Cyhoeddiad Newydd: Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yng Nghymru

Cyhoeddwyd 10/11/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

10 Tachwedd 2016 Erthygl gan Michael Dauncey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Y mis nesaf, bydd Bil Llywodraeth Cymru, sydd â’r nod o ddiwygio'r system Anghenion Addysgol Arbennig (AAA), yn dechrau ei daith drwy broses ddeddfwriaethol y Cynulliad. blog-welsh Bydd y Bil arfaethedig yn gosod system ddiwygiedig yn seiliedig ar Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn lle'r fframwaith Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) presennol. Mae'r papur briffio ymchwil (PDF, 1027KB) hwn yn rhoi gwybodaeth gefndir i helpu i baratoi ar gyfer y Bil ac i gefnogi gwaith craffu’r Cynulliad ar fater sydd wedi bod yn flaenllaw ym meddyliau rhanddeiliaid a llunwyr polisi, a theuluoedd wrth gwrs, am flynyddoedd lawer. Mae'r papur hwn yn rhoi disgrifiad cyffredinol o'r fframwaith AAA presennol, yn esbonio'r darpariaethau a'r prosesau presennol, ac yn olrhain y daith adolygu a diwygio drwy gydol cryn dipyn o oes y Cynulliad, gan gynnwys yr ymgynghoriad mwyaf diweddar ar Fil drafft yn 2015. Mae data hefyd wedi'u cynnwys ar nifer y dysgwyr ag AAA/ADY a'u cyflawniad academaidd, ynghyd ag ystadegau ynghylch ariannu. Ar hyn o bryd mae 105,000 o ddisgyblion – sef 1 ym mhob 5 – yng Nghymru wedi’u nodi fel bod ag AAA/ADY. Mae £362 miliwn wedi'i gyllidebu bob blwyddyn ar gyfer darpariaeth i'w cefnogi ac i ddiwallu eu hanghenion. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod nad yw’r system yn addas at y diben a’i bod yn hen bryd ei diwygio. Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar Fil drafft yn 2015 a chyhoeddodd grynodeb o'r 263 o ymatebion a ddaeth i law. Roedd hwn yn dangos bod gan randdeiliaid bryderon am y cynigion deddfwriaethol yn eu ffurf drafft a byddant yn disgwyl gweld Bil gwell y tro hwn. Mae llawer o'r materion a godwyd, fel dyletswyddau ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd i gydweithio, darpariaeth blynyddoedd cynnar ac ôl-16, a threfniadau ar gyfer datrys anghydfod ac osgoi anghytundeb, yn adleisio'r rhai a amlygwyd yn ystod gwaith craffu cyn deddfu y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar y Bil drafft tua diwedd 2015. Mae’r papur ymchwil wedi cael ei amseru i ategu gwaith craffu Aelodau'r Cynulliad ar y Bil arfaethedig ac ystyriaeth gyffredinol o’r mater pwysig hwn, sy'n effeithio ar deuluoedd ledled Cymru. Cyhoeddiad Newydd: Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yng Nghymru (PDF, 1027KB)