Bil “Erthygl 50”: Y datblygiadau diweddaraf

Cyhoeddwyd 06/02/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

06 Chwefror 2017 View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Ers dyfarniad y Goruchaf Lys, mae’r broses o ran ymadael â’r UE wedi symud ymlaen yn gyflym. Cyhoeddodd y Goruchaf Lys ei ddyfarniad ar achos R (ar gais Miller ac arall) (Ymatebwyr) v yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (Apelydd) ar 24 Ionawr 2017, yr hyn a elwir yn “ddyfarniad Erthygl 50”. Apêl oedd hwn; roedd yr Uchel Lys wedi dyfarnu yn erbyn Llywodraeth y DU ar gam blaenorol yn yr achos. Pe byddai Aelod-wladwriaeth yn penderfynu tynnu'n ôl o'r Undeb [caption id="attachment_6970" align="alignright" width="300"]1024px-uk_supreme_court_court_1 Llun: o Wikimedia gan Rwendland. Dan drwydded Creative Commons.[/caption] Ewropeaidd (“yr UE”), mae Erthygl 50 o'r Cytuniad ar yr Undeb Ewropeaidd yn darparu y dylai gyflwyno hysbysiad o'r bwriad hwnnw (“Hysbysiad”). Bydd y cytuniadau sy'n llywodraethu'r UE yn peidio â bod yn gymwys i'r Aelod-wladwriaeth honno ddwy flynedd yn ddiweddarach.   Dadleuodd Llywodraeth y DU fod ganddi hawl i roi Erthygl 50 o'r Cytuniad mewn grym heb fod angen i'r Senedd basio deddf. Dywedodd fod pwerau uchelfraint y Goron i lofnodi cytuniadau ac i dynnu'n ôl ohonynt yn golygu fod gan Weinidogion yr hawl i arfer y pŵer hwn mewn perthynas â Chytuniadau'r UE, a bod ganddi, felly, hawl i gyflwyno Hysbysiad o fwriad y DU i ymadael â'r UE heb fod angen deddfu ar y mater. Roedd y gwrthwynebwyr, fodd bynnag, yn dadlau y byddai tynnu'n ôl o Gytuniadau'r UE yn newid y gyfraith ddomestig. Oherwydd y rheol na chaniateir defnyddio pwerau uchelfraint i newid cyfraith ddomestig y DU, roeddynt o'r farn fod hyn yn golygu na allai Llywodraeth y DU gyflwyno Hysbysiad oni chaiff ei hawdurdodi i wneud hynny gan Ddeddf Seneddol. Gwrthododd y Goruchaf Lys apêl yr Ysgrifennydd Gwladol o fwyafrif o 8 i 3. Roedd y Goruchaf Lys o'r farn, ar ôl astudio telerau Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, a oedd yn rhoi effaith i aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd, na allai Gweinidogion y DU arfer pŵer i dynnu'n ôl o Gytuniadau'r UE heb i'r pŵer hwnnw gael ei awdurdodi'n gyntaf gan Ddeddf Seneddol. Ymatebodd Llywodraeth y DU drwy gyhoeddi Bil yr Undeb Ewropeaidd (Hysbysiad Tynnu'n Ôl) 2016-17. Dim ond dau gymal sydd yn y Bil hwnnw, ac maent yn datgan fel a ganlyn:
1 Power to notify withdrawal from the EU (1) The Prime Minister may notify, under Article 50(2) of the Treaty on European Union, the United Kingdom’s intention to withdraw from the EU. (2) This section has effect despite any provision made by or under the European Communities Act 1972 or any other enactment. 2 Enw byr This Act may be cited as the European Union (Notification of Withdrawal) Act 2017.
Cynhaliwyd Ail Ddarlleniad y Bil ar 31 Ionawr ac 1 Chwefror. Pleidleisiodd 498 Aelod Seneddol o blaid ac 114 yn erbyn. Ar 6 Chwefror, am dri diwrnod, bydd y Bil yn cael ei drafod gan Bwyllgor y Tŷ Cyfan. Trefnwyd Trydydd Darlleniad y Bil a'r Cyfnod Adrodd ar 8 Chwefror. Yna, bydd yn mynd i Dŷ'r Arglwyddi. Mae gwelliannau wedi'u cyflwyno i'r Bil. Mae nifer o'r rhain yn ychwanegu cymalau newydd sy'n sefydlu pwerau fel y gall Senedd y DU graffu ar waith Llywodraeth y DU yn ystod y trafodaethau. Mae gwelliannau eraill yn ceisio gwneud rôl Cydbwyllgor y Gweinidogion yn un statudol yn ystod y trafodaethau i ymadael â'r UE a/neu ei gwneud yn ofynnol i'r Prif Weinidog gael cytundeb Prif Weinidogion Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon cyn cytuno ar y telerau tynnu'n ôl. Mae un grŵp o welliannau hefyd yn ceisio'i gwneud yn ofynnol i Weinidogion gael sêl bendith y Senedd ar gyfer unrhyw gytundeb â'r UE i dynnu'n ôl. Mae'r cymalau sy'n anelu at wneud rôl Cydbwyllgor y Gweinidogion yn statudol yn gysylltiedig â dyfarniad y Goruchaf Lys ar Erthygl 50, a ddyfarnodd nad mater i'r llysoedd oedd y confensiwn na fydd Senedd y DU yn deddfu mewn materion sydd wedi'u datganoli (a elwir yn “Gytundeb Sewel”). Nododd y Llys fel a ganlyn:
In reaching this conclusion we do not underestimate the importance of constitutional conventions, some of which play a fundamental role in the operation of our constitution. The Sewel Convention has an important role in facilitating harmonious relationships between the UK Parliament and the devolved legislatures. But the policing of its scope and the manner of its operation does not lie within the constitutional remit of the judiciary, which is to protect the rule of law.
Y diwrnod ar ôl i'r Bil gael Ail Ddarlleniad, cyhoeddodd Llywodraeth y DU Bapur Gwyn: The United Kingdom’s exit from and new partnership with the European Union. O ran datganoli, roedd yn nodi fel a ganlyn:
The devolved administrations will continue to be engaged through the Joint Ministerial Committee (JMC), chaired in plenary by the Prime Minister and attended by the First Ministers of Scotland and Wales and the First and deputy First Ministers of Northern Ireland, and the JMC sub-committee on EU Negotiations (JMC(EN)), chaired by the Secretary of State for Exiting the European Union, with members from each of the UK devolved administrations.
Erthygl gan Dr Alys Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru