Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru

Cyhoeddwyd 09/11/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

09 Tachwedd 2016 Erthygl gan Sian Thomas Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg CC LogoYn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 15 Tachwedd 2016, bydd Aelodau'r Cynulliad yn trafod Adroddiad blynyddol (2015-16) diweddaraf Comisiynydd Plant Cymru. Bydd yn gyfle i Aelodau'r Cynulliad drafod y materion a’r problemau diweddaraf sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc Cymru a chlywed ymateb Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, i gasgliadau'r adroddiad. Disgwylir i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei hymateb ysgrifenedig yn dilyn y ddadl. Y mis diwethaf, clywodd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad gan y Comisiynydd yn uniongyrchol am y materion sydd wedi’u cynnwys yn ei hadroddiad. Gallwch weld yr hyn a drafodwyd ar Senedd TV yma. Y Comisiynydd a'i rôl Sally Holland yw'r trydydd person i ymgymryd â rôl y Comisiynydd Plant, a dechreuodd yn y swydd ym mis Ebrill 2015. Prif nod y Comisiynydd wrth arfer ei swyddogaethau yw diogelu a hybu hawliau a lles plant, a thalu sylw i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn ym mhopeth y mae'r Comisiynydd a'i thîm yn ei wneud. Mae rhagor o fanylion am y Confensiwn a'r sefyllfa yng Nghymru i'w gweld yn mlog y Gwasanaeth Ymchwil Hawliau plant yng Nghymru: y diweddaraf 2016. Gall y Comisiynydd
  • Adolygu effeithiau polisïau, polisïau arfaethedig a'r ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu;
  • Archwilio achos plentyn neu blant penodol os yw'n ymwneud â mater sy'n fwy perthnasol yn gyffredinol i fywydau plant yng Nghymru;
  • Ei gwneud yn ofynnol i asiantaethau, neu bersonau sy'n gweithredu ar eu rhan, roi gwybodaeth ac i dystion roi tystiolaeth ar eu llw;
  • Rhoi cyngor a chymorth i blant a phobl ifanc, ac eraill;
  • Trafod sylwadau a'u cyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ynghylch unrhyw fater sy'n effeithio ar hawliau a lles plant yng Nghymru.
Mae cylch gorchwyl y Comisiynydd yn cwmpasu pob maes o bwerau datganoledig Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy'n berthnasol i hawliau a lles plant. Mae ei chylch gorchwyl yn cynnwys plant a phobl ifanc hyd at 18 oed sy'n byw yng Nghymru, neu sydd fel arfer yn byw yng Nghymru. Mae hefyd yn cynnwys pobl ifanc hyd at 25 oed os ydynt wedi 'derbyn gofal' yn y gorffennol. Mae ei swyddfa yn gwneud gwaith achos uniongyrchol ar ran plant a phobl ifanc. Beth y mae’r Adroddiad blynyddol diweddaraf yn canolbwyntio arno? Mae'r adroddiad blynyddol yn nodi amrywiaeth eang o faterion sy'n wynebu plant a phobl ifanc yng Nghymru ac yn eu categoreiddio o dan y penawdau canlynol:
  • Gwasanaethau: Iechyd meddwl; Addysg (gan gynnwys 'Anghenion dysgu ychwanegol' ac 'addysg ddewisol yn y cartref'); Gofal cymdeithasol (gan gynnwys eiriolaeth, mabwysiadu a chyfnodau o seibiant byr i blant anabl).
  • Tlodi: Dywed y Comisiynydd 'Mae gormod o blant yng Nghymru yn methu cael plentyndod teilwng oherwydd effeithiau llethol tlodi plant. […] Mae angen i Lywodraeth Cymru fynd ati ar frys i ddwysáu ei hymdrechion i drechu tlodi plant.' (Mae’r ystadegau diweddaraf, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2016, yn dangos bod 29% o blant Cymru yn byw mewn tlodi, yr un fath â Lloegr ac yn uwch na Gogledd Iwerddon (25%) a'r Alban (22%).)
  • Diogelu: Camfanteisio’n rhywiol ar blant ac achosion hanesyddol o gam-drin plant; Amddiffyniad cyfartal; Teithio i'r ysgol; Preifatrwydd mewn llysoedd ieuenctid.
