Dyfarniad y Goruchaf Lys ar Erthygl 50 o Gytuniad yr Undeb Ewropeaidd; Cyfarfod Llawn y Cynulliad i ystyried

Cyhoeddwyd 24/01/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

24 Ionawr 2017  View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg [caption id="attachment_6850" align="alignnone" width="682"]Llun o’r Goruchaf Lys Llun: o Flickr gan Rev Stan. Dan drwydded Creative Commons.[/caption] Mae'r Goruchaf Lys wedi dyfarnu heddiw bod angen Deddf Senedd y DU i gymeradwyo rhoi'r hysbysiad sy'n ofynnol o dan Erthygl 50 o'r Cytuniad ar yr Undeb Ewropeaidd. Mewn geiriau eraill, ni chaiff Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddefnyddio'r Uchelfraint Frenhinol i roi'r hysbysiad hwn. Fodd bynnag, mynegodd y Goruchaf Lys nad oedd unrhyw ofyniad cyfreithiol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon hefyd gydsynio i'r ddeddfwriaeth hon, o dan yr hyn a elwir yn gyffredin yn Gonfensiwn Sewel neu'r Confensiwn Cydsyniad Deddfwriaethol.  Pwysleisiodd y Llys fod gan Gonfensiwn Sewel rôl bwysig o ran hwyluso perthynas gytûn rhwng Senedd y DU a'r deddfwrfeydd datganoledig, ond dyfarnodd nad oedd yn rhan o swyddogaeth y farnwriaeth i blismona cwmpas confensiynau cyfansoddiadol o'r fath, na sut maent yn gweithredu. Aeth y Llys ymlaen i fynegi nad effeithir ar y casgliad hwn gan y ffaith bod rhan o Gonfensiwn Sewel bellach wedi ei sefydlu mewn statud ar gyfer yr Alban, yn Neddf yr Alban 2016 (ac y bydd hynny'n wir hefyd ar gyfer Cymru os yw Bil Cymru, sy'n mynd trwy ei gyfnodau terfynol yn y Senedd ar hyn o bryd, yn cael ei basio). Nid oedd y Llys rhoi rhwydd hynt i Lywodraeth y DU a'r Senedd anwybyddu Confensiwn Sewel. Yr oll y mae'n ei ddweud yw nad yw'r llysoedd yn gallu penderfynu a yw wedi cael ei roi ar waith yn gywir os oes anghydfod. Rhaid i unrhyw gosb am beidio â'i ddilyn fod yn un wleidyddol, yn hytrach nag yn un gyfreithiol.Mae'r hysbysiad o dan Erthygl 50 yn sbarduno'n ffurfiol ddechrau'r broses o adael yr UE - gall trafodaethau ynglŷn â'r telerau ddechrau ar ôl i'r hysbysiad gael ei roi. Mae'r Prif Weinidog wedi nodi ei bod yn bwriadu rhoi'r hysbysiad erbyn diwedd mis Mawrth 2017, er y bydd yr amserlen hon yn awr yn amodol ar y broses Seneddol. Bydd Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru yn gwneud datganiad yn y Cyfarfod Llawn heddiw ar ganlyniadau'r dyfarniad. Bydd yr Aelodau yn cael cyfle i holi'r Cwnsler Cyffredinol ynglŷn â'i ddatganiad. Mae'r materion o bwys sy'n debygol o gael eu trafod yn y Cyfarfod Llawn yn cynnwys:
  • Sut y bydd cynlluniau Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu diogelu yn y broses o adael yr UE.
  • Pa fath o rôl fydd gan y Cynulliad o ran craffu ar y trafodaethau ac a yw'n debygol y bydd rôl i'r Cynulliad o ran cymeradwyo'r fargen derfynol wrth i'r DU adael yr UE.
  • A yw'r strwythurau rhynglywodraethol presennol sydd ar waith yn y DU yn ddigonol i alluogi'r gweinyddiaethau datganoledig i ymgysylltu'n llawn.
  • A yw'n debygol y bydd y gweinyddiaethau datganoledig a Llywodraeth y DU yn llwyddo i gytuno ar safbwynt cyffredin ar gyfer y trafodaethau cyn i Erthygl 50 gael ei sbarduno.

Erthygl gan Elisabeth Jones, Cynulliad Cenedlaethol Cymru  Prif Gynghorydd Cyfreithiol.