Brexit a'r amgylchedd: paratoadau deddfwrfeydd y DU ar gyfer gadael yr UE - Rhan 2

Cyhoeddwyd 24/01/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

24 Ionawr 2017  View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Baneri'r UE A hithau'n ddechrau 2017, a chyda disgwyl i drafodaethau Brexit ddechrau maes o law, mae'r blog hwn yn rhoi blas o ymchwiliadau gwahanol ddeddfwrfeydd y DU wrth iddynt archwilio goblygiadau amgylcheddol Brexit. Yma, byddwn yn cyfeirio at nifer o ymchwiliadau pwyllgor gan ganolbwyntio ar faterion amgylcheddol a materion datganoledig fel ei gilydd. Oherwydd ehangder y gwaith sy'n cael ei gynnal ledled y DU, nid yw'r rhestr hon yn gyflawn o bell ffordd. Ddoe (23 Ionawr), buom yn ystyried Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Senedd y DU. Heddiw, byddwn yn ystyried Cynulliad Gogledd Iwerddon a Senedd yr Alban.

Cynulliad Gogledd Iwerddon

Nid oes unrhyw un o Bwyllgorau Cynulliad Gogledd Iwerddon yn cynnal ymchwiliadau ffurfiol i Brexit a'r effeithiau a ddaw yn ei sgil i Ogledd Iwerddon, nac ychwaith yn cynllunio cynnal ymchwiliad o'r fath. Fodd bynnag, cynhaliwyd sawl darn o waith at y perwyl hwnnw, fel y gwelir isod. Y Pwyllgor Amaethyddiaeth, Amgylchedd a Materion Gwledig Yn fuan wedi Refferendwm yr UE, ar 30 Mehefin 2016, cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn dystiolaeth â nifer o dystion ar Brexit a'r Blaenoriaethau Strategol. Clywodd gan Gymdeithas Cynhyrchwyr Amaethyddol Gogledd Iwerddon ac Undeb Ffermwyr Ulster (PDF 187KB). Yn ystod y sesiwn, pwysleisiodd Undeb Ffermwyr Ulster mor ddibynnol yw amaethyddiaeth Gogledd Iwerddon ar y cymorthdaliadau uniongyrchol a dderbynnir drwy Bolisi Amaethyddol Cyffredin yr Undeb Ewropeaidd.
The number-one item on the agenda for any of our farmers is the continuation of direct support…. last year, 87% of farm income was made up of direct support…. When we consider how many jobs are linked to the agrifood industry, it is critical that we as unions and you as politicians fight our corner very hard to ensure that we get a fair share of the money, whatever it might be.
Nododd Cymdeithas Cynhyrchwyr Amaethyddol Gogledd Iwerddon eu pryderon o ran oedi posibl mewn ceisiadau ar gyfer cynlluniau grantiau amgylcheddol a chyfalafol yn sgil trafodaethau Brexit. Roedd panel arall yn y sesiwn yn cynnwys Rhwydwaith Wledig y Merched Gogledd Iwerddon, Rhwydwaith y Gymuned Wledig a'r Cyngor Datblygu Gwledig (PDF 179KB) gan ganolbwyntio ar oblygiadau Brexit i ddatblygu gwledig. Pwysleisiodd Rwydwaith Wledig y Merched Gogledd Iwerddon bwysigrwydd arian yr UE mewn datblygu gwledig, a galwodd i'r lefel gyllido bresennol gael ei gwarchod am weddill cyfnod y Rhaglen Datblygu Gwledig. Yn nhrydedd rhan y sesiwn, clywodd yr Aelodau gan yr Adran Amaethyddiaeth, Amgylchedd a Materion Gwledig (PDF 290KB). Ymhlith pethau eraill, trafodwyd ymrwymiadau Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon mewn cysylltiad â chyllid y Rhaglen Datblygu Gwledig, amaethyddiaeth a masnach. Comisiynodd y Pwyllgor Wasanaeth Ymchwil a Gwybodaeth Cynulliad Gogledd Iwerddon i baratoi sawl papur ymchwil. Maent yn nodi cwestiynau posibl i'w hystyried ynghylch effaith Brexit ar amaethyddiaeth, pysgotfeydd, materion amgylcheddol a materion gwledig yng Ngogledd Iwerddon. Er enghraifft:

Senedd yr Alban

Y Pwyllgor Diwylliant, Twristiaeth, Ewrop a Materion Allanol Mae'r Pwyllgor wrthi'n cynnal ymgynghoriad, sef Refferendwm yr UE a'i oblygiadau ar yr Alban. Mae'r Pwyllgor wedi comisiynu sawl papur ymchwil ar oblygiadau gadael yr UE ar y setliad datganoli. Mae papur gan yr Athro Alan Page (PDF 2.34MB) yn archwilio'r gwahaniaethau posibl rhwng gwledydd y DU o ran polisïau amgylcheddol, gan nodi:
…In the latter three areas [agriculture, fisheries and the environment], the prospect is said to be one of increasing policy and legislative divergence between the nations and regions of the UK in the absence of a common EU framework, although the extent of international obligations has led some observers to question how much scope there would be for change in the environmental field (Environmental Audit Committee, EU and UK Environmental Policy HC (2015-16) 537). It may be therefore that adjustments will be made to the devolution settlement in order to prevent such divergences emerging. Any such adjustments would require the consent of the Scottish Parliament and would thus be a matter for agreement between the two governments.
Y Pwyllgor Amgylchedd, Newid Hinsawdd a Diwygio Tir Mae'r Pwyllgor Amgylchedd wedi llythyra'n helaeth ynghylch goblygiadau Brexit; Mae'r Pwyllgor yn bwriadu cynnal ambell sesiwn untro ar y goblygiadau amgylcheddol a ddaw yn sgil Brexit. Mae'r Pwyllgor Economi a Chysylltedd Gwledig hefyd yn cynllunio ambell sesiwn untro ar oblygiadau Brexit. At hynny, mae'r Pwyllgor Economi, Swyddi a Gwaith Teg hefyd yn archwilio Effaith Economaidd Gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Erthygl gan Katy Orford, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.