A oes angen gwell amddiffyniad gan y gyfraith ar bobl hŷn?

25 Tachwedd 2016

Erthygl gan Stephen Boyce, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

A oes angen cyfreithiau newydd a chryfach i amddiffyn pobl hŷn? Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn meddwl felly. Mae hi’n pryderu ynghylch y perygl i bobl hŷn fod yn agored i droseddu, camdriniaeth a chamwahaniaethu. Mae ei Hadroddiad Effaith a Chyrhaeddiad 2015-16, a fydd yn destun dadl yn y Senedd ddydd Mawrth, yn tynnu sylw at rai o’r anawsterau y mae pobl hŷn yng Nghymru yn eu hwynebu.

Mae rhai o’r anawsterau hyn yn ymwneud â chamdriniaeth ac esgeulustod. Mae’r Comisiynydd yn dweud bod cam-drin domestig yn effeithio ar fwy na 40,000 o bobl hŷn bob blwyddyn. Mae hi wedi bod yn cynnal digwyddiadau i godi ymwybyddiaeth o bobl hŷn yn dioddef cam-drin domestig, ac mae hi wedi disgrifio hyn fel ‘epidemig cudd’.

Yn y blynyddoedd diweddar, mae ymchwiliadau i wasanaethau gofal wedi datgelu gofal o ansawdd gwael ac esgeulustod mewn rhai cartrefi gofal. Canfu adolygiad y Comisiynydd ei hun o ofal preswyl yn Lle i’w Alw’n Gartref? fod gormod o bobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal sydd ag ansawdd bywyd annerbyniol. Hefyd, canfu’r Comisiynydd enghreifftiau o ofal da sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn mewn cartrefi gofal yng Nghymru, ac mae hi wedi bod yn trefnu seminarau i rannu arferion da gyda darparwyr gofal.

Bydd y Comisiynydd yn gwneud adolygiad dilynol y flwyddyn nesaf i olrhain cynnydd o ran rhoi’r gwelliannau angenrheidiol i ofal preswyl ar waith. Mae hi’n galw am gryfhau’r gyfraith i roi gwell amddiffyniad i bobl hŷn sy’n dioddef yn sgil gofal is-safonol, camdriniaeth neu esgeulustod.

Mae deddfwriaeth ddiweddar yn y Cynulliad wedi ceisio rhoi gwell amddiffyniad rhag camdriniaeth. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a ddaeth i rym ym mis Ebrill eleni, yn darparu fframwaith newydd ar gyfer amddiffyn oedolion, a ddylai helpu i wella’r amddiffyniad i bobl hŷn sy’n agored i niwed.

Fodd bynnag, mae rhai bygythiadau yn gofyn am wyliadwriaeth yn ogystal â deddfwriaeth. Mae’r Comisiynydd wedi bod yn gweithio gydag Age Cymru i greu Partneriaeth Cymru yn Erbyn Sgamiau (WASP), ac mae ei phartneriaid yn cynnwys yr Heddlu a Safonau Masnach. Nod y bartneriaeth yw amddiffyn pobl yn well rhag sgamiau a gwneud Cymru’n lle gelyniaethus i’r troseddwyr sy’n eu gweithredu.

Mae’r Comisiynydd hefyd yn galw am newidiadau yn y gyfraith i ymdrin â’r hyn y mae hi’n ei weld fel anghydraddoldeb yn y system cyfiawnder troseddol. Mae hi’n dweud bod nifer y bobl a geir yn euog am droseddau yn erbyn pobl hŷn yn llawer is na fel cyfran o’r boblogaeth gyfan. Gall hyn adlewyrchu diffygion yn y prawf tystiolaethol, diffyg parodrwydd i erlyn yn achos troseddau yn erbyn pobl hŷn, neu wendidau yn y gyfraith ei hun. Mae hi’n gweithio gyda Chomisiwn y Gyfraith ar hyn o bryd i nodi meysydd penodol lle mae’r gyfraith bresennol yn ddiffygiol, ac mae hi wedi amlinellu ei phryderon i’r Ysgrifennydd Cyfiawnder a’r Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus.

Mae’r Comisiynydd hefyd wedi bod yn ymgymryd â gwaith i godi ymwybyddiaeth o wahaniaethu ar sail oedran a mynd i’r afael â hyn.  Mae hi’n dweud bod cael eu trin yn annheg oherwydd oedran yn tanseilio hunan-barch, hunan hyder ac ansawdd bywyd pobl hŷn, a gall olygu eu bod yn cael eu trin fel dinasyddion ail ddosbarth.  Mae hi wedi ceisio herio stereoteipiau am bobl hŷn drwy ei hymgyrch ‘Na i Oedraniaeth’, a phwysleisio’r ffaith eu bod yn cyfrannu dros £1 biliwn y flwyddyn i’r economi drwy eu cyfraniad i gymunedau yng Nghymru.

Mae llawer o waith y Comisiynydd yn ymwneud ag ymgyrchu, codi ymwybyddiaeth a hyrwyddo arfer da ym maes gwasanaethau cyhoeddus, ond mae hi o’r farn bod angen i hyn fod yn seiliedig ar waith cryf ar sail hawliau er mwyn hyrwyddo buddiannau pobl hŷn.  Mae hi wedi cynnig deddfwriaeth ar gyfer Cymru a fydd;

yn gwarchod ac yn hyrwyddo hawliau pobl hŷn fel eu bod yn gallu byw heb ddioddef cam-drin, esgeulustod a gwahaniaethu o bob math, a chwarae rhan lawn yn eu cymunedau a ffynnu wrth heneiddio.

Byddai’r ddeddfwriaeth yn rhoi dyletswyddau penodol ar gyrff cyhoeddus ynghylch hawliau pobl hŷn. Mae’r cynnig wedi cael ymateb ffafriol ar y cyfan, ac mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ei bod yn cefnogi yr egwyddorion ar gyfer Bil.   Mae’r Comisiynydd wedi sefydlu grŵp cynghori arbenigol i edrych ar yr hyn a allai fod yn y ddeddfwriaeth a sut y byddai’n gweithio’n ymarferol.

Mae Adroddiad Effaith a Chyrhaeddiad 2015-16 y Comisiynydd, sydd ar gael ar ei gwefan, hefyd yn disgrifio’r gwaith arall y mae ei swyddfa wedi’i wneud, ac mae llawer ohono’n ymwneud â gwella gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer pobl hŷn. Yn ddiweddar, mae’r ffocws wedi bod ar bobl hŷn sy’n agored i niwed neu mewn perygl o gael eu hallgáu, gan gynnwys y rhai sydd â dementia.

Bydd Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad hefyd yn clywed gan y Comisiynydd ddydd Iau, a flwyddyn nesaf bydd yn edrych ar rai o’r materion sy’n effeithio ar bobl hŷn, gan gynnwys dementia, unigrwydd ac unigedd a’r camddefnydd o feddyginiaeth gwrthseicotig.