Cyhoeddiad Newydd: Y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) - Crynodeb o Fil

Cyhoeddwyd 10/01/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

10 Ionawr 2016 Erthygl gan Christian Tipples, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Cyflwyniad Dyddiad cyflwyno: 12 Medi 2016 Yr Aelod sy’n gyfrifol: Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol Pwyllgor y Cynulliad sy'n gyfrifol am waith craffu yng Nghyfnod 1: Y Pwyllgor Cyllid Dyddiad olaf ar gyfer cyflwyno adroddiad Cyfnod 1: 22 Rhagfyr 2016 Cyflwynwyd y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) ('y Bil') gerbron y Cynulliad ar 12 Medi 2016. Cyflwynwyd y Bil yn y Cyfarfod Llawn gan Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, ar 13 Medi 2016. Y Bil hwn yw'r darn cyntaf o ddeddfwriaeth sy'n ymwneud yn benodol â threthi i gael ei gyflwyno yn y Cynulliad. Mae'n cyflwyno darpariaethau ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir yng Nghymru, a fydd yn cymryd lle Treth Dir y Dreth Stamp ym mis Ebrill 2018. Y Bil yw'r ail mewn cyfres o dri Bil sy'n ymwneud â datganoli pwerau trethu i Gymru, fel y nodwyd yn Neddf Cymru 2014. Mae'r Bil yn dilyn Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016, a gafodd Gydsyniad Brenhinol ar 25 Ebrill 2016. Roedd y Ddeddf honno'n darparu'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer casglu a rheoli trethi datganoledig yng Nghymru yn y dyfodol, ac yn sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru (ACC), sef y corff sy'n gyfrifol am gasglu a rheoli trethi datganoledig. Y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) - Crynodeb o Fil  (PDF, 421KB) blog-cy