Gwaddol Cenedlaethol ar gyfer Cerddoriaeth

Cyhoeddwyd 08/02/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

08 Chwefror 2017 View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Ar 14 Chwefror 2017 bydd Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn gwneud datganiad yn y Cyfarfod Llawn ar sefydlu'r Gwaddol Cenedlaethol ar gyfer Cerddoriaeth. Cefndir [caption id="attachment_6994" align="alignright" width="300"]violin_landscape Llun: o Flickr gan Jason Hollinger. Dan drwydded Creative Commons.[/caption]   Cafwyd pryderon hirsefydlog am y pwysau ariannu mewn perthynas â gwasanaethau addysg cerddoriaeth awdurdodau lleol, anstatudol. Ym mis Mawrth 2015, sefydlodd y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau ar y pryd, Huw Lewis, Grŵp Gorchwyl a Gorffen Gwasanaethau Cerddoriaeth.   Edrychodd y Grŵp ar gyflenwi gwasanaethau cerddoriaeth; polisïau codi tâl, cyflenwi offerynnau cerdd a gwaith partneriaeth.  Ystyriodd y Grŵp hefyd faterion yn ymwneud ag adnoddau ar gyfer datblygu addysg cerddoriaeth yng Nghymru yn y dyfodol, a'r potensial ar gyfer Gwaddol Cenedlaethol ar gyfer Cerddoriaeth.  Argymhellodd y Grŵp y canlynol:
Dylai Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru ymchwilio i'r posibilrwydd o sefydlu Gwaddol Cenedlaethol ar gyfer Cerddoriaeth, a'r cyfyngiadau ar hynny, er mwyn datblygu cyfleoedd i bobl ifanc ddefnyddio sgiliau a doniau cerddorol i wireddu eu posibiliadau Dylai’r ymchwil edrych ar y model ar gyfer gwaddol o’r fath a’r adnoddau ar ei gyfer, gan gynnwys y posibilrwydd o gael ardoll tocynnau wirfoddol, a dylai Gweinidogion gael adroddiad ar ddichonoldeb cychwynnol y cynllun o fewn chwe mis.
Derbyniodd y Gweinidog ar y pryd yr argymhellion ym mis Hydref 2015. Cafodd Trio Consulting ei gomisiynu gan Gyngor Celfyddydau Cymru i gynnal astudiaeth ddichonoldeb ar sefydlu'r gwaddol. Cyflwynwyd yr adroddiad i'r Gweinidog blaenorol dros Addysg a Sgiliau a'r Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth ym mis Rhagfyr 2015. Beth allwn ni ei ddisgwyl? Yn ei dystiolaeth ysgrifenedig i'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar 14 Medi 2016, [PDF 241KB] dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith fod Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Chyngor Celfyddydau Cymru, yn ystyried sefydlu cronfa waddol barhaol ar gyfer cerddoriaeth.
Y nod yw creu cronfa o £20 miliwn neu fwy. Ymhen amser, gallai ddarparu hyd at £1 filiwn y flwyddyn i helpu pobl ifanc i feithrin eu sgiliau a'u doniau ym maes cerddoriaeth. Gallwn gyrraedd y targed hwn, er y bydd yn gryn her, felly bydd angen denu cyllid o amryfal ffynonellau yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat. Rydym wrthi'n ymgynghori ag amryw o bartneriaid a buddiolwyr posibl er mwyn sicrhau bod gennym gynllun effeithiol ar gyfer creu a chynnal y corff newydd hwn.
Ym mis Mawrth 2015, comisiynwyd ar y cyd gan Huw Lewis a Ken Skates, y Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth ar y pryd, grŵp gorchwyl a gorffen i edrych ar ddyfodol yr Ensemblau Cenedlaethol. Gwnaeth adroddiad y grŵp, Sicrhau dyfodol cynaliadwy ar gyfer ensemblau celfyddydau cenedlaethol ieuenctid Cymru  [PDF 825KB] (Ionawr 2016) argymhellion i Lywodraeth Cymru, Cyngor y Celfyddydau, awdurdodau lleol, a Chelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) - y corff ymbarél ar gyfer yr ensemblau. Un argymhelliad oedd y dylai Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ar ei newydd wedd a Llywodraeth Cymru archwilio'n llawn y potensial i CCIC ddod yn fuddiolwr allweddol y Gwaddol Cenedlaethol. Bydd y cyhoeddiad yn amlwg o ddiddordeb i bawb sy'n ymwneud â cherddoriaeth yng Nghymru ac i'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu sy'n cynnal ymchwiliad i ariannu addysg cerddoriaeth a mynediad ati.
Erthygl gan Sian Hughes, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru