Craffu ar Adroddiad Blynyddol Cymwysterau Cymru

23 Rhagfyr 2016

Erthygl gan Joe Champion, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Llun o gamera fideo

Dyma’r ail ran o flog â dwy ran iddo. Roedd rhan gyntaf y blog yn cynnwys trosolwg cyffredinol o gefndir, prif amcanion, pwerau a gweithgareddau Cymwysterau Cymru.

Mae Cymwysterau Cymru, y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer cymwysterau nad ydynt yn raddau, wedi cynhyrchu ei Adroddiad Blynyddol cyntaf yn ddiweddar. Gan fod Cymwysterau Cymru yn atebol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, cafodd wahoddiad gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Ifanc i un o gyfarfodydd y Pwyllgor, er mwyn i’r Pwyllgor gael cyfle i graffu ar y gwaith a wnaed gan y sefydliad rhwng mis Medi 2015 a mis Awst 2016. Daeth Cymwysterau Cymru i gyfarfod y Pwyllgor ar 14 Rhagfyr 2016.

Cyfyngu nifer y cymwysterau sy’n bodoli ym maes iechyd a gofal cymdeithasol

Holodd y Pwyllgor Cymwysterau Cymru ynglŷn â nifer o agweddau ar ei waith, gan ddechrau gyda’i Adolygiad Sector o Gymwysterau a’r System Gymwysterau ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’i gynlluniau i ‘gyfyngu’ ar nifer y cymwysterau sy’n bodoli ym maes iechyd a gofal cymdeithasol (gan gynnwys gofal plant a gwaith chwarae). Mae cyfyngu ar nifer y cymwysterau sy’n bodoli yn golygu cyfyngu’r gwaith o ddatblygu a dyfarnu cymwysterau unigol, neu gasgliadau o gymwysterau, i un corff dyfarnu.

Ar sail y dystiolaeth a gafwyd yn ystod yr Adolygiad Sector, dywedodd Cymwysterau Cymru ei fod am gyfyngu ar nifer y cymwysterau iechyd a gofal cymdeithasol sy’n bodoli yn sgil pryderon a fynegwyd ynghylch cysondeb ac ansawdd cynnwys cymwysterau gwahanol, llwybrau cynnydd nad ydynt wedi’u halinio a’r gwaith o ddarparu cymwysterau drwy gyfrwng y Gymraeg. O ganlyniad, mae Cymwysterau Cymru am gomisiynu cyfres benodol o gymwysterau i Gymru a chyfyngu’r gwaith o’u cyflwyno i un corff dyfarnu unigol, nad yw eto wedi’i ddewis.

Fodd bynnag, roedd y Pwyllgor yn pryderu y gallai’r cymhwyster penodol newydd i Gymru fod yn rhwystr i weithwyr o rannau eraill o’r DU sydd am ddod i weithio yng Nghymru. Mae’r sefyllfa hon yn bryder arbennig o ystyried prinder y gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Dywedodd Cymwysterau Cymru:

It will be for the Care Council for Wales to think about what its licence to practice might be in terms of the qualifications it’s prepared to accept.

Cododd y Pwyllgor bryderon hefyd ynghylch effaith bosibl y cam o drosglwyddo cyfrifoldeb dros gyfres o gymwysterau i un darparwr, a allai godi ffioedd annheg yn sgil hynny. Crybwyllwyd y cynnydd o 23 y cant yn y ffioedd a godir gan CBAC ar gyfer cymwysterau TGAU fel enghraifft. Mewn ymateb, dywedodd Cymwysterau Cymru:

We’re very sensitive to that. Ultimately, we do have fee-capping powers within the powers that are given to us as a regulator. So, if need be, we have that as a final resort that we can go to.

Dywedodd hefyd y byddai’n adrodd ar y ffioedd a’r costau sy’n gysylltiedig â chymwysterau yng Nghymru yn Adroddiad Blynyddol y flwyddyn nesaf.

Achosion o gamweinyddu

Tynnodd y Pwyllgor sylw at y 107 o hysbysiadau a gafodd Cymwysterau Cymru gan gyrff dyfarnu, a oedd yn hysbysu’r corff am ddigwyddiadau y byddai modd iddynt gael effaith andwyol ar fyfyrwyr. Roedd y digwyddiadau mwyaf cyffredin yn ymwneud â ‘chamweinyddu’. Eglurodd Cymwysterau Cymru mai camgymeriadau oedd y rhain a oedd wedi digwydd o fewn yr ysgolion, gan ychwanegu:

In those situations, the schools can take local arrangements to make sure that security is maintained…awarding bodies can also put those schools under particular scrutiny, so they’ll scrutinise results within the school to see if there’s any patterns that may not be what one would expect.

Dywedodd hefyd: ‘…as raw data, they [notifications] actually feel potentially more worrying than they are’.

Fodd bynnag, yn sgil pryderon y Pwyllgor am y diffyg manylion yn yr Adroddiad Blynyddol ynghylch y digwyddiadau hyn, dywedodd Cymwysterau Cymru y byddai’n gallu ystyried y mater hwn yn yr adroddiad, a darparu rhagor o wybodaeth yn ei gylch yn y dyfodol.

Capasiti’r staff ac adnoddau

O ystyried y cafodd y dyraniad cyllideb i gorff Cymwysterau Cymru ei ostwng 4% ar gyfer 2017-18, ceisiodd y Pwyllgor sicrwydd gan Cymwysterau Cymru fod ganddo’r adnoddau y bydd eu hangen arno i gyflawni gweithgarwch y flwyddyn ganlynol yn llwyddiannus. Dywedodd Cymwysterau Cymru ei fod yn rheoli’r gostyngiad hwn mewn nifer o ffyrdd:

We’ve accommodated that by doing various things—cutting back on certain areas of work, and not actually recruiting some staff, because we’re very aware that once you’ve recruited staff you have onward pressures once they’re in place.

Er gwaethaf hynny, dywedodd Cymwysterau Cymru ei fod mewn sefyllfa resymol ar gyfer 2017-18, ar yr amod y bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddarparu cyllid ychwanegol iddo os yw am iddo wneud unrhyw waith ychwanegol sydd y tu hwnt i’w gwmpas ar hyn o bryd. Mae hefyd yn rhagweld y bydd pwysau ychwanegol ar ei gyllideb ymhen rhai blynyddoedd, pan fydd adnoddau yn tynhau, yn bennaf oherwydd y bydd cyflogau’r staff presennol yn codi yn unol â’u graddfeydd cyflog.

Ceisiodd y Pwyllgor farn Cymwysterau Cymru ar y broses o ddiwygio’r cwricwlwm, sy’n mynd rhagddo, ac am rôl y corff yn y broses honno. Mae Cymwysterau Cymru yn disgwyl dechrau’r broses o graffu ar y cymwysterau TGAU presennol i weld a ydynt yn cyd-fynd â’r cwricwlwm newydd arfaethedig yn gynnar yn 2017, pan ddisgwylir i Lywodraeth Cymru gyhoeddi’r egwyddorion sydd ynghlwm wrth ddylunio’r cwricwlwm newydd. Er mwyn osgoi sefyllfa lle bydd ysgolion yn cael eu hansefydlogi yn sgil diwygio di-ben-draw, mae Cymwysterau Cymru o’r farn y bydd y newidiadau arfaethedig yn gyfystyr â phroses o esblygu mewn perthynas â chymwysterau TGAU yn hytrach na chwyldro llwyr.

Yn ogystal, dywedodd Cymwysterau Cymru:

We will need to be making more of a claim for the year after in terms of some research that we think that we would need to do to prepare for the curriculum.

Lefelau hyder y cyhoedd mewn perthynas â chymwysterau yng Nghymru

Mae Cymwysterau Cymru wedi comisiynu astudiaeth hydredol, i’w chynnal dros bedair blynedd a hanner, sy’n edrych ar ganfyddiadau’r cyhoedd o ran hyder. Cafodd cam cyntaf yr ymchwil hwn ei gwblhau yn gynnar yn 2016. Bydd adroddiadau dilynol yn cael eu llunio bob dwy flynedd ar ôl y pwynt hwnnw. Nod y prosiect ymchwil hwn, sef ‘Mesur Lefelau Hyder mewn Cymwysterau a’r System Gymwysterau yng Nghymru’, yw:

  • nodi lefelau hyder rhanddeiliaid mewn perthynas â’r system gymwysterau yng Nghymru;
  •  mesur effaith Cymwysterau Cymru ar lefelau hyder y cyhoedd mewn perthynas â chymwysterau yng Nghymru;
  • nodi cryfderau allweddol Cymwysterau Cymru, a’r problemau y mae’n eu hwynebu, o bosibl, wrth geisio hybu lefelau hyder mewn perthynas â chymwysterau; a
  •  gwneud argymhellion ynghylch sut y gall Cymwysterau Cymru wella lefelau hyder y cyhoedd.

Disgwylir i ganlyniadau cam cyntaf yr ymchwil gael eu cyhoeddi yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Fodd bynnag, roedd y Pwyllgor yn awyddus i gael rhywfaint o adborth ar y canfyddiadau a ddaeth i’r amlwg yn ystod cyfnod cychwynnol yr ymchwil hwn. Dywedodd Cymwysterau Cymru:

Key findings are that the majority of people do have confidence in qualifications and the qualifications system, particularly around the GCSE and A-level reforms.

Ond, ychwanegodd:

There were also concerns, especially from schools, around vocational qualifications that are used in the school environment.

Mae Cymwysterau Cymru yn gobeithio mynd i’r afael â phroblemau sy’n gysylltiedig â hyder yng nghyd-destun cymwysterau galwedigaethol drwy gynnal Adolygiadau Sector mewn perthynas â’r sector TGCh a’r sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig. Bydd yr adolygiadau hynny’n seiliedig ar y model a ddefnyddiwyd ar gyfer yr adolygiad o’r sector iechyd a gofal cymdeithasol. Mater pwysig arall a ddaeth i’r amlwg yn sgil yr ymchwil oedd yr angen i wella:

Dealltwriaeth o’r system, yn enwedig pan fydd cymwysterau allweddol fel cymwysterau TGAU a Safon Uwch yn destun diwygio, a sicrhau bod pobl yn deall y gwahaniaethau a’r rhesymau amdanynt.

Yn ystod y cyfarfod, dywedodd Cymwysterau Cymru:

We’ve recently agreed a three-regulator joint statement on reforms in GCSEs and A-levels, which are describing the differences between Northern Ireland, England and Wales, and restating the value of those qualifications and the commitment of the three regulators to maintain standards independently in each jurisdiction.

Bydd Cymwysterau Cymru yn destun craffu y flwyddyn nesaf, wedi iddo gyhoeddi ei adroddiad blynyddol nesaf. Mae’n debygol hefyd y bydd yn rhoi tystiolaeth ysgrifenedig a thystiolaeth lafar i’r Pwyllgor ar nifer o wahanol faterion, a hynny drwy gydol y flwyddyn.