Fframwaith Cyllidol

Cyhoeddwyd 16/01/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

16 Ionawr 2017 Erthygl gan Martin Jennings, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg welshpound Bydd Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, yn gwneud datganiad yn y Cyfarfod Llawn ynghylch y Fframwaith Cyllidol ar 17 Ionawr. Cyhoeddwyd y fframwaith cyllidol hwn ar y cyd gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar 19 Rhagfyr ar ôl misoedd o drafodaethau. Mae'r fframwaith yn hanfodol bwysig i Gymru gan y bydd yn penderfynu sut y caiff y grant bloc ei addasu ar ôl datganoli trethi yn 2018 a sut y gwneir yr addasiadau yn y blynyddoedd i ddod. Nododd Llywodraeth Cymru yn flaenorol na ddylai’r Cynulliad gydsynio i Fil Cymru cyn dod i gytundeb o’r fath ar gyllido hirdymor, a bod yn rhaid i'r cytundeb hwn ymgorffori lwfans ar gyfer anghenion cymharol yng Nghymru. Cynhaliodd y Pwyllgor Cyllid sesiwn graffu gyda Mark Drakeford ar y fframwaith hwn ar 11 Ionawr 2017. Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet nad yw’r fframwaith cyllidol bellach yn rhwystr i bobl o ran pleidleisio o blaid Bil Cymru. Hefyd, dyfynnodd yr Ysgrifennydd Cabinet ddwy set o ragdybiaethau modelu a gynhaliwyd sy’n awgrymu y gallai Cymru fod £500 miliwn neu £1 biliwn yn well ei byd at ei gilydd o ganlyniad i gytundeb y Fframwaith Cyllidol dros y 10 mlynedd nesaf. Dyma rai pwyntiau allweddol mewn perthynas â’r Fframwaith:
  • Cynnwys ffactor newydd ar sail anghenion wedi ei osod ar 115% ar gyfer addasiadau i grant bloc Cymru, drwy fformiwla Barnett.
  • Y Cynulliad yn gallu gosod cyfraddau treth incwm yng Nghymru o fis Ebrill 2019 (yn amodol ar basio Bil Cymru a pholisi Llywodraeth Cymru).
  • Addasiad i’r grant bloc sy’n adlewyrchu’r sylfaen trethi incwm gwahanol yng Nghymru.
  • Cynnydd mewn pwerau benthyg cyfalaf, o £500 miliwn i £1 biliwn.
  • Creu cronfa arian parod newydd yng Nghymru sy’n fwy hyblyg na’r System Cyfnewid Cyllidebau gyfredol.
  • Goruchwylio annibynnol – rôl i gyrff annibynnol wneud cyfraniad mewn achosion o anghydfod rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynglŷn â’r fframwaith.