Bil yr Undebau Llafur

Cyhoeddwyd 17/01/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

17 Ionawr 2017 Erthygl gan Alys Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg [caption id="attachment_6767" align="alignnone" width="640"]trade_union_rally Llun: o Wikimedia Commons gan Dean Molyneaux. Dan drwydded Creative Commons.[/caption] Ym mis Ionawr 2016, gwrthododd y Pedwerydd Cynulliad roi ei ganiatâd i Fil Undebau Llafur Llywodraeth y DU am fod rhannau o'r Bil yn ymwneud â gwasanaethau cyhoeddus datganoledig. Nid yw Llywodraeth y DU yn derbyn bod angen caniatâd y Cynulliad. Dywedodd Leighton Andrews, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus ar y pryd, y byddai Llywodraeth Cymru, pe bai'r blaid Lafur yn ôl mewn grym, yn cyflwyno ei Bil ei hun i wrthdroi'r rhannau perthnasol o Fil y DU. Mae'n anghydfod a allai fynd i'r Goruchaf Lys. Bil yr Undebau Llafur (Cymru) 2017 Cyhoeddwyd Bil yr Undebau Llafur (Cymru) gan Lywodraeth Cymru ar 16 Ionawr  2017. Mae'n Fil byr iawn gyda dim ond tri chymal. Mae'r Bil yn diwygio Deddf Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992 fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Undebau Llafur 2016. Cafodd y Ddeddf Undebau Llafur 2016 Gydsyniad Brenhinol ar 4 Mai 2016. Mae ei darpariaethau yn cynnwys gofyniad bod 50 y cant o aelodau undeb yn cymryd rhan mewn unrhyw bleidlais ynghylch gweithredu cyn y gellid cynnal streic. Yn achos 'gwasanaethau cyhoeddus pwysig', mae'n rhaid i 40 y cant o'r rhai sy'n gymwys i bleidleisio (yn hytrach na’r rhai sy’n mynd ati i fwrw pleidlais) gefnogi'r cynnig i weithredu cyn y gellid cynnal streic. Mwyafrif syml o blith y rhai sy’n bwrw pleidlais sydd ei angen ar hyn o bryd. Byddai Bil Llywodraeth Cymru yn diddymu’r trothwy o 40 y cant yn achos awdurdodau cyhoeddus Cymru. Mae’r Bil hefyd yn cynnwys pwerau i’w gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei chyhoeddi ynghylch amser cyfleuster ac i gyflwyno gofynion ar gyfer cyflogeion y sector cyhoeddus mewn perthynas ag amser cyfleuster â thâl. Mae hefyd yn cyflwyno cyfyngiadau ar ddidynnu tanysgrifiadau aelodaeth undebau llafur o daliadau cyflog cyflogwyr. Y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Gwrthwynebodd Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth flaenorol Cymru Fil y DU. Am fod rhannau o'r Bil yn ymwneud â gwasanaethau cyhoeddus datganoledig, gwnaethant ddadlau y dylai'r rhannau hynny fod yn amodol ar ganiatâd Senedd yr Alban a Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Parhaodd Llywodraeth y DU i ddadlau bod testun y Bil wedi'i gadw yn ôl yn gyfan gwbl gan Senedd y DU. Yn ystod un o ddadleuon Pwyllgor Biliau Cyhoeddus Senedd y DU ym mis Hydref 2015, dywedodd Nick Boles, Gweinidog Sgiliau y DU, nad oedd yn gweld unrhyw reswm pam y dylai Llywodraeth y DU geisio caniatâd cyn cymhwyso'r darpariaethau o dan sylw. Cyflwynodd Llywodraeth yr Alban Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn gofyn i Senedd yr Alban wrthod caniatâd i'r Bil oherwydd y byddai'n effeithio ar swyddogaethau datganoledig. Fodd bynnag, dyfarnodd Llywydd Senedd yr Alban nad oedd angen caniatâd Senedd yr Alban. Golygai hynny nad oedd modd cynnal pleidlais ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth yr Alban. Mae pwnc Deddf Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992 yn fater sydd wedi’i gadw yn ôl o dan Ddeddf yr Alban 1998. Ni cheir eithriad tebyg o ran cymhwysedd yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006. Yng Nghymru, gosodwyd Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ym mis Tachwedd 2015. Roedd y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol yn nodi barn Llywodraeth flaenorol Cymru y byddai angen caniatâd y Cynulliad ar gyfer rhai o gymalau'r Bil gan eu bod yn ymwneud â materion datganoledig. Roedd Llywodraeth Cymru yn dadlau bod y cymalau hyn o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad gan eu bod yn ymwneud â chyflogwyr yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae'r cyflogwyr hynny'n darparu amrywiaeth o wasanaethau cyhoeddus datganoledig gan gynnwys addysg a hyfforddiant, gwasanaethau tân ac achub, gwasanaethau iechyd, llywodraeth leol a gwasanaethau trafnidiaeth. Bu'r Cynulliad yn trafod y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ym mis Ionawr 2016. Dywedodd Leighton Andrews, sef y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus ar y pryd, fod rhannau sylweddol o'r Bil yn ymwneud yn benodol â gwasanaethau cyhoeddus sydd yn amlwg wedi'u datganoli, ac nad oedd yn dderbyniol i Lywodraeth y DU geisio ei orfodi ar Gymru. Dyfarniad y Goruchaf Lys yn 2014 Ym mis Medi 2015, cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru ddatganiad ysgrifenedig lle yr oedd yn dadlau bod dyfarniad y Goruchaf Lys yn 2014 ar y Bil Sector Amaethyddol (Cymru) yn golygu bod y Cynulliad yn cadw’r hawl i beidio â rhoi caniatâd i Fil yr Undebau Llafur. Dyma a ddywedodd:
Fodd bynnag, mae’n amlwg bod elfennau sylweddol o’r Bil yn ymwneud yn benodol â gwasanaethau cyhoeddus, sy’n bendant yn gyfrifoldebau sydd wedi’u datganoli i Gymru. Nid wyf felly’n derbyn yr awgrym bod y Bil yn ymwneud â materion sydd heb eu datganoli yn unig.
Yn ôl y dyfarniad yn 2014, er nad oedd cyflogaeth wedi'i rhestru fel pwnc datganoledig yn Atodlen 7 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, roedd amaethyddiaeth wedi'i rhestru fel pwnc datganoledig ac roedd cynnwys y Bil Sector Amaethyddol (Cymru) yn berthnasol i'r Ddeddf. Nid oes yn rhaid i rywbeth ymwneud yn gyfan gwbl â phynciau datganoledig er mwyn iddo fod o fewn cymhwysedd y Cynulliad. Ym mis Ionawr 2016, daeth llythyr i'r goleuni gan Weinidog Sgiliau y DU at Weinidogion eraill y DU. Roedd y llythyr yn dangos bod cyngor cyfreithiol i Lywodraeth y DU yn awgrymu bod achos cryf bod darpariaethau ei Bil Undebau Llafur wedi'u cadw yn ôl mewn perthynas â'r Alban, ond bod yr achos yn wan iawn o ran Cymru oherwydd y cynsail a osodwyd gan ddyfarniad y Goruchaf Lys. Pleidleisiodd y Cynulliad o blaid gwrthod caniatâd deddfwriaethol i'r Bil o 43 pleidlais i 13. Effaith Bil Cymru Bydd Bil Cymru, sydd ar ei ffordd drwy'r Senedd San Steffan, yn ad-drefnu'r broses ddatganoli yng Nghymru drwy gyflwyno model cadw pwerau. Bydd Bil Cymru yn cyflwyno model datganoli yng Nghymru sy'n debyg i fodel yr Alban gyda'r effaith debygol y penderfynir bod Bil yr Undebau Llafur y tu allan i gymhwysedd y Cynulliad. Fodd bynnag, ar yr amod bod y Bil Undebau Llafur (Cymru) yn cwblhau Cyfnod 1 o'r broses ddeddfwriaethol cyn y dyddiad penodedig pan ddaw'r rhannau perthnasol o Fil Cymru yn weithredol, gall y Bil Undebau Llafur (Cymru) fynd yn ei flaen. Mae'r trefniadau pontio hefyd yn nodi na fydd dim ym Mil Cymru yn effeithio ar Ddeddfau a Mesurau a basiwyd eisoes gan y Cynulliad. Serch hynny, mae yna bosibilrwydd y gallai Llywodraeth y DU herio’r drefn yn y Goruchaf Lys.