Gweithio tuag at weithlu cynaliadwy i'r GIG yng Nghymru

Cyhoeddwyd 15/11/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

15 Tachwedd 2016 Erthygl gan Philippa Watkins, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Delwedd o siapiau pobl wedi eu torri o bapurMae cynaliadwyedd gweithlu GIG Cymru am barhau i fod yn un o brif heriau'r gwasanaeth yn ystod y blynyddoedd nesaf. Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch rhai o'r prif faterion a sut yr eir i'r afael â nhw. Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad Cenedlaethol Mae Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad wedi nodi bod cynnal gwaith ar y gweithlu yn un o’i brif flaenoriaethau yn ystod y Pumed Cynulliad. Yn ystod haf 2016, cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad ac arolwg ar gynaliadwyedd y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol, a chytunwyd y dylid ystyried materion sy'n ymwneud â'r gweithlu, gan gynnwys unrhyw effaith a ddaw yn sgil Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, fel rhan o holl waith craffu'r Pwyllgor ar bolisïau a deddfwriaeth. Mae rhai darnau penodol o waith eisoes wedi cael eu blaenoriaethu, gan gynnwys ymchwiliadau i recriwtio meddygol a gofal sylfaenol. Data am y gweithlu Yn yr ymatebion i ymgynghoriad y Pwyllgor ar y gweithlu, daeth i'r amlwg nad oes gennym ddealltwriaeth lawn a chywir am y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol presennol. Heb os, mae hyn yn rhwystr wrth geisio cynllunio'n effeithiol ar gyfer y gweithlu. Mae bylchau sylweddol ar gyfer rhai grwpiau o staff a lleoliadau gofal, ond nid oes digon o wybodaeth ar gael am ffactorau eraill ychwaith e.e. swyddi gwag, faint o staff dros dro sy'n cael eu defnyddio, neu sgiliau a chymhwysedd staff sydd mewn gwaith. Mae'r diffyg data cadarn ynghylch y gweithlu'n cael ei nodi yng nghynllun gweithlu gofal sylfaenol Llywodraeth Cymru yn 2015, a osododd nifer o gamau gweithredu yr oedd angen eu cymryd yn y maes hwn. Nododd y cynllun gweithlu gofal sylfaenol hefyd cymaint oedd angen i’r ddelfryd ar gyfer y gwasanaethau fod yn fwy eglur er mwyn deall yn iawn pa fath o weithlu fydd ei angen yn y tymor hir. Dyma bwynt allweddol. Pwysleisiodd yr adolygiad o fuddsoddi mewn addysg i weithwyr iechyd proffesiynol (2015), a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, ac adolygiad o’r gweithlu GIG Cymru (2016) cymaint oedd yr angen am weledigaeth strategol newydd, eglur ar GIG Cymru sy'n seiliedig ar yr agenda gofal iechyd darbodus - a hynny ar fyrder. Rhaid i hyn lywio'r strategaeth ar gyfer y gweithlu. Strategaeth y gweithlu Nododd adroddiad Hydref 2016 y Sefydliad Iechyd, Y llwybr i gynaliadwyedd: Rhagolygon cyllid ar gyfer y GIG yng Nghymru i 2019/20 a 2030/31, hefyd mai datblygu polisi gweithlu cryf yw un o'r camau angenrheidiol i greu GIG yng Nghymru sy'n gynaliadwy'n ariannol. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymrwymo i ddatblygu strategaeth deng mlynedd, a bwriadwyd cyhoeddi'r strategaeth hon ddiwedd 2016. Ym mis Medi, disgrifiodd Ysgrifennydd y Cabinet rywfaint o'r gwaith sydd eisoes ar droed. Ni fydd strategaeth y gweithlu, fodd bynnag, yn cael ei chyhoeddi nes y bydd yr adolygiad seneddol i ddyfodol tymor hir iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru wedi cael ei gwblhau.
Vaughan Gething: The review represents a real opportunity to build a consensus on the priorities and long-term aims of health and social care in Wales, both of which will help further inform the direction of the future workforce. In light of this, the 10-year plan publication date has been moved, to allow for the Parliamentary Review to conclude and provide a period of time to analyse the outcome of the review and develop the plan accordingly. (ateb i WAQ68063)
Mae sefydlu adolygiad seneddol yn un o flaenoriaethau rhaglen pum mlynedd Llywodraeth Cymru, Symud Cymru Ymlaen. Disgwylir i'r cylch gorchwyl gael ei gyhoeddi yn ddiweddarach y mis hwn. Disgwylir i'r adolygiad gymryd tua 12 mis i'w gyhoeddi. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi nodi na ddylai rhai camau gweithredu ar y gweithlu gael eu hoedi nes y bydd canlyniad yr adolygiad seneddol wedi cael ei gyhoeddi. Mae hyn yn cynnwys lansiad yr ymgyrch newydd ar gyfer recriwtio meddygol (Hydref 2016) a chynnig newydd ar gyfer meddygon teulu, yn ogystal â gweithio i sefydlu un corff penodol ar gyfer cynllunio a datblygu'r gweithlu ynghyd â chomisiynu addysg a hyfforddiant ar ei gyfer. Creu un corff penodol oedd un o'r argymhellion mwyaf arwyddocaol o blith yr argymhellion a wnaed yn yr adolygiad o fuddsoddi mewn addysg i weithwyr iechyd proffesiynol (2015) yng Nghymru, a'i fwriad yw cynnig dull mwy strategol a chydgysylltiedig wrth gynllunio a hyfforddi gweithlu’r GIG. Ar 10 Tachwedd 2016, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet fod corff penodol newydd yn cael ei sefydlu, sef Addysg Iechyd Cymru. Disgwylir i Addysg Iechyd Cymru fod yn weithredol o fis Ebrill 2018. Llesiant staff Nododd rhanddeiliaid yn eu hymateb i ymgynghoriad ac arolwg y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon fod iechyd, lles a diogelwch staff yn brif flaenoriaeth wrth geisio creu gweithlu cynaliadwy. Mae'r gyfradd absenoldeb oherwydd salwch yn GIG Cymru yn 4.8 y cant yn ôl yr ystadegau diweddaraf (ar gyfer y chwarter a ddaeth i ben ddiwedd mis Mehefin 2016. Sylwer bod y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch yn amrywio’n fawr o dymor i dymor, â'r gyfradd yn is yn ystod yr haf). Mae'r gyfradd uchaf ymhlith staff ambiwlans (6.9 y cant), ac yna mae'r cynorthwywyr gofal iechyd a gweithwyr cymorth (6.7 y cant). Mae'r cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch wedi bod yn uchel yn gyson yn y ddau grŵp hwn o staff. Yn yr arolwg ar wasanaeth meddygon teulu a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Gymdeithas Feddygol Prydain, nododd dros 60 y cant o'r ymatebwyr nad oes ganddynt gydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith. Dywedodd bron i dri chwarter yr ymatebwyr fod llwyth gwaith eisoes wedi cael effaith negyddol ar iechyd y staff o fewn y practis. Dywedodd Cymdeithas Feddygol Prydain wrth y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon (pdf, 715kb):
We regularly hear from members that stress-related illnesses are becoming increasingly common. Burnout is a very serious threat to the sustainability of services, not to mention to individual doctors’ health. We believe that an all-Wales comprehensive occupational health service for all NHS staff is required.
Cynigodd Cymdeithas Seicolegol Prydain (pdf, 163kb) y gellid cael effaith bositif ar gynaliadwyedd gwasanaethau trwy hybu rhagor ar iechyd a lles. Integreiddio gwasanaethau Mae rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn ei hymrwymo i ddatblygu gwasanaethau iechyd a gofal integredig a chynaliadwy. Pwysleisiodd adolygiad o’r gweithlu GIG Cymru, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, fod diffiniad y term 'integreiddio' yn anelwig, a galwodd ar Lywodraeth Cymru i ddatgan yn fwy eglur i ba raddau yr hoffai weld integreiddio ar waith. Dangosodd yr adolygiad o'r gweithlu mai ffactor a allai fod yn rhwystr sylweddol wrth geisio integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol fyddai'r cyflogau ynghyd â thelerau ac amodau cyflogaeth sy'n amrywio rhwng staff a gyflogir ar gontractau GIG, staff a gyflogir gan y llywodraeth leol a staff a gyflogir yn y sector annibynnol.
Outcomes are better when clinical staff worked in multi-disciplinary teams with social care staff. However, the perceived lower status of social care staff compared to healthcare staff can create significant difficulties in developing integrated systems.
Ategwyd y pwynt hwn yn ymatebion y rhanddeiliaid i'r ymgynghoriad ar y gweithlu a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon. Nododd nad yw proffesiwn gofal cymdeithasol yn cael ei weithfawrogi ddigon, er bod gofalwyr yn chwarae rhan allweddol yn diwallu anghenion y boblogaeth a chynnig gofal yn agosach i'r cartref.