Mae Addysg Gychwynnol i Athrawon yn newid: Bydd y Cynulliad yn pleidleisio dros roi'r cyfrifoldeb ar gyfer achredu athrawon i Gyngor y Gweithlu Addysg.

Cyhoeddwyd 08/02/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

08 Chwefror 2017 View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Yn ddiweddar, pleidleisiodd Aelodau'r Cynulliad o blaid cynyddu nifer y proffesiynau yr oedd yn rhaid iddynt gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg a phennu'r ffioedd ar gyfer y cofrestriad hwnnw. Ar ôl cymeradwyo'r rheoliadau hynny, bydd yr Aelodau yn awr yn pleidleisio ar  Orchymyn  Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Swyddogaethau Ychwanegol)  (Cymru) 2017 (y Gorchymyn) ar 14 Chwefror 2017 . Bydd y Gorchymyn yn ehangu cylch gwaith Cyngor y Gweithlu ite-blog-picAddysg i'w wneud yn gyfrifol am achredu rhaglenni Addysg Gychwynnol i Athrawon  yng Nghymru. Bydd hefyd yn rhoi cyfrifoldeb i'r Cyngor am fonitro rhaglenni Addysg Gychwynnol i Athrawon, gyda'r bwriad o ddileu achrediadau ar gyfer rhaglenni y mae'n barnu nad ydynt yn cydymffurfio â'i meini prawf achredu. Bwriad hyn, ochr yn ochr â rhai o'r newidiadau eraill a nodir isod, yw gwella safonau yn y sector. Ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar y pwerau newydd ar gyfer Cyngor y Gweithlu Addysg, ochr yn ochr â fersiwn ddrafft o'r meini prawf i'w defnyddio ar gyfer achredu Addysg Gychwynnol i Athrawon, yn ystod hydref 2016. Systemau cyfredol ac arfaethedig ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon Mae rhoi pŵer i Gyngor y Gweithlu Addysg lunio meini prawf achredu a dyfarnu statws achrededig i raglenni Addysg Gychwynnol i Athrawon yn rhan o broses newid ehangach yn y system. Ar hyn o bryd mae tair canolfan yng Nghymru yn darparu Addysg Gychwynnol i Athrawon:
  • Canolfan Gogledd a Chanolbarth Cymru: Prifysgolion Aberystwyth a Bangor;
  • Canolfan De Ddwyrain Cymru: Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol De Cymru; a
  • Chanolfan De Orllewin Cymru: Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Roedd y canolfannau hyn yn cael eu cyllido gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC),  a oedd hefyd yn pennu'r meini prawf achredu. Ar hyn o bryd mae Estyn yn arolygu darpariaeth Addysg Gychwynnol i Athrawon yng Nghymru i sicrhau ei hansawdd a'i chydymffurfiaeth â'r gofynion ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon. Canfu arolygiadau diweddaraf Estyn ar y canolfannau y pwyntiau a ganlyn: O ganlyniad i hyn, yn ogystal ag adroddiadau eraill a oedd yn feirniadol o'r sector, penderfynodd Llywodraeth Cymru fod angen newid. Amlycaf ymhlith y rhain oedd yr adroddiad gan yr Athro John Furlong, Addysgu Athrawon Yfory.  Gellir darllen ein blog ar Adroddiad Furlong yma. Roedd yr ymgynghoriad diweddar ar feini prawf drafft ar gyfer achredu yn cynnig creu Pwyllgor Achredu Addysg Athrawon, a fyddai'n cael ei leoli o fewn Cyngor Addysg y Gweithlu. Cynigiodd Llywodraeth Cymru y byddai'r Pwyllgor Achredu Addysg Athrawon yn cynnwys 'aelodau'r proffesiwn, arbenigwyr ym maes addysg gychwynnol i athrawon, pennaeth ysgol presennol neu un sydd newydd adael y swydd, a chynrychiolydd Estyn' ac 'y byddai'n gyfrifol am  achredu’r holl raglenni  addysg gychwynnol i athrawon' yng Nghymru. Yn y memorandwm esboniadol sy'n cyd-fynd â'r Gorchymyn, mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif:
y bydd angen costau cychwynnol o £260,000 ar gyfer sefydlu Pwyllgor ar gyfer Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon, a byddant yn cael eu talu dros ddwy flwyddyn ariannol 2016-17 a 2017-18.
Roedd y ddogfen ymgynghori hefyd yn tynnu sylw at fwriad Llywodraeth Cymru i sicrhau y bydd yr holl raglenni Addysg Gychwynnol i Athrawon yn cael eu harwain gan 'bartneriaethau' a fydd yn cynnwys Sefydliad Addysg Uwch a nifer o 'ysgolion partneriaeth arweiniol'. Rhagwelir y bydd yn 'rhaid i'r  Sefydliadau Addysg Uwch - ynghyd â phob un o'u hysgolion partner - gymryd cyfrifoldeb ar y cyd am eu cyfraniadau at y rhaglen'. O dan y system bartneriaeth a gynigir yn yr ymgynghoriad bydd CCAUC yn cadw cyfrifoldeb am weinyddu'r cyllid ar gyfer hyfforddiant athrawon. Bydd Estyn yn cynnal arolygiadau o ddarpariaeth Addysg Gychwynnol i Athrawon  bob pum mlynedd, yn ddelfrydol flwyddyn cyn ail-achredu partneriaeth gyda'r Pwyllgor Achredu Addysg Athrawon, er mwyn i adroddiadau arolygu allu cyfrannu at y canllawiau achredu. Bydd arolygiadau Estyn yn cael eu cynnal gan ddefnyddio fframwaith arolygu diwygiedig a chanllawiau sy'n rhoi ystyriaeth benodol i feini prawf achredu'r Pwyllgor Achredu Addysg Athrawon. Mae'r memorandwm esboniadol i'r Gorchymyn yn egluro  amserlen ddisgwyliedig Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio Addysg Gychwynnol i Athrawon, ac fe'i gwelir isod. teachertable (Saesneg yn unig) Llais y gwrthwynebiad Datganodd crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad a gafwyd gan Lywodraeth Cymru ynghylch Achredu Addysg Gychwynnol i Athrawon y pwyntiau a ganlyn:
For many it seemed a logical step for the Education Workforce Council (EWC) to have responsibility for accrediting programmes of ITE and establishing a Teacher Education Accreditation Committee (TEAC). Respondents from the Teaching Councils of Ireland, Scotland and Northern Ireland said this was in line with statutory arrangements they have had for a number of years.
Fodd bynnag, nododd yr undeb NASUWT, mewn papur a gyflwynwyd fel rhan o ymgynghoriad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar addysg a dysgu proffesiynol athrawon y pwyntiau a ganlyn:
The EWC in its current form is not an appropriate body to take on the statutory responsibility for accrediting all programmes of ITE in Wales. The NASUWT has argued that the EWC would need to demonstrate that it can act coherently, consistently and equitably in relation to its existing responsibilities, before additional functions are allotted to it.
Nodwyd ym mhapur y Gymdeithas Athrawon a Darlithwyr a gyflwynwyd i'r ymgynghoriad hefyd ei bod yn:
...concerned about the configuration and remit of the EWC. Currently the Council is made up of people appointed by Ministers. We strongly believe there should be no more ‘mission creep’ or an extension of the remit of the EWC until it includes members elected from all the education unions.
Mae Llywodraeth Cymru, yn yr ymgynghoriad ar y meini prawf drafft, yn dadlau’r hyn a ganlyn:
Enhancing the role of the EWC, will enable the education profession to exercise a collective voice; both in policy making and leading the improvements in standards and the process of change. A committee of the EWC could include a range of stakeholders, including representation from the teaching profession itself. It would also be well placed to provide leadership and coordination for teacher education on a national level, while at the same time being at arm’s length from the Welsh Government.
Erthygl gan Joe Champion, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru