Ffliw Adar: y datblygiadau diweddaraf

Cyhoeddwyd 09/01/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

09 Ionawr 2017 Erthygl gan Elfyn Henderson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Ffotograff o geiliog mewn cae Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cyfyngiadau mewn ymateb i achosion o Ffliw Adar yn Ewrop, Gogledd Affrica a'r Dwyrain Canol. Ers cyhoeddi'r cyfyngiadau ar 6 Rhagfyr 2016, cadarnhawyd achosion yn y DU, gan gynnwys yn Sir Gaerfyrddin. Yn ne-orllewin Ffrainc, lle gwelwyd llawer mwy o achosion, mae hwyaid a gwyddau buarth yn cael eu difa ar raddfa fawr ar hyn o bryd . Mae Ffliw Adar yn glefyd feirysol heintus iawn sy'n effeithio ar system anadlu, treulio a/neu nerfol llawer o rywogaethau o adar. Yr enw ar y math o dan sylw yw 'Ffliw Adar Pathogenig Iawn (H5N8)'. Mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio mai clefyd adar yw Ffliw Adar a'i bod yn anghyffredin i bobl gael eu heintio. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dweud bod y risg i iechyd y cyhoedd yn isel iawn, ac mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi dweud nad Ffliw Adar yn peri risg i ddiogelwch bwyd. Fodd bynnag, o ystyried y risg bosibl i boblogaeth ddynol y byd a berir gan firws ffliw newydd sy'n wahanol iawn i fath diweddar neu bresennol o firysau ffliw dynol, mae'n bolisi gan Lywodraeth Cymru i reoli unrhyw achosion o Ffliw Adar cyn gynted ag y bo modd. Trefn yr achosion 6 Rhagfyr - Parth Atal Ffliw Adar Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn datgan bod Cymru gyfan yn 'Barth Atal Ffliw Adar', fel mesur rhagofalus. Bydd y parth yn parhau i fod ar waith tan 28 Chwefror. Mae'r parth yn ei gwneud yn ofynnol i gywion ieir, ieir, tyrcwn a hwyaid domestig gael eu lletya ar unwaith dan orfod, neu lle nad yw hyn yn ymarferol, sicrhau na allant ddod i gysylltiad o gwbl ag adar gwyllt. Yn achos gwyddau a ffermir, adar hela ac adar caeth eraill, dylai ceidwaid gymryd camau ymarferol i gadw'r adar hyn ar wahân i adar gwyllt. Mae Parthau Atal Ffliw Adar hefyd wedi cael eu datgan yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, gan sicrhau cysondeb ar draws y DU gyfan. 16 Rhagfyr – Cadarnhau achos yn Swydd Lincoln Cadarnhawyd H5N8 mewn tyrcwn ar fferm ddofednod ger Louth yn Swydd Lincoln. 20 Rhagfyr – Atal crynoadau o ddofednod Mewn ymateb i'r achos yn Swydd Lincoln, cyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet waharddiad dros dro ar grynoadau (er enghraifft sioeau neu ddigwyddiadau) ar rai rhywogaethau o adar er mwyn gwarchod dofednod ac adar caeth ymhellach. 22 Rhagfyr – Cadarnhau achos yn Llanelli, Sir Gaerfyrddin Cadarnhawyd H5N8 mewn hwyaden wyllt yn Llanelli. Cadarnhawyd achosion pellach o H5N8 mewn adar gwyllt marw yn Lloegr a'r Alban. 3 Ionawr – Cadarnhau achos ym Mhontyberem, Sir Gaerfyrddin Cadarnhawyd H5N8 mewn haid o ieir a hwyaid iard gefn ym Mhontyberem. Mewn ymateb i hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod Parth Gwarchod 3 cilometr a Pharth Gwyliadwriaeth 10 cilometr o amgylch y safle heintiedig, a hynny er mwyn cyfyngu ar y risg y bydd y clefyd yn lledaenu ac fel rhan o'r mesurau ehangach ar gyfer gwyliadwriaeth a rheoli'r clefyd. 4 Ionawr – Cyhoeddi gwaith difa yn ne-orllewin Ffrainc Mewn ymateb i 89 o achosion o H5N8, cyhoeddodd Llywodraeth Ffrainc y bydd hwyaid a gwyddau buarth yn cael eu difa yn ardaloedd Gers, Landes a Hautes-Pyrenees yn ne-orllewin Ffrainc. Bydd tua 800,000 o adar, o blith poblogaeth o oddeutu 18 miliwn yn y rhanbarth, yn cael eu difa rhwng 5 ac 20 Ionawr. 7 Ionawr – Cadarnhau achos yn Swydd Efrog Cadarnhawyd H5N8 mewn haid o ieir a hwyaid iard gefn yn Settle yng Ngogledd Swydd Efrog. Rhoi gwybod am achosion tybiedig a phosibl Caiff ceidwaid dofednod a/neu adar caeth eraill eu hannog i ofyn am gyngor gan filfeddyg os ydynt yn pryderu ynghylch iechyd eu hadar. Hefyd, cânt eu hannog i gysylltu â'u swyddfa leol o'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ar unwaith i roi gwybod os ydynt yn amau eu bod yn gweld arwyddion o Ffliw Adar. Caiff ceidwaid dofednod eu hannog i ddarparu manylion am eu heidiau i'r Gofrestr Ddofednod. Bydd hyn yn sicrhau bod modd cysylltu â nhw ar unwaith os bydd achos o glefyd adar fel y gallant gymryd camau i amddiffyn eu haid cyn gynted â phosibl. Anogir y cyhoedd i roi gwybod am adar dŵr gwyllt marw (elyrch, gwyddau neu hwyaid) neu wylanod, neu bump neu fwy o adar gwyllt marw o rywogaethau eraill yn yr un lleoliad, drwy ffonio llinell gymorth Defra ar 03459 335577. Rhagor o wybodaeth Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys llyfryn cwestiynau ac atebion manwl (287KB), ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Hefyd ceir gwybodaeth ar wefan Llywodraeth y DU.