Beth fydd effaith ailbrisio trethi busnes a rhyddhad trosiannol ar fusnesau Cymru?

Cyhoeddwyd 12/12/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

12 Rhagfyr 2016 Erthygl gan Gareth Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Cynhelir trafodaeth a phleidlais ar Reoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2016 (y rheoliadau) yn y Cyfarfod Llawn ar 12 Rhagfyr 2016. Mae’r rheoliadau yn nodi cynllun rhyddhad trosiannol Llywodraeth Cymru ar gyfer y busnesau bach hynny y bydd yr ailbrisio ardrethi busnes, sydd i ddod i rym ar 1 Ebrill 2017, yn effeithio arnynt yn negyddol – mae hwn wedi bod yn bwnc llosg yn yr wythnosau diwethaf. Beth yw ailbrisio ardrethi busnes, a pha effaith a gaiff ar filiau ardrethi busnes? Mae ailbrisio ardrethi busnes fel arfer yn digwydd bob pum mlynedd, ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio sy’n cynnal ymarfer ailbrisio annibynnol o bob eiddo annomestig yng Nghymru a fydd yn dod i rym ym mis Ebrill 2017, yn seiliedig ar werth ardrethol bob eiddo ar 1 Ebrill 2015. Mae Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at y ffaith bod ailbrisio yn niwtral o ran refeniw a’i fod yn ailddosbarthu atebolrwydd ardrethi busnes mewn ffordd sy’n adlewyrchu newidiadau yn y farchnad eiddo, yn hytrach na cheisio cynyddu’r refeniw a godir trwy drethi busnes. Rhwng prisiad 2010 a phrisiad drafft 2017 gostyngodd gwerth trethadwy eiddo yng Nghymru. Gwelwyd gostyngiad o 2.9% yn y gwerthoedd ardrethol ar y rhestr ardrethu lleol (y mwyafrif helaeth o eiddo). Fodd bynnag, gwrthbwysir y gostyngiad hwn gan gynnydd o 25.8% yng ngwerth trethiannol yr eiddo sydd ar y rhestr ganolog, sy’n cynnwys, er enghraifft, cyfleustodau mawr a chwmnïau telathrebu. Er 30 Medi 2016, mae busnesau ledled Cymru wedi gallu gweld eu prisiadau drafft ar wefan Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Os oes gwallau ffeithiol yn y prisiad, mae modd diwygio’r gwerthoedd ardrethol drafft rhwng mis Hydref 2016 a mis Mawrth 2017.  Bydd modd apelio yn erbyn prisiadau o fis Ebrill 2017. Yng Nghymru, cyfrifir cyfanswm y trethi busnes y mae’n rhaid eu talu ar eiddo annomestig fel a ganlyn: Ffeithlun yn dangos dull cyfrifo biliau ardrethi busnes. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol wedi datgan y bydd y lluosydd ar gyfer Cymru yn cynyddu o 0.486 yn 2016-17 i luosydd dros dro o 0.499 yn 2017-18. Felly, cyn i unrhyw ryddhad i fusnesau gael ei ystyried, bydd newidiadau yn eu bil ardrethi busnes ar gyfer 2017-18 yn cael eu pennu gan y newid yn eu gwerth trethiannol a chan y newid i’r lluosydd. Beth fydd effaith ailbrisio ardrethi busnes ar wahanol rannau o Gymru? Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio wedi cyhoeddi mapiau o’r newid canrannol ar gyfartaledd a welwyd yn y gwerth ardrethol fesul awdurdod lleol rhwng prisiad 2010 a ffigurau ailbrisio drafft 2017. Fe’u nodir isod. Wrth edrych ar y ffigurau hyn, mae’n bwysig nodi y gall yr effaith ar sectorau penodol mewn ardaloedd awdurdodau lleol fod yn wahanol.  Hefyd, cyfartaleddau yw’r ffigurau hyn, ac er y bydd ym mhob ardal awdurdod lleol rai busnesau sydd wedi gweld cynnydd yn eu gwerth ardrethol, bydd busnesau eraill sydd wedi gweld gostyngiad yn eu gwerth ardrethol. Map yn dangos y newid canrannol ar gyfartaledd yn y gwerth ardrethol ym mhob awdurdod lleol rhwng prisiad 2010 a ffigurau ailbrisio drafft 2017. Sut y bydd cynllun rhyddhad trosiannol arfaethedig Llywodraeth Cymru yn gweithredu? Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig yn amlinellu rhyddhad trosiannol ar gyfer y busnesau bach a fydd yn cael llai o ryddhad ardrethi busnesau bach o fis Ebrill 2017. Bydd busnesau a chanddynt safleoedd sydd â gwerth ardrethol o hyd at £12,000 ar hyn o bryd ac sy’n gymwys ar gyfer rhyddhad ardrethi busnesau bach yn 2016-17, ond a fydd yn cael llai o ryddhad neu ddim yn 2017-18 oherwydd y cynnydd yng ngwerth ardrethol eu heiddo, yn elwa ar y cynllun hwn.  Bydd dros 7,000 o drethdalwyr yn elwa ar y cymorth hwn, a bydd Llywodraeth Cymru yn talu’r £10 miliwn y bydd yn ei gostio yn llawn. Bydd y rhyddhad trosiannol arfaethedig yn lledaenu’r cynnydd yn yr atebolrwydd i dalu trethi busnes dros dair blynedd, felly 25% o’u hatebolrwydd mwy y bydd busnesau yn ei dalu yn 2017-18, 50% yn 2018-19 a 75% yn 2019-20. Erbyn dechrau 2020-21, bydd trethdalwyr yn talu y bil yn llawn yn seiliedig ar ailbrisiad 2017.  Yn y tabl isod, nodir enghreifftiau o femorandwm esboniadol y rheoliadau o sut y bydd y rhyddhad yn gweithio yn ymarferol. table-cy Mae hyn yn wahanol i’r cynllun y mae Llywodraeth y DU yn ei gynnig ar gyfer Lloegr. O dan y cynllun hwn, y bwriad yw y bydd pob busnes sydd yn gweld cynnydd yn ei fil ardrethi busnes o ganlyniad i’r ailbrisio yn cael rhywfaint o ryddhad trosiannol.  Cynllun sy’n ariannu ei hunan yw hwn, a thelir amdano trwy gapio’r gostyngiadau ar gyfer y busnesau hynny sy’n gweld gostyngiad yn eu biliau. Mae Llywodraeth Cymru o’r farn bod ei chynllun yn symlach na’r cynllun a gynigir ar gyfer Lloegr, gan ei fod yn caniatáu i’r busnesau hynny sydd wedi gweld gostyngiad yn eu hatebolrwydd trethi busnes gael y gostyngiad llawn, a bydd yn golygu y bydd pob trethdalwr yn talu’r swm llawn y mae’n atebol amdano cyn i baratoadau ddechrau ar gyfer yr ailbrisio nesaf. Dadansoddiad cymharol o bwy fyddai ar ei elw fwyaf yng Nghymru o’r ddau gynllun a nodir yn y memorandwm esboniadol. Bydd cynllun arfaethedig Llywodraeth Cymru o fudd i’r grwpiau canlynol:
  • gweithfeydd haearn a dur; meddygfeydd a chanolfannau iechyd; cynhyrchwyr ynni a siopau nad ydynt yn gwerthu bwyd. Ar gyfartaledd, bydd y grwpiau hyn yn gweld gostyngiad yn eu gwerthoedd ardrethol yn sgil ailbrisio yn 2017;
  • busnesau ym Merthyr Tudful, Castell-nedd Port Talbot a Chasnewydd, a fydd yn gweld gostyngiad yn eu gwerth ardrethol o dros 7% ar gyfartaledd yn sgil ailbrisio yn 2017.
Pe bai Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu’r un cynllun ag a gynigir yn Lloegr, byddai o fudd i eiddo sydd â gwerth ardrethol o dros £12,000 ac sydd wedi gweld cynnydd yn eu hatebolrwydd, yn enwedig yn y grwpiau a’r meysydd canlynol:
  • prifysgolion; meysydd parcio; gwestai; llyfrgelloedd ac amgueddfeydd; a fydd, ar gyfartaledd, yn gweld cynnydd yn eu gwerthoedd ardrethol yn sgil yr ailbrisio yn 2017;
  • busnesau yng Ngwynedd, Conwy a sir Fynwy, a fydd yn gweld cynnydd yn eu gwerth ardrethol o dros 7% ar gyfartaledd yn sgil ailbrisio yn 2017.