Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) newydd

Cyhoeddwyd 07/11/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

07 Tachwedd 2016 Erthygl gan Philippa Watkins Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg chamberoof Cyflwynwyd Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) ar 7 Tachwedd 2016. Dyma’r ail dro i Lywodraeth Cymru gyflwyno Bil o'r fath – cyflwynodd y Llywodraeth flaenorol ei Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) ym mis Mehefin 2015. Gwrthodwyd y Bil hwnnw yng Nghyfnod 4 ym mis Mawrth 2016. Mae ein blog ar 20 Hydref Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) fel y'i cyflwynwyd yn y Pedwerydd Cynulliad yn crynhoi'r cynnydd a wnaed gan y Bil blaenorol. Ni chynhwysir y cynigion i gyfyngu ar y defnydd o e-sigaréts mewn mannau cyhoeddus yn y Bil a gyflwynwyd yr wythnos hon ac ni chânt eu trafod yma. Fel arall, mae'r Bil bron yn union yr un fath â’r Bil Iechyd y Cyhoedd blaenorol fel y'i diwygiwyd yng Nghyfnod 3. Mae'r erthygl hon yn rhoi rhywfaint o wybodaeth gefndir ychwanegol am elfennau o'r Bil a oedd yn destun mwy o drafod yn y Pedwerydd Cynulliad, neu a ychwanegwyd at y Bil yn ystod y cyfnodau diwygio. Mae hyn yn cynnwys triniaethau arbennig, mangreoedd di-fwg ychwanegol (tir ysgol, tir ysbytai, meysydd chwarae cyhoeddus), ac asesiadau o’r effaith ar iechyd. Roedd y rhan fwyaf o elfennau'r Bil yn annadleuol. Roedd cefnogaeth eang ymhlith rhanddeiliaid ac aelodau o'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol blaenorol i’r penodau sy'n ymdrin â gwasanaethau fferyllol a darparu toiledau at ddefnydd y cyhoedd. Hefyd, croesawyd y cynigion i greu cofrestr genedlaethol o fanwerthwyr tybaco a chynhyrchion nicotin, a gwahardd rhoi tybaco ac ati i rai dan 18 oed. Roedd gwaith craffu mwy manwl yn canolbwyntio ar y penodau sy'n ymdrin â thriniaethau arbennig a thyllu personol, a’r prif fater yma yw p'un a ddylai triniaethau ychwanegol gael eu cynnwys yn y Bil. Ychwanegwyd y darpariaethau ynghylch mangreoedd di-fwg ychwanegol ac asesiadau o'r effaith ar iechyd yng Nghyfnod 3. Triniaethau arbennig Clywodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol blaenorol dystiolaeth gan amrywiaeth eang o randdeiliaid ar y cynnig i greu cynllun trwyddedu gorfodol ar gyfer ymarferwyr a busnesau sy'n cyflawni triniaethau arbennig penodol. Cytunodd fod digon o risg o niwed i iechyd y cyhoedd i gefnogi'r angen am gynllun trwyddedu sy'n cynnwys tatŵio, tyllu, aciwbigo ac electrolysis, fel y nodir yn y Bil. Rhesymeg Llywodraeth Cymru dros bennu’r pedair triniaeth hon ar wyneb y Bil yw bod y rhain yn cael eu cyflawni'n aml, ac mae digon o dystiolaeth o’r risg posibl o haint i gyfiawnhau eu cynnwys. Roedd y Pwyllgor yn bryderus o glywed am rai triniaethau i addasu'r corff mwy eithafol (fel rhannu'r tafod, brandio, creithio a mewnblaniadau is-groen). Nid yw'n hysbys pa mor aml y cyflawnir y mathau hyn o driniaethau, ond roedd pryder am y niwed posibl. Yn enwedig os yw triniaethau ymyrrol o’r fath, fel yr adroddodd rhai tystion, yn cael eu cyflawni gan bobl â gwybodaeth gyfyngedig am anatomeg neu reoli haint, neu'r gallu i reoli cymhlethdodau. Roedd y Pwyllgor yn pryderu yn yr un modd am y perygl o niwed o driniaethau cosmetig anlawfeddygol os cânt eu gweinyddu'n wael (mae hyn yn cynnwys triniaethau fel Botocs, llenwi croenol, pilio cemegol ac ati). Credai'r Pwyllgor y gall fod achos dros ychwanegu triniaethau i addasu'r corff a thriniaethau cosmetig anlawfeddygol at y Bil. Triniaethau cosmetig anlawfeddygol oedd pwnc adolygiad y DU o reoleiddio ymyriadau cosmetig yn 2013. Nododd y Pwyllgor blaenorol, a'r Gweinidog, eu siom yn y diffyg cynnydd o ran gweithredu argymhellion yr adolygiad. Wrth ymateb i adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor (pdf, 240kb), dywedodd y Gweinidog y byddai'n ystyried camau gweithredu amgen os nad oedd yn cael digon o sicrwydd ynghylch cynigion Llywodraeth y DU i reoleiddio'r triniaethau hyn. Gallai hyn gynnwys defnyddio pŵer gwneud rheoliadau y Bil i ddiwygio'r rhestr o driniaethau arbennig. Ni chytunwyd ar welliannau gan y gwrthbleidiau i ychwanegu rhai triniaethau i addasu'r corff at y Bil yng Nghyfnod 2. Dywedodd y Gweinidog ar y pryd fod angen ymchwilio ymhellach i'r risgiau o niwed sy'n gysylltiedig â'r triniaethau arbennig hyn cyn ystyried eu hychwanegu at y ddeddfwriaeth. Cofnododd ei fwriad i ymgynghori'n gynnar ar yr egwyddor o ychwanegu rhagor o driniaethau at y rhestr yn fuan ar ôl deddfiad y Bil. Ceir darpariaeth yn y Bil newydd i ychwanegu at y rhestr o driniaethau arbennig (neu i dynnu triniaethau oddi arni) i ystyried arferion newydd a newid tueddiadau, ac unrhyw dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg o risg i iechyd y cyhoedd. Cafodd y cynnig i wahardd tyllu personol ar blant dan 16 oed gefnogaeth eang. Clywodd y Pwyllgor bryder sylweddol am beryglon tyllu’r tafod, ac wedyn ychwanegwyd y tafod at y rhestr o rannau personol o'r corff a oedd wedi'u cynnwys ar wyneb y Bil. Mangreoedd di-fwg Ychwanegwyd mangreoedd di-fwg ychwanegol - tir ysgol, tir ysbytai a meysydd chwarae cyhoeddus – at Fil Iechyd y Cyhoedd y Pedwerydd Cynulliad yng Nghyfnod 3. Roedd y Bil hefyd yn cynnwys darpariaeth i ychwanegu mangreoedd di-fwg ychwanegol drwy gyfrwng rheoliadau 'os bodlonir Gweinidogion Cymru bod gwneud hynny yn debygol o gyfrannu tuag at hybu iechyd pobl Cymru'. Caiff hyn ei ailadrodd yn y Bil newydd. Dywed y Memorandwm Esboniadol y byddai cyfyngu ar smygu mewn mannau nad ydynt yn gaeedig, fel tir ysbytai, tir ysgol a meysydd chwarae i blant yn cyfrannu at ddad-normaleiddio smygu, trwy roi llai o gyfleoedd i’r gweithgaredd o smygu gael ei weld. Mae gwaharddiadau gwirfoddol ar waith mewn llawer o ardaloedd, er y cafwyd adroddiadau am anawsterau o ran gorfodi'r rhain, a bwriad y ddeddfwriaeth yw hwyluso gorfodaeth. Yn ogystal, y bwriad wrth wneud y darpariaethau sy’n ymwneud â thir ysbytai yw hybu newid mewn ymddygiad a chynorthwyo’r ysmygwyr sy’n defnyddio gwasanaethau ysbytai i roi’r gorau i ysmygu Gordewdra ac anweithgarwch corfforol/Asesiad o'r effaith ar iechyd Yn ystod y Pedwerydd Cynulliad, roedd pryder ymhlith rhanddeiliaid ynghylch y diffyg gweithredu i fynd i'r afael â gordewdra ac anweithgarwch corfforol yn y Bil fel y'i cyflwynwyd. Pwysleisiodd Llywodraeth Cymru na ddylid edrych ar y Bil Iechyd y Cyhoedd ar wahân, ond edrych arno ochr yn ochr â deddfwriaeth arall fel Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Dywedodd y Llywodraeth ei bod yn parhau i ystyried amrywiaeth o gamau i fynd i'r afael â gordewdra yng Nghymru, 'Nid yw’r rhan fwyaf ohonynt yn gofyn am ddeddfwriaeth sylfaenol neu gellid eu hystyried gan ddefnyddio pwerau deddfwriaethol presennol'. Roedd rhanddeiliaid yn gwthio am gynnwys asesiadau gorfodol o’r effaith ar iechyd yn y Bil. Roedd Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA), gyda chefnogaeth 22 o sefydliadau eraill gan gynnwys cyrff proffesiynol a sefydliadau yn y sector gwirfoddol, yn galw am i asesiadau o’r effaith ar iechyd fod yn statudol. Roedd yn awgrymu y dylid cynnwys gofyniad i asesu’r effaith ar iechyd ar wyneb y Bil, ac y dylai’r amgylchiadau pan fyddai asesiad o’r fath yn orfodol gael eu nodi mewn rheoliadau.

In the first instance we would suggest that these regulations could require that HIA is made mandatory in relation to Strategic and Local Development Plans, certain larger scale planning applications, the development of new transport infrastructure, Welsh Government legislation, certain statutory plans such as Local Well-being Plans, new NHS developments (e.g. new hospitals) and health service reconfiguration proposals.

Yn ystod Cyfnod 2, gwnaeth Llywodraeth Cymru ymrwymiad i gyflwyno gwelliant yng Nghyfnod 3 i gynnwys asesiad o'r effaith ar iechyd ar wyneb y Bil. Roedd hyn yn adlewyrchu argymhelliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghyfnod 1 i gyflwyno gofyniad i gynnal asesiadau gorfodol o'r effaith ar iechyd wrth ddatblygu polisïau, cynlluniau neu raglenni penodol. (Cafodd gwelliannau yn y maes hwn eu cyflwyno gan y gwrthbleidiau yng Nghyfnod 2, ond ni chynigiwyd y gwelliannau hyn oherwydd yr ymrwymiad a wnaethpwyd gan y Gweinidog). Mae’r Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) newydd fel y’i cyflwynwyd yn rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus gynnal asesiadau o’r effaith ar iechyd mewn amgylchiadau penodedig. Yn y Memorandwm Esboniadol, disgrifir asesiadau o’r effaith ar iechyd fel cynnig ‘dull systematig o ystyried iechyd fel rhan o brosesau gwneud penderfyniadau a chynllunio. Maent yn arf y gellir ei ddefnyddio mewn unrhyw faes o weithgaredd sector cyhoeddus, preifat neu wirfoddol, ac ar lefelau cenedlaethol a lleol’. Mae'r Memorandwm Esboniadol yn tynnu sylw at y ffaith bod asesiadau o'r effaith ar iechyd eisoes yn cael eu cynnal ledled Cymru, gyda chefnogaeth Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru ymroddedig (WHIASU) o fewn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae'r Bil yn ceisio cryfhau’r sefyllfa bresennol drwy wneud y defnydd o Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd yn orfodol mewn amgylchiadau penodedig. Nod y Bil yw mabwysiadu agwedd gymesur - byddai asesiadau yn gyfyngedig i bolisïau, cynlluniau a rhaglenni sy'n arwain at ganlyniadau o bwys cenedlaethol neu fawr, neu sy'n cael effaith sylweddol ar y lefel leol ar iechyd y cyhoedd. Mae'r Memorandwm Esboniadol yn datgan y bydd y rheoliadau sy'n nodi'r amgylchiadau a'r modd y mae'n rhaid i gyrff cyhoeddus gynnal asesiadau o'r effaith ar iechyd, yn cael eu datblygu drwy ymgynghori. Byddant yn destun cymeradwyaeth gan y Cynulliad o dan y weithdrefn gadarnhaol. Er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, cynigir bod pob un o'r cyrff cyhoeddus sy’n cael eu cynnwys yn y Ddeddf hefyd yn cael eu cynnwys dan y gofynion i gynnal asesiad o’r effaith ar iechyd.