Rheoli microblastigau morol: Gwaharddiad arfaethedig y DU ar beli micro

Cyhoeddwyd 23/01/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

23 Ionawr 2017  View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Beth yw peli micro a pham eu gwahardd?

Llun o'r haul yn tywynnu dros Fae Lindsway, Cymru.Math o ficroblastig yw peli micro – gronynnau plastig sydd ychydig o filimetrau o ran maint yn unig. O ystyried eu priodweddau crafog, fe'u defnyddir mewn colur a chynhyrchion cartref fel past dannedd, geliau cawod, hylif sgwrio'r corff, cynhyrchion eillio a glanedyddion golchi. Wedi i'r peli micro gael eu golchi i lawr y draen, maent yn mynd i mewn i ecosystemau. Mae'n anodd hidlo'r peli bach hyn allan o'r dŵr yn llwyr, felly mae rhai yn aros yn yr amgylchedd morol lle maent yn cronni ac yn cyfrannu at y broblem gynyddol o lygredd morol. Mae ymchwil diweddar yn awgrymu bod peli micro hefyd yn mynd i mewn i'r llaid a ddaw o weithfeydd trin dŵr gwastraff a ddefnyddir fel gwrtaith mewn amaethyddiaeth, sy'n eu trosglwyddo i'r pridd.

Pa mor fawr yw'r broblem hon?

Caiff llygredd morol ei gydnabod fel problem fyd-eang. Mae un amcangyfrif yn awgrymu bod 12.2 miliwn o dunelli o blastig yn mynd i mewn i'r amgylchedd morol bob blwyddyn. Mae microblastigau yn cyfrif am tua 0.95 o dunelli o hyn. Nid yw graddau ac effeithiau llygredd microblastigau wedi'u deall yn llawn. Fodd bynnag, mae corff cynyddol o ymchwil yn awgrymu bod posibilrwydd iddo effeithio ar ecosystemau morol mewn nifer o ffyrdd (PDF 1896KB) . Gall y gronynnau gyfrannu at wasgaru pathogenau a chemegau gwenwynig, ac o'u llyncu, gallant effeithio'n niweidiol ar fywyd gwyllt. Mae peli micro yn cyfrannu at gyfran fechan yn unig o lygredd microblastigau – rhwng 0.01 a 4% o'r cyfanswm. Mae ffynonellau eraill yn cynnwys cynhyrchion plastig, paent, tecstilau synthetig yn dirywio a sbwriel morol yn darnio. Er na fydd gwaharddiad ar beli micro yn datrys y broblem ar ei ben ei hun, mae wedi cael ei nodi fel ffordd o atal un ffynhonnell. Daeth adolygiad gan Bwyllgor Archwilio Amgylcheddol Tŷ'r Cyffredin i'r casgliad, er bod ansicrwydd yn parhau o ran y gwaith ymchwil, bod posibilrwydd o niwed sylweddol i'r amgylchedd morol. Ym mis Awst 2016, argymhellodd waharddiad byd-eang ar beli micro.

A oes unrhyw beth yn cael ei wneud eisoes?

Mae peli micro wedi dod o dan y chwyddwydr yn y blynyddoedd diwethaf yn sgil ymgyrchoedd ymwybyddiaeth y cyhoedd fel Beat the Microbead a gwaith cyrff anllywodraethol amgylcheddol fel y Gymdeithas Cadwraeth Forol a Greenpeace. Yn 2015, cyflwynodd Unol Daleithiau America waharddiad ar golur golchi i ffwrdd a chyffuriau dros y cownter sy'n cynnwys peli micro. Mae llywodraethau yng Nghanada, yr Eidal a Ffrainc wedi cyhoeddi eu cynlluniau eu hunain ar gyfer gwaharddiadau tebyg. Mae'r gwledydd eraill sy'n ystyried gwaharddiad yn cynnwys Iwerddon, De Korea, Taiwan a Tsieina. Cynhaliodd yr UE ymgynghoriad ar wastraff plastig yn 2013. Y flwyddyn ganlynol, cyhoeddodd Gwlad Belg, yr Iseldiroedd, Sweden ac Awstria ddatganiad ar y cyd (PDF 197KB) yn galw ar yr UE i gymryd mesurau rheoleiddiol i reoli peli micro. Fodd bynnag, nid yw'r UE wedi cyhoeddi unrhyw gynlluniau hyd yn hyn ar gyfer gwaharddiad ar draws yr UE. Er nad oes gwaharddiad yn y DU ar hyn o bryd, mae'r diwydiant wedi cymryd camau gwirfoddol i leihau'r defnydd o beli micro. Yn 2014, gwnaeth nifer o gwmnïau, gan gynnwys Tesco, Procter & Gamble, Superdrug, Sainsbury ac Unilever addewid i gael gwared arnynt yn raddol. Yn 2015, argymhellodd Cosmetics Ewrop y dylai ei aelodau roi'r gorau i ddefnyddio peli micro mewn colur golchi i ffwrdd erbyn 2020. Canfu arolwg yn 2016 o aelodau'r Cosmetic, Toiletry and Perfumery Association (CTPA) fod nifer y cynhyrchion cosmetig sy'n cynnwys peli micro wedi haneru ers 2015. Roedd gan bob un o'r cwmnïau a holwyd gynlluniau i roi'r gorau i ddefnyddio peli micro erbyn 2018. Fodd bynnag, mae tynnu peli micro allan o gynhyrchion yn her i weithgynhyrchwyr, gan fod rhaid dod o hyd i opsiynau addas eraill a'u rhoi ar waith, sy'n gofyn am fuddsoddiad, adnoddau ac amser.

Beth sy'n cael ei gynnig?

O ystyried natur drawsffiniol y mater, mae Llywodraeth y DU yn cynnig gwaharddiad ledled y DU ar weithgynhyrchu a gwerthu unrhyw golur golchi i ffwrdd a chynhyrchion gofal personol sy'n cynnwys peli micro. Bydd hyn yn effeithio ar y cynhyrchion hynny sy'n cynnwys cynhwysion microblastig cadarn sy'n mesur llai na 5mm ym mhob dimensiwn. Bydd y ddeddfwriaeth yn cael ei datblygu ar y cyd gan Lywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig. Mae Llywodraeth y DU yn gobeithio y bydd hyn yn lleihau faint o beli micro sy'n mynd i mewn i'r amgylchedd, a hefyd yn creu sefyllfa gyfartal i'r diwydiant, yn mynd i'r afael â anghysondeb yn y farchnad ac yn rhoi hyder i ddefnyddwyr.

Dweud eich dweud am y gwaharddiad ar beli micro

Mae Is-adran y Môr Defra yn arwain ymgynghoriad ar draws y DU ar ran Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig. Yn ogystal â sylwadau ar y gwaharddiad arfaethedig, mae'r ymgynghoriad hefyd yn ceisio tystiolaeth ar effeithiau peli micro mewn cynhyrchion eraill er mwyn llywio camau gweithredu posibl yn y DU yn y dyfodol. Mae manylion llawn am yr ymgynghoriad ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru: Cynigion i wahardd y defnydd o beli micro plastig mewn colur a chynhyrchion gofal personol.  Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 28 Chwefror 2017.

Dweud eich dweud am Ardaloedd Morol Gwarchodedig yng Nghymru

Mae Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad yn croesawu cyfraniadau i ymchwiliad i reoli ardaloedd morol gwarchodedig yng Nghymru. Mae mwy o fanylion am sut i gyfrannu ar gael yma: Ymchwiliad i reoli ardaloedd morol gwarchodedig yng Nghymru.
Erthygl gan Jeni Spragg, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.