  • Cyfranogiad: Dywed y Comisiynydd 'Er nad yw fy nghylch gwaith deddfwriaethol yn fy ngalluogi i wneud argymhellion i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, hoffwn ailddatgan fy mwriad i alw am ailsefydlu gofod democrataidd cenedlaethol ar gyfer pobl ifanc, ar ffurf Cynulliad ieuenctid.' (Gweler cyhoeddiad diweddar y Llywydd yma)
Beth yw blaenoriaethau'r Comisiynydd Yn dilyn ei hymgynghoriad 'Beth Nesa' / 'What next', a gynhaliwyd i’w helpu i bennu ei blaenoriaethau, cyhoeddodd y Comisiynydd Gynllun ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc 2016. Yn ôl Sally Holland, 'erbyn 2019, rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus wedi gwneud cynnydd sylweddol tuag at gyflawni'r gwelliannau canlynol ar gyfer plant:
  • Bydd plant a phobl ifanc yn cael mynediad i’r gwasanaethau iechyd meddwl sydd eu hangen arnynt, a hynny’n brydlon. Bydd rhaglenni cryfach ar gyfer hybu iechyd a llesiant emosiynol yn ein gwasanaethau iechyd a chymdeithasol, ein hysgolion a’n gwasanaethau ieuenctid.
  • Bydd gwell dealltwriaeth o brofiadau cyfoes plant o fwlio, a bydd mwy o ysgolion yn atal bwlio’n effeithiol ac yn mynd i’r afael â’r broblem.
  • Bydd gwell mynediad i weithgareddau chwarae, diwylliant a hamdden gan y plant sy’n fwyaf tebygol o fod yn brin o’r cyfleoedd hynny, yn arbennig y rhai sy’n byw mewn tlodi a phlant anabl.
  • Bydd y rhai sy’n gadael gofal yn cael gwell mynediad i opsiynau tai diogel, sicr, a chynnig swydd, addysg neu le mewn hyfforddiant.
  • Bydd gwell pontio i wasanaethau oedolion ar gyfer yr holl bobl ifanc sydd angen cefnogaeth iechyd a chymdeithasol barhaus.
  • Bydd plant yn cael yr un amddiffyniad cyfreithiol ag oedolion rhag ymosodiad corfforol.
  • Bydd plant a phobl ifanc yn cael eu cynnwys yn well mewn gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys fy sefydliad fy hun.”
Wrth amlinellu elfennau o'r gwaith y mae hi'n bwriadu ymgymryd â nhw ei hun, dywedodd Sally Holland:
  • ‘Gofynnodd plant o dan 7 i mi roi blaenoriaeth i gyfleoedd chwarae yn ystod y tair blynedd nesaf. Bydda i’n hyrwyddo hawliau plant i gael chwarae a chymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden a diwylliannol, beth bynnag yw eu hamgylchiadau.
  • Mae plant 7-18 oed wedi nodi mai bwlio yw eu prif flaenoriaeth. Bydda i’n gweithio gyda’r plant ac eraill i ganfod a hybu ffyrdd effeithiol o fynd i’r afael â bwlio. Mae bwlio hefyd yn gysylltiedig ag iechyd meddwl a llesiant – pryderon pennaf gweithwyr proffesiynol a rhieni.
  • Yn 2016-17 bydda i’n lansio prosiect tair blynedd i wella’r pontio o blentyndod i oedolaeth ar gyfer y rhai sydd angen cefnogaeth a gwasanaethau – mae hyn yn cynnwys rhai sy’n gadael gofal a rhai sydd â chyflyrau iechyd cronig ac anableddau.
  • Bydda i’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc ar draws Cymru, yn y Gymraeg a’r Saesneg. Bydda i’n sicrhau mod i’n gwrando ar y plant a’r bobl ifanc sy’n cael y drafferth fwyaf i gyrchu eu hawliau, gan gynnwys plant anabl, rhai o leiafrifoedd ethnig, ieithyddol a rhywiol. Bydda i’n mesur sut rwy’n ymgysylltu â gwahanol grwpiau ledled Cymru er mwyn i blant a phobl ifanc fedru fy ngwneud yn atebol am hynny.'
Mae’r ddadl wedi'i threfnu ar gyfer 4pm dydd Mawrth 15 Tachwedd a gellir ei gwylio'n ar Senedd TV yma.