Pa fath o wasanaeth ieuenctid sydd ei eisiau ar Gymru? Aelodau'r Cynulliad i drafod adroddiad y Pwyllgor

Cyhoeddwyd 02/02/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

02 Chwefror 2017 View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Ddydd Mercher 8 Chwefror 2017, bydd Aelodau'r Cynulliad yn trafod adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar ei ymchwiliad i effeithiolrwydd strategaeth a pholisi Llywodraeth Cymru mewn perthynas â gwaith ieuenctid: Pa fath o wasanaeth ieuenctid sydd ei eisiau ar Gymru? (PDF 1.11MB). Daeth y Pwyllgor i'r casgliad bod angen dull radical ar gyfer mynd i'r Dyma lun o bobl ifanc afael â'r dirywiad brawychus mewn gwasanaethau ieuenctid ledled Cymru. Gwnaeth ddeg o argymhellion i Lywodraeth Cymru ynghylch sut y dylai gynnig y gwasanaeth ieuenctid y mae ar bobl Cymru ei eisiau. Canolbwyntiodd ymchwiliad y Pwyllgor yn bennaf ar y materion a ganlyn:
  • Mynediad pobl ifanc at wasanaethau ieuenctid;
  • Effeithiolrwydd strategaeth a pholisi Llywodraeth Cymru o ran gwaith ieuenctid;
  • Cyllid ar gyfer gwaith ieuenctid gan awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru, yr Undeb Ewropeaidd a'r trydydd sector.
Mynegodd dros 1,500 o bobl ifanc eu barn i'r Pwyllgor, a'u neges ddilyffethair oedd cymaint yw'r effaith ar fywyd person ifanc pan na fo darpariaeth ar gyfer gwaith ieuenctid ar ei gyfer. At hynny, clywodd y Pwyllgor gan randdeiliaid a oedd yn gweithio â phobl ifanc. Dyma oedd ganddynt i’w ddweud: fideo chwe munu. Sut beth yw gwaith ieuenctid heddiw? Clywodd y Pwyllgor fod pwysau ariannol wedi cael effaith ddifrifol ar waith ieuenctid dros y blynyddoedd diwethaf. Mae ystadegau Llywodraeth Cymru yn dangos bod cyfanswm gwariant a neilltuir gan awdurdodau lleol at ddiben gwasanaethau ieuenctid wedi gostwng o bron i 25 y cant dros y pedair blynedd ddiwethaf. Bu gostyngiad hefyd yng nghyfran y bobl ifanc sydd wedi cofrestru i fanteisio ar ddarpariaeth y gwaith ieuenctid, a hynny o 20 y cant yn 2013-14 i 17 y cant yn 2015-16. Disgrifiodd y Pwyllgor yr ystedegyn hwn i fod yn ostyngiad dirfawr. Clywodd y Pwyllgor fod y rhagolwg ar gyfer y sector gwirfoddol yr un mor brudd, â Chyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol yn adrodd bod 30 y cant o'i aelodau yn ansicr ynghylch eu dyfodol ariannol. Lansiodd Llywodraeth Cymru ei Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cenedlaethol Cymru ym mis Chwefror 2014, gan fwriadu gosod cyfeiriad ar gyfer sefydliadau gwaith ieuenctid yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod tan 2018. Esboniodd Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes (PDF 662 KB), fod y strategaeth yn amcanu i roi rôl bwysig i ddarpariaeth gwaith ieuenctid er mwyn ymgysylltu â phobl ifanc a sicrhau llwyddiant iddynt yn addysg y brif ffrwd. Trafododd y Pwyllgor y graddau y gwneir y mwyaf o gapasiti'r sector gwirfoddol a'r sector statudol, gan ddod i'r casgliad a ganlyn:
Mae angen ymyriad brys a radical ar ran y Gweinidog os yw am sicrhau ei weledigaeth uchelgeisiol o ddarpariaeth ddwyieithog sy'n wirioneddol agored. Rhaid iddo hefyd fynd i'r afael â'r diffyg gweithio strategol a chydweithio rhwng y sectorau statudol a gwirfoddol, rhywbeth y cred y Pwyllgor sy'n rhwystr sylweddol i ddarparu cynnig gwaith ieuenctid cyffredinol.
