gyfer y 10 mlynedd nesaf'.) Lansiwyd ymgyrch #TrafodGofalPlant gan Lywodraeth Cymru ym mis Medi 2016. Dywed ei gwefan y bydd rhai awdurdodau lleol yn cynnal y prosiectau peilot gofal plant newydd o dymor yr hydref, 2017 ac y cânt eu cyflwyno'n ehangach wedi hynny. Faint fydd cost y 'Cynnig Gofal Plant' newydd hwn i Lywodraeth Cymru? Gofynnodd y Prif Weinidog i'r Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru gynorthwyo Llywodraeth Cymru i ddatblygu dewisiadau ar gyfer ymestyn cymorth ar gyfer gofal plant yng Nghymru. Yn ei adroddiad 'Childcare Policy Options for Wales', ym mis Rhagfyr 2015, edrychwyd ar effeithiau posibl 20 awr yn ychwanegol o ofal plant am ddim ar gyfer plant cyn oedran ysgol, 3 i 4 oed, yng Nghymru. Ystyriodd ddau opsiwn: cynnig cyffredinol ar gyfer pob plentyn o'r oedran targed, a chynnig â gofyniad bod rhaid i'r unig riant, neu'r ddau riant os ydynt mewn cwpl, fod yn ennill yr hyn sy'n cyfateb i'r cyflog byw cenedlaethol newydd am 16 awr yr wythnos o leiaf. Dywed yr adroddiad mai'r gost flynyddol i gyllideb Llywodraeth Cymru fyddai £144 miliwn ar gyfer cynnig cyffredinol a £61 miliwn ar gyfer yr opsiwn â gofyniad gwaith, gan gymryd y byddai 100 y cant o'r rhai cymwys yn manteisio ar y cynnig, ac mai £4 yr awr fyddai'r costau darparu. Mae Tabl 2 yn yr adroddiad yn nodi amrywiaeth o opsiynau. Y costau uchaf a amcangyfrifir yw £228 miliwn a'r costau lleiaf a amcangyfrifir yw £53 miliwn y flwyddyn. Meddai'r BBC ym mis Hydref 2016 'Dywedodd Llywodraeth Cymru ei fod yn gweithio ar “fodelau cymhleth” o'r gost.’ Ar 2 Tachwedd 2016, dywedodd Carl Sargeant wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg mai £100 miliwn oedd yr amcangyfrif gorau cyfredol am y gost flynyddol. Gallwch glywed mwy am beth arall y dywedodd am y ‘cynnig gofal plant’ ar Senedd TV yma. Mae o ddiddordeb i Aelodau'r Cynulliad a fydd unrhyw fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol mewn gofal plant am ddim, mewn gwirionedd, yn cyflawni'r canlyniadau a fwriedir. Nodir yn adroddiad y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru: The policy options of an additional 20 hours free childcare for three to four year old preschool children with or without a work requirement would not have substantial impacts on net income, poverty or work behaviour for families with children. Mae'n mynd ymlaen i nodi: The impact on work participation and work hours for mothers in families with a child of target age is extremely small. The universal option is estimated to reduce work participation by 0.2 percentage points because it effectively raises out-of-work income as well as in-work income, while the option with a work requirement is estimated to raise work participation by 0.1 percentage points. The impact is limited because the policies have extremely small impacts on the net financial return to working. Given the relative budget costs, these findings indicate that the option with a work requirement would provide better value for money in encouraging parental employment, but the options have similar value for money in reducing poverty. However, neither option is likely to achieve either objective to any notable, possibly even discernible, degree. Mae'r Sefydliad yn cynnig rhagor o sylwadau yn y blog hwn. Meddai Ysgrifennydd y Cabinet yn ei dystiolaeth ysgrifenedig i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar Gyllideb Ddrafft 2016-17: Ar gyfer 2017-18, mae £10 miliwn o gyllid refeniw wedi'i ddyrannu i brofi cam cyntaf y Cynnig.  Yn ogystal, mae £20 miliwn y flwyddyn o 2018-19 ymlaen wedi'i gynnwys yn yr MEG Addysg ar gyfer buddsoddi mewn lleoliadau gofal plant ochr yn ochr â rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif. […] Mae gwaith modelu cost manwl yn cael ei wneud ar hyn o bryd.  Mae'r modelu a'r dadansoddi hwn yn adeiladu ar y gwaith a wnaed gan y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru / Frontier Economics yn ystod hydref 2015.  Mae hwn yn ddarn o waith cymhleth iawn gan fod ffactorau allweddol megis nifer y plant cymwys, cyfraddau derbyn, nifer yr oriau, hyd cymhwysedd ac effaith cost yr awr ar yr amcangyfrifon cost.  Ochr yn ochr â'r gwaith hwn, rwyf hefyd yn comisiynu adolygiad ariannol annibynnol o'r ddarpariaeth a'r gost o ddarparu gofal plant, a gwerth y sector gofal plant i economi Cymru.  Bydd hyn yn gwneud cyfraniad mawr at adeiladu'r sail dystiolaeth sydd ei hangen ar gyfer y cynnig gofal plant hyn ac yn ein galluogi i ddarparu gofal plant a ariennir gan y llywodraeth sy'n ddeniadol i'r sector ac yn darparu gwerth am arian i'r trethdalwr. Gweler tudalennau 15-18 ym mhapur Carl Sargeant am ragor o fanylion. Heriau posibl gweithredu'r 'cynnig gofal plant' newydd Mae amrywiaeth eang o faterion ymarferol yn debygol o godi o ganlyniad i gynyddu lefelau'r ddarpariaeth gofal plant yn sylweddol. Bydd angen mwy o le ffisegol i gyflwyno'r ddarpariaeth. Bydd angen mwy o staff gofal plant hefyd, gyda gweithlu sy'n gallu darparu'r hawl yn Saesneg ac yn Gymraeg. Mae'n debygol y bydd gallu ysgolion awdurdodau lleol ynghyd â darparwyr meithrin y sector preifat i gefnogi darpariaeth y cynnig ehangach yn allweddol i'r ffordd y caiff y cynnig gofal plant newydd hwn ei ddatblygu yn y dyfodol. Mae Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer Cymunedau a Phlant eisoes wedi dweud y bydd cynllun 10 mlynedd ar gyfer y blynyddoedd cynnar, gofal plant a'r gweithlu yn cael ei gyhoeddi yng ngwanwyn 2017. Bydd Llywodraeth Cymru yn awyddus i osgoi sylw yn y wasg tebyg i'r hyn a gafwyd yn Lloegr, pryd y dyfynnwyd darparwyr bod y system ar fin chwalu yn sgil cyflymu'r cynlluniau i ddyblu'r ddarpariaeth am ddim ar gyfer plant tair a phedair oed yn Lloegr. Ymatebodd yr adran addysg yn Lloegr i'r beirniadaethau hyn ym mis Awst 2016 gyda chynllun ariannu diwygiedig. Mae'r papur briffio hwn ar ofal plant gan Lyfrgell Tŷ'r Cyffredin yn rhoi mwy o fanylion am y sefyllfa yn Lloegr. Mae'r Prif Weinidog eisoes wedi dweud yn y Cyfarfod Llawn ar 18 Mai 2016 y bydd 'ansawdd y ddarpariaeth a mynediad teg yn allweddol i’n gwaith ar ddatblygu a chyflwyno’r cynnig hwn, o ran cyrhaeddiad daearyddol ac iaith.' Mae Carl Sargeant hefyd wedi dweud y bydd 'ein cynnig gofal plant datblygedig yn gweithio i sicrhau bod darpariaeth Gymraeg ddigonol, ar gyfer y rhai sydd am ei derbyn. Yn yr ymgynghoriad ar strategaeth newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg, ym mis Awst 2016, nodwyd uchelgais i gael miliwn o siaradwyr Gymraeg erbyn 2050. Mae'n cyfeirio at gynyddu'n sylweddol nifer y gweithwyr cyfrwng Cymraeg yn y sectorau blynyddoedd cynnar a gofal plant. Datganiad dydd Mawrth Nodwyd yn adroddiad PPIW y byddai ychydig o dan 47,500 o blant yn gymwys ar gyfer yr opsiwn cyffredinol, ac ychydig dros 20,000 o blant yn gymwys ar gyfer yr opsiwn â'r gofyniad gwaith. O ystyried nifer y plant a'r teuluoedd yr effeithir arnynt yn uniongyrchol, mae datganiad Llywodraeth Cymru a'r drafodaeth ddilynol yn debygol o ddenu llawer o ddiddordeb.