A fydd cynlluniau peilot a phrisiau tocynnau trên yn ffafriol i deithwyr o’r diwedd?

Cyhoeddwyd 09/02/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

09 Chwefror 2017 View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Ar 1 Chwefror cyhoeddodd y Grŵp Cyflawni o ran Rheilffyrdd (RDG), corff y diwydiant rheilffyrdd sy’n cynnwys yr holl weithredwyr cludo teithwyr a nwyddau ym Mhrydain, ynghyd â Network Rail a HS2, gyfres o gynlluniau peilot ar brisiau tocynnau trên a gwelliannau eraill (Saesneg yn unig). Roedd y RDG yn awgrymu bod posibilrwydd y gallai’r rhain sicrhau prisiau symlach a’r fargen orau bosibl i gwsmeriaid bob tro y maent yn teithio. Mae hyn yn dilyn cyhoeddi cynllun gweithredu o ran gwybodaeth am [caption id="attachment_7005" align="alignright" width="300"]cc_train Llun Flickr gan Elliot Brown. Trwyddedwyd o dan Creative Commons.[/caption] brisiau a materion tocynnau trên (Saesneg yn unig) ar y cyd gan yr Adran Drafnidiaeth, RDG, Which? a Transport Focus (y corff gwarchod annibynnol dros ddefnyddwyr trafnidiaeth) ym mis Rhagfyr 2016.   Mae prisiau a materion tocynnau wedi achosi cur pen i deithwyr rheilffordd ledled Prydain ers tro byd. Er na fydd y cynlluniau peilot ynddynt eu hunain, o bosibl, yn effeithio ar Gymru yