Adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2016 yn rhoi darlun sy'n peri pryder

Cyhoeddwyd 08/11/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

8 Tachwedd 2016 Erthygl gan Katy Orford, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg [caption id="attachment_6415" align="alignright" width="300"]Llun o forlo llwyd bychan Llun: flickr gan
Alastair Rae. Dan drwydded Creative Commons[/caption] Mae 56% o rywogaethau y DU a astudiwyd wedi dirywio dros y 50 mlynedd diwethaf, yn ôl Adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2016 a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Bydd canfyddiadau'r adroddiad, sy'n pwyso a mesur bywyd gwyllt brodorol yn y DU, yn cael eu trafod yn y Cyfarfod Llawn ar 9 Tachwedd. Mae'r adroddiad yn adeiladu ar yr Adroddiad Sefyllfa Byd Natur cyntaf a gyhoeddwyd yn 2013 (PDF 6.93 MB) ac yn gydweithrediad gan 53 o sefydliadau, gan gynnwys RSPB, yr Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, WWF, Coed Cadw a'r Gymdeithas Cadwraeth Forol. Mae adroddiad Cymraeg (PDF 2.80 MB) hefyd wedi'i gyhoeddi. Ni ddylid drysu'r Adroddiad Sefyllfa Byd Natur, a luniwyd gan gyrff anllywodraethol, â'r Adroddiad ar Gyflwr Adnoddau Naturiol a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Cyhoeddiad statudol Cyfoeth Naturiol Cymru yw hwn sy'n asesu adnoddau naturiol yng Nghymru. Y canfyddiadau allweddol Yn y DU...
  • Mae 56% o'r rhywogaethau a astudiwyd wedi dirywio ar draws y DU dros y 50 mlynedd diwethaf, gan gynnwys y boda glas a'r heulforgi;
  • Mae dros draean o rywogaethau fertebrat a phlanhigion morol (sy'n hysbys i ni) wedi prinhau, gyda thri chwarter o rywogaethau infertebrat morol yn dirywio ledled y DU.
  • Mae 1 o bob 10 o'r 8,000 o rywogaethau a aseswyd yn y DU mewn perygl o ddiflannu; ac
  • Mae 7,500,000 o oriau gwirfoddolwyr yn cael eu treulio yn monitro bywyd gwyllt y DU bob blwyddyn.
Yng Nghymru...
  • Mae disgwyl i un o bob 14 o rywogaethau fynd i ddifodiant gan gynnwys bras yr ŷd a'r durtur (sydd ill dau yn rhywogaethau sy'n cael blaenoriaeth yng Nghymru – a restrir o dan adran 7 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016);
  • Dros yr hirdymor (1970-2013), bu dirywiad ymysg 57% o blanhigion gwyllt, 60% o loÿnnod byw a 40% o adar; ac
  • Yn achos rhywogaethau sy'n cael blaenoriaeth yng Nghymru, caiff 33% ohonynt eu cyfrif fel rhai sydd wedi dirywio dros y degawd diwethaf. Mae 43% yn cael eu cyfrif fel rhai sefydlog/bron dim newid, ac yn achos 24% ohonynt mae'r rhagolygon wedi gwella.
Y rhesymau dros y newid Mae awduron yr adroddiad yn nodi mai dyma'r tro cyntaf y mae arbenigwyr wedi gallu adnabod a mesur y prif resymau dros newid ym mywyd gwyllt y DU. Mae arferion amaethyddol dwys a newid yn yr hinsawdd yn arbennig wedi arwain at golli cynefinoedd, disbyddu priddoedd a chynnydd yn effeithiau llifogydd a sychder. Mesur gallu'r amgylchedd i gynnal cymdeithas Cyflwynir dadansoddiad newydd yn yr adroddiad, sef y 'Mynegai Cyfanrwydd Bioamrywiaeth' (BII), sy'n asesu iechyd yr amgylchedd naturiol mewn 218 o wledydd. Bernir bod sgôr BII islaw 90% yn golygu nad yw ecosystem bellach yn gallu cefnogi anghenion cymdeithas, na natur. Sgoriodd Cymru 82.8%, yr Alban 81.3%, Lloegr 80.6% a Gogledd Iwerddon 80%. Er bod Cymru yn y safle gorau yn y DU, mae yn yr 20% isaf o'r 218 o wledydd. Llwyddiannau yng Nghymru Mae adroddiad Cymru yn tynnu sylw at amrywiaeth o brosiectau cadwraeth llwyddiannus, gan gynnwys prosiect y glöyn byw brith perlog, lle mae gwaith rheoli cynefin wedi arwain at dueddiadau hirdymor cadarnhaol. Mae enghreifftiau eraill yn cynnwys y rhaglen i ailgyflwyno'r bele ac arolwg hirdymor o'r morloi llwyd ar Ynys Dewi. Y negeseuon i'w cymryd o'r adroddiad Sefyllfa Byd Natur Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at ymrwymiadau'r DU i gyflawni nodau amgylcheddol rhyngwladol, fel y Targedau Aichi 2020 y Confensiwn ar Amrywiaeth Biolegol (CAB) a Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig ar gyfer 2030. Mae'r DU eisoes wedi methu'r targedau CAB 2010, ac mae canfyddiadau'r adroddiad yn dangos nad yw ar y trywydd iawn i gyrraedd targedau 2020, a bod angen cymryd camau sylweddol i gyrraedd y Nodau Datblygu Cynaliadwy. O ystyried y canfyddiad mai amaethyddiaeth yw un o'r prif resymau dros golli bioamrywiaeth yn y DU, mae awduron yr adroddiad yn troi at lywodraethau i ystyried y canfyddiadau hyn wrth lunio cynlluniau ffermio yn y dyfodol. Mae'r Cynulliad wrthi'n cynnal ymchwiliad i ddyfodol amaethyddiaeth ar ôl i'r DU adael yr UE. Yn ystod dadl yn y Cyfarfod Llawn wythnos nesaf, bydd Aelodau'n galw ar Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus i sicrhau bod 'gwyrdroi'r dirywiad yn ein bioamrywiaeth yn ganolog i bolisïau rheoli cynaliadwy'. Dywedodd Mark Eaton o'r RSPB, prif awdur ar yr adroddiad:
Nid ydym wedi gwybod cymaint am sefyllfa byd natur yn y DU a'r bygythiadau y mae'n eu hwynebu erioed o'r blaen. Ers 2013, mae'r bartneriaeth a llawer o dirfeddianwyr wedi defnyddio'r wybodaeth hon fel sail i rywfaint o waith gwyddonol a chadwraeth anhygoel. Ond mae angen gwneud mwy i roi natur yn ôl yn ei briod le – mae'n rhaid i ni barhau i weithio i helpu i adfer ein tir a'n môr ar gyfer bywyd gwyllt.
Y darlun byd-eang Bydd adroddiad byd-eang newydd ar sefyllfa byd natur gan y WWF, sef 'Living Planet Report 2016', yn cael ei lansio y mis hwn yn y Senedd ar 17 Tachwedd.