Brexit a'r amgylchedd: paratoadau deddfwrfeydd y DU ar gyfer gadael yr UE - Rhan 1

Cyhoeddwyd 23/01/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

23 Ionawr 2017  View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Baneri'r UE A hithau'n ddechrau 2017, a chyda disgwyl i drafodaethau Brexit ddechrau maes o law, mae'r blog hwn yn rhoi blas o ymchwiliadau gwahanol ddeddfwrfeydd y DU wrth iddynt archwilio goblygiadau amgylcheddol Brexit. Yma, byddwn yn cyfeirio at nifer o ymchwiliadau pwyllgor gan ganolbwyntio ar faterion amgylcheddol. Oherwydd ehangder y gwaith sy'n cael ei gynnal ledled y DU, nid yw'r rhestr hon yn gyflawn o bell ffordd. Heddiw, byddwn yn ystyried Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Senedd y DU, ac yfory byddwn yn ystyried Cynulliad Gogledd Iwerddon a Senedd yr Alban.

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol Mae'r Pwyllgor hwn, a gaiff ei gadeirio gan David Rees AC, yn cynnal ei ymchwiliad cyntaf, sef y goblygiadau i Gymru wrth i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd. Gofynnodd ddau brif gwestiwn i randdeiliaid mewn ymgynghoriad, a ddaeth i ben ym mis Tachwedd:
  • Beth ddylai fod yn brif flaenoriaeth i Gymru cyn i Lywodraeth y DU weithredu Erthygl 50 (sy'n cychwyn ar y broses ffurfiol o adael y UE)?
  • A allwch chi roi enghreifftiau o oblygiadau penodol a fyddai'n dod yn sgil dull arfaethedig y DU o ymgorffori'r acquis communautaire (y corff o gyfraith Ewropeaidd) mewn cyfraith ddomestig drwy gyflwyno Bil y Diddymu Mawr?
Mae'r Pwyllgor wedi cynnal sawl sesiwn dystiolaeth, gan gynnwys sesiynau gyda Phrif Weinidog Cymru; L'ubomír Rehák, Llysgennad Slofacia ynghylch Arlywyddiaeth Slofacaidd Cyngor yr Undeb Ewropeaidd; Mick Antoniw AC, y Cwnsler Cyffredinol, ynghylch ei ymateb ef i benderfyniad yr Uchel Lys ar Erthygl 50; a'r Fforwm EC-UK. Bydd y Pwyllgor yn cyflwyno adroddiad y mis hwn. Bydd Gwasanaeth Ymchwil y Cynulliad yn cyhoeddi diweddariadau rheolaidd wrth i'r broses o adael fynd rhagddi. Climate Change, Environment and Rural Affairs Committee Mae'r Pwyllgor yn cynnal ymchwiliad i ddyfodol polisïau amaethyddiaeth a datblygu gwledig yng Nghymru yn dilyn Brexit. Mae tri chwestiwn yn llywio'r ymchwiliad:
  • Pa ganlyniadau sylfaenol yr hoffem eu gweld yn deillio o bolisïau ym meysydd amaethyddiaeth, rheoli tir a datblygu gwledig?
  • Pa wersi y gallwn eu dysgu o'r polisïau sydd ar waith ar hyn o bryd a pholisïau'r gorffennol? Beth am y polisïau sydd ar waith mewn mannau eraill?
  • A ddylai Cymru ddatblygu ei pholisïau ei hun ym meysydd amaethyddiaeth, rheoli tir a datblygu gwledig, neu a ddylai'r wlad fod yn rhan o fframwaith ariannol a pholisi ehangach a gaiff eu rhoi ar waith ledled y DU?
Mae'r Pwyllgor wedi cynnal trafodaethau gyda ffermwyr, coedwigwyr, amgylcheddwyr ac academyddion. Cafwyd ymweliadau â ffermydd a chynhyrchwyr bwyd yng Ngheredigion ac Eryri, a chynhaliwyd gweithdy â rhanddeiliaid. Gwnaeth Mark Reckless AC, Cadeirydd y Pwyllgor, ddatganiad ym mis Tachwedd (PDF 132KB) yn amlinellu'r ymrwymiadau yr oedd y Pwyllgor am eu ceisio gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru:
Mae'r cyntaf yn ymwneud â chyllid yn y dyfodol. Rydym yn credu bod rhaid i Gymru barhau i gael yr un faint o arian ar gyfer amaethyddiaeth, yr amgylchedd a datblygu gwledig ag y mae'n ei gael ar hyn o bryd gan yr Undeb Ewropeaidd.… Mae'r ail ymrwymiad yn ymwneud â rhyddid i Gymru lunio polisïau. Dylai penderfyniadau am bolisïau ym maes amaethyddiaeth, yr amgylchedd a datblygu gwledig yn y dyfodol gael eu gwneud yng Nghymru. Wedi'r cyfan, mae cyfrifoldeb wedi'i ddatganoli…. Rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru gytuno i ddiogelu cyllid, ar ôl iddo gael ei drosglwyddo i Gymru, i gefnogi polisi ym maes amaethyddiaeth, yr amgylchedd a datblygu gwledig.
Mae'r Pwyllgor yn bwriadu cyflwyno adroddiad ar ei ganfyddiadau ym mis Mawrth 2017.

Senedd y DU

Mae nifer o Bwyllgorau Senedd y DU yn archwilio goblygiadau Brexit ar ddeddfwriaeth a pholisi sy'n ymwneud â'r amgylchedd yn y DU. Tŷ’r Cyffredin Y Pwyllgor Archwilio Amgylcheddol Mae'r Pwyllgor wedi cynnal ymchwiliad i ddyfodol yr amgylchedd naturiol yn dilyn Refferendwm yr UE. Ymysg y materion a archwiliwyd oedd dyfodol cyllido cynlluniau bioamrywiaeth ac amaeth-amgylchedd, y goblygiadau ar awdurdodau sydd wedi'u datganoli, a'r cyfraniad y gall rheoli dad-ddofi tir ei gynnig o ran cadwraeth ac adfer. Yn sgil yr ymchwiliad, gofynnwyd cwestiynau i Andrea Leadsom AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, ynghylch effaith Brexit ar yr amgylchedd. Rhagdybiodd y bydd deuparth y ddeddfwriaeth Ewropeaidd sy'n ymdrin â'r amgylchedd, a gaiff ei drosglwyddo i'r DU yn sgil Bil y Diddymu Mawr, yn cael ei ymgorffori'n uniongyrchol o fewn cyfraith y DU â mân newidiadau technegol. Dywedodd y caiff y traean arall ei ddiddymu neu ei ddiwygio. Mae adroddiad terfynol y Pwyllgor yn cynnwys saith argymhelliad i Lywodraeth y DU. Un o'r prif argymhellion yw y dylid cyflwyno Deddf Diogelu’r Amgylchedd newydd yn ystod trafodaethau Erthygl 50 i sicrhau nad yw deddfwriaeth Ewropeaidd yn cael ei wanhau wrth adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae seithfed argymhelliad y Pwyllgor yn cyfeirio at y cydweithrediad rhwng gwahanol wledydd y DU, gan nodi bod rhaid i gyllid gael ei ddyrannu'n deg ac yn dryloyw, gydag amcanion strategol cyffredin yn cael eu hategu gan isafswm safonau amgylcheddol, er mwyn i'r DU allu parhau i fodloni'r gofynion rhyngwladol sydd wedi'u gosod. Pwyllgor Gadael yr Undeb Ewropeaidd Cyhoeddodd y Pwyllgor, a gaiff ei gadeirio gan Hilary Benn AS, ei ymchwiliad cyntaf ym mis Tachwedd, sef amcanion trafodaethau y DU wrth adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r ymchwiliad yn ystyried amcanion trafodaethau'r DU o ran gadael yr Undeb Ewropeaidd ac yn archwilio'r meysydd sydd angen eu trafod, ynghyd â'r sefyllfa y mae Llywodraeth y DU yn gobeithio bod ynddi erbyn diwedd y broses Erthygl 50, a chapasiti'r Adran newydd ar gyfer Gadael yr Undeb Ewropeaidd i gyflawni hyn oll. Ar 14 Rhagfyr, bu'r Pwyllgor yn holi David Davis AS, Ysgrifennydd Gwladol yr Adran ar gyfer Gadael yr Undeb Ewropeaidd, ynghylch amcanion trafodaethau'r DU. Mae'r Pwyllgor yn bwriadu ymweld â'r Alban, Cymru, Gogledd Iwerddon a rhanbarthau Lloegr i gasglu tystiolaeth. Mae Pwyllgorau eraill Tŷ'r Cyffredin sy'n ystyried goblygiadau Brexit ar yr amgylchedd yn cynnwys: Tŷ’r Arglwyddi Is-bwyllgor Ynni ac Amgylchedd yr UE (o'r Pwyllgor Dethol ar yr Undeb Ewropeaidd) Cynhaliodd yr Is-blwyllgor ymchwiliad yn nhymor yr hydref, sef Brexit: yr amgylchedd a newid hinsawdd, gyda'r bwriad o bwysleisio'r blaenoriaethau yn y meysydd polisi hyn cyn trafodaethau Brexit. Clywodd yr Is-bwyllgor dystiolaeth gan academyddion, cyrff anllywodraethol, cynrychiolwyr busnes a Llywodraeth y DU, ac mae'n bwriadu cyhoeddi adroddiad yn fuan yn 2017. Cynhaliodd yr Is-bwyllgor ymchwiliad byr ym mis Medi hefyd, sef Goblygiadau Brexit ar bolisi pysgotfeydd, gan glywed tystiolaeth gan George Eustice AS, y Gweinidog dros Bysgotfeydd, a chynrychiolwyr o Norwy a Gwlad yr Iâ. Archwiliodd yr Is-bwyllgor ddull y DU mewn cysylltiad â pholisi pygotfeydd yn dilyn Brexit, a'r modd y mae gwledydd arfordirol eraill yn mynd i'r afael â rheoli pysgotfeydd y tu allan i'r UE. Cynhaliodd yr Is-bwyllgor sesiwn dystiolaeth hefyd ar oblygiadau posibl Brexit ar bolisi'r amgylchedd (PDF 216KB) ym mis Gorffennaf. I wybod rhagor am yr ymchwiliadau sy'n cael eu cynnal yng Ngogledd Iwerddon a'r Alban, gweler y blog yfory (24 Ionawr 2017).
Erthygl gan Katy Orford, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.