Cyhoeddi setliad terfynol llywodraeth leol ar gyfer 2017-18

Cyhoeddwyd 21/12/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

21 Rhagfyr 2016 Erthygl gan Martin Jennings a David Millett, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Yn dilyn Cyllideb Derfynol 2017-18 Llywodraeth Cymru (a ryddhawyd ddydd Mawrth 20 Rhagfyr 2016), mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol wedi cyhoeddi Setliad Terfynol Llywodraeth Leol 2017-18 heddiw. Mae'r Setliad yn amlinellu'r cyllid a ddyrannwyd ar gyfer pob un o 22 awdurdod lleol Cymru. Mae'r Setliad yn gyfwerth â chyfanswm o £4.113 biliwn, sy'n gynnydd o £10 miliwn (0.2 y cant) o gymharu â Setliad Terfynol 2016-17. Dyma'r cynnydd cyntaf yn y setliad llywodraeth leol ers 2013-14. Mae'r setliad dros dro yn cynnwys cynnydd a gostyngiadau yn y cyllid ar gyfer awdurdodau lleol gwahanol. Y cynnydd mwyaf yw 1.1 y cant yng Ngwynedd a'r gostyngiad mwyaf yw -0.5 y cant ar gyfer tri awdurdod lleol (Wrecsam, Powys a Merthyr Tudful). Mae'r ffeithlun isod yn rhoi dadansoddiad llawn o'r newid canrannol mewn cyllid yn ôl awdurdod lleol. final-budget-2017-18-local-government-settlement-welsh-01 Eleni, ni fydd unrhyw awdurdod yn wynebu gostyngiad o fwy na -0.5 y cant. O'r tri awdurdod lle gwelir newid cyllid sy'n gyfwerth â -0.5 y cant, mae dau ohonynt wedi cael cyllid ychwanegol sy'n werth cyfanswm o £1.6 miliwn i sicrhau na fyddant yn wynebu gostyngiad sy'n fwy na -0.5 y cant. Nodir isod sut y dyrannwyd yr arian ychwanegol hwn:
  • Powys: £1.237 miliwn
  • Merthyr Tudful: £391,000
Y swm Cyllid Cyfalaf Cyffredinol ar gyfer awdurdodau lleol yn 2017-18 yw £143 miliwn. Mae llythyr Ysgrifennydd y Cabinet at awdurdodau lleol, Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol 2017-18 a Setliad Refeniw a Chyfalaf Llywodraeth Leol  2017-18: Cymru gyfan - Tablau ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.