Hanner miliwn o leisiau: ymateb uwch nag erioed yn amddiffyn Cyfarwyddebau Natur yr UE

Cyhoeddwyd 30/01/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

30 Ionawr 2017  View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Mae'r Cyfarwyddebau Natur yn ddau ddarn allweddol o ddeddfwriaeth yr UE sy'n sail i ddiogelu bywyd gwyllt a chynefinoedd - cânt eu hystyried yn aml yn gonglfeini cyfraith amgylcheddol yn Ewrop. Pan gyhoeddodd y Comisiwn Ewropeaidd yn 2014 ei fod yn gwerthuso'r Cyfarwyddebau hyn trwy 'wiriad ffitrwydd', cafwyd ymateb digynsail: derbyniwyd dros 550,000 o ymatebion gan y cyhoedd. Daeth barn ar y Cyfarwyddebau Natur o bob cwr o'r UE. Felly beth yn union yw'r Cyfarwyddebau hyn? A beth oedd y canlyniad y gwerthusiad? Y Cyfarwyddebau Natur Canolbwyntiodd y Gwiriad Ffitrwydd ar Gyfarwyddeb Adar yr UE a [caption id="attachment_6903" align="alignright" width="300"]Delwedd o fritheg y gors, rhywogaeth iâr fach yr haf brin a geir yng Nghymru. Llun: o Flickr gan Steve Childs. Dan drwydded Creative Commons.[/caption] Chyfarwyddeb Cynefinoedd yr UE, a elwir ar y cyd yn y 'Cyfarwyddebau Natur'. Maent yn diogelu mwy na 1,400 o rywogaethau dan fygythiad a bron 1.15 cilomedr sgwâr o gynefin yn Ewrop.   Y Gyfarwyddeb Adar (2009/147/EC) yw'r darn hynaf o ddeddfwriaeth amgylcheddol yr UE, a grëwyd yn gyntaf yn 1979. Ei ddiben yw amddiffyn y 500 o rywogaethau o adar gwyllt sy'n frodorol i'r UE, eu hwyau, nythod a chynefinoedd. Mae mesurau yn cynnwys dynodi Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA) i warchod cynefinoedd ar gyfer rhywogaethau sydd mewn perygl neu rywogaethau mudol. Cafodd y Gyfarwyddeb Cynefinoedd (92/43 / EEC) ei mabwysiadu yn 1992. Mae'n darparu gwarchodaeth i dros 1000 o rywogaethau o anifeiliaid a phlanhigion a 200 o fathau o gynefinoedd. Rhan allweddol yw dynodi cynefinoedd pwysig fel Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA). Mae'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd yn dwyn ynghyd ACA ac AGA i mewn i'r  Rhwydwaith Natura 2000, sef rhwydwaith ecolegol cydlynol o safleoedd gwarchodedig. Er gwaethaf y mesurau gwarchod hyn, mae colli bioamrywiaeth yn yr UE yn parhau i achosi pryder. Cafodd yr Adroddiad State of Nature 2016, er enghraifft, fod un o bob 14 o rywogaethau yng Nghymru mewn perygl o ddifodiant. Gellir cael mwy o wybodaeth am yr adroddiad mewn erthygl blog Pigion flaenorol. Y Cyfarwyddebau Natur yng Nghymru Mae darpariaethau'r Cyfarwyddebau yn cael eu gweithredu trwy ystod o ddeddfwriaeth yn cynnwys Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y'i diwygiwyd), a'r Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010 a'r Rheoliadau Cadwraeth Morol Alltraeth (Cynefinoedd Naturiol, & c.) 2007 (fel y'i diwygiwyd) . Yn 2015, roedd gan y DU 924 o safleoedd Natura 2000, yn cwmpasu 95,106 cilomedr sgwâr (8.54%) o dir daearol a morol. Ar hyn o bryd mae gan Gymru 20 o Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig a 92 o Ardaloedd Cadwraeth Arbennig. Gellir cael mwy o wybodaeth ar wefannau Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru. Y Gwiriad Ffitrwydd Mae'r Gwiriad Ffitrwydd yn rhan o ymdrech ehangach a elwir yn REFIT - Rhaglen Ffitrwydd a Pherfformiad Rheoleiddiol. Nod REFIT yw adolygu'r stoc gyfan o ddeddfwriaeth yr UE er mwyn sicrhau ei bod yn syml, yn addas i'r diben, a'i bod yn cyflawni'r manteision a fwriadwyd. Asesodd y Gwiriad Ffitrwydd y Cyfarwyddebau Natur yn erbyn 5 prif faen prawf:
  • Effeithiolrwydd - a yw'r amcanion y ddeddfwriaeth wedi'u bodloni?
  • Effeithlonrwydd - a oedd y costau oedd ynghlwm yn rhesymol?
  • Cydlyniad - a yw'r ddeddfwriaeth yn gwrth-ddweud neu'n ategu polisïau a deddfwriaeth eraill?
  • Perthnasedd - a yw gweithredu gan yr UE yn dal i fod yn angenrheidiol?
  • Gwerth ychwanegol yr UE - a ellid fod wedi cyflawni newidiadau tebyg ar lefel genedlaethol neu ranbarthol, neu a wnaeth camau gweithredu gan yr UE roi gwerth ychwanegol clir?
Roedd yr ymateb cyhoeddus sylweddol yn bennaf oherwydd ymgyrchu gan gyrff anllywodraethol amgylcheddol. Daeth y gynghrair 'Nature Alert', er enghraifft, â thros 120 o gyrff anllywodraethol Ewropeaidd ynghyd, a oedd yn gyfrifol am 90% o'r ymatebion gan y cyhoedd. Cafodd ymgyrchoedd hefyd eu cynnal gan gynghreiriau mewn sectorau eraill megis tirfeddianwyr, coedwigaeth a hela. Cyflwynwyd ymatebion hefyd gan y sector preifat, gan gynnwys masnach a chwmnïau ynni. Llywiwyd y gwerthusiad hefyd gan allbynnau blaenorol megis adolygiad canol tymor Strategaeth Bioamrywiaeth yr UE ac adroddiad y Comisiwn yn 2015 'State of Nature in the EU'. Ffeithiau a Ffigurau Allweddol Yn Adroddiad Gwerthuso'r Gwiriad Ffitrwydd (PDF 1.98MB) mae'r ffigurau allweddol yn cynnwys:
  • 552,472 o ymatebion i'r ymgynghoriad
  • Daeth 105,033 (19.0%) o'r rhain o'r DU, a oedd yn golygu mai ymateb y Du oedd yr ail uchaf ar ôl yr Almaen (sef 106,357);
  • Yn 2011, cefnogodd rhwydwaith Natura 2000 yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol rhwng 4.5 ac 8 miliwn o swyddi ledled yr UE; ac
  • amcangyfrifir mai cost gweithredu Natura 2000 ledled yr UE yw €5.8 biliwn (£5.1 biliwn) o leiaf bob blwyddyn, tra bod y budd-ion yn cael eu prisio yn €200-300 biliwn (£173-260 biliwn) y flwyddyn.
Y canlyniad Ym mis Rhagfyr 2016, cyhoeddodd y Comisiwn Ewropeaidd ganlyniad y Gwiriad Ffitrwydd. Wrth ddod i'r casgliad bod y Cyfarwyddebau yn addas i'r diben, nododd hefyd fod lle i wella wrth weithredu:
Within the framework of broader biodiversity policy the Nature Directives are fit for purpose but fully achieving their objectives and realising their full potential will depend on substantial improvement in their implementation in relation to both effectiveness and efficiency, working in partnership with different stakeholder communities in the Member States and across the EU, to deliver practical results on the ground.
Cyhoeddodd y Comisiwn Ewropeaidd ar 7 Rhagfyr 2016 y byddai'n cynnal y Cyfarwyddebau ac yn datblygu Cynllun Gweithredu i fynd i'r afael â rhai o'r heriau gweithredu a oedd wedi eu nodi. Brexit a chadwraeth natur Mae'r Gwiriad Ffitrwydd wedi amlygu'r rôl bwysig sydd gan y Cyfarwyddebau Natur mewn cadwraeth natur. Yng nghyd-destun y cynnig i dynnu'r DU allan o'r UE, beth sydd gan y dyfodol i'w gynnig ar gyfer cadwraeth natur yng Nghymru? Er mwyn helpu i ateb y cwestiwn hwn, mae Pwyllgorau'r Cynulliad wedi bod yn archwilio goblygiadau posibl Brexit ar gyfer yr amgylchedd. Gellir cael rhagor o wybodaeth yn erthygl blog Pigion 'Brexit a'r amgylchedd: paratoadau deddfwrfeydd y DU ar gyfer gadael yr UE'.
Erthygl gan Jeni Spragg, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Mae'r Gwasanaeth Ymchwil yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Jeni Spragg gan Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol, a alluogodd i'r erthygl hon gael ei chwblhau