Pa rôl y dylai Llywodraeth Cymru ei chwarae? Argymhellodd y Pwyllgor i Lywodraeth Cymru adolygu ei Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cenedlaethol ac adnewyddu'r canllawiau statudol Ymestyn Hawliau, a gyhoeddwyd yn 2002. Dywedodd y Gweinidog wrth y Pwyllgor fod y strategaeth bresennol yn cael ei hadolygu, a chaiff canlyniadau'r adolygiad eu cyhoeddi yn nhymor y gwanwyn 2017. Dywedodd y byddai hyn yn sail i strategaeth newydd yn 2018 ac y byddai'n adnewyddu'r canllawiau statudol. Dangosodd rhanddeiliaid yn eu tystiolaeth eu bod yn credu bod diffyg arweiniad a chyfeiriad strategol gan Lywodraeth Cymru. Roedd barn y Gweinidog ar gyflwr gwaith ieuenctid ar hyn o bryd yn dra gwahanol i farn Grŵp Prif Swyddogion Ieuenctid llywodraeth leol a Chyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol. Galwodd y Pwyllgor ar y Gweinidog i weithio gyda'r sefydliadau hyn, gan ddwyn ynghyd eu harbenigedd a'u dealltwriaeth i sicrhau gwelliant mewn darpariaeth gwaith ieuenctid. Pa fath o wasanaeth ieuenctid sydd ei eisiau ar Gymru? Galwodd nifer o'r rhai a gyfranodd at ymchwiliad y Pwyllgor am sefydlu corff cenedlaethol newydd i arwain y ffordd o ran polisi gwaith ieuenctid, a gweithredu'r polisi hwnnw yn y sector statudol a'r sector gwirfoddol. Credai'r rhanddeiliaid hyn y byddai model cenedlaethol, fel y noda adroddiad y Pwyllgor, 'yn galluogi prosesau cydweithredol gwell, yn lleihau dyblygu ar draws y sectorau, yn codi statws a phroffil gwaith ieuenctid, ac yn galluogi datblygiad y gweithlu', gan 'wneud y mwyaf o'r adnoddau sydd ar gael er budd pobl ifanc'. Dywedodd Alun Davies AC wrth y Pwyllgor nad yw'n bwriadu cenedlaetholi gwasanaethau ieuenctid na'u cynnig yn ganolog o Fae Caerdydd. Dywedodd y byddai'n penderfynu ar fodel ar gyfer darpariaeth gwaith ieuenctid yn y dyfodol yn gynnar yn 2017. Fodd bynnag, ychwanegodd:
Overwhelmingly, my view remains that this is a matter for local government to take these decisions and not a matter for a Minister to intervene in. (…)
Mae'r Pwyllgor wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno model cenedlaethol ar gyfer gwaith ieuenctid, yn cwmpasu darpariaeth statudol a gwirfoddol fel ei gilydd. Yn ei adroddiad, mynegodd y Pwyllgor ei bryder ynghylch y diffyg atebolrwydd o ran y modd y mae awdurdodau lleol yn defnyddio cyllid ar gyfer gwasanaethau ieuenctid fel rhan o'r Grant Cynnal Refeniw at ddibenion gwahanol mewn gwirionedd. Dywedodd y Gweinidog, mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y posibilrwydd o bennu canlyniadau disgwyliedig ar gyfer awdurdodau lleol fel amod i'r cyllid:
Setting outcomes by local authority area—I’m happy to consider that. (…) I’m more attracted by the concept of outcomes than I am by hypothecation … If we are going to look at a national outcomes framework, then perhaps how we break that down into local areas could be something we could look at.
Mae'r Pwyllgor wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu fframwaith atebolrwydd ar gyfer rheoli defnydd awdurdodau lleol o'r cyllid ar gyfer gwaith ieuenctid drwy'r Grant Cynnal Refeniw, gan gynnwys gosod cosbau os nad yw'r gofynion yn cael eu bodloni. Ymateb Llywodraeth Cymru Cyhoeddwyd ymateb Llywodraeth Cymru (PDF 293KB) heddiw (2 Chwefror 2017). Mae Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, wedi derbyn pump o’r argymhellion, a derbyniodd y pum argymhelliad arall mewn egwyddor. Sut i wylio'r ddadl Bydd dadl Aelodau'r Cynulliad ynghylch adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am tua 16:00 yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 8 Chwefror 2017. Gellir gwylio ar SeneddTV a bydd trawsgrifiad ar gael ar Gofnod y Trafodion.
Erthygl gan Michael Dauncey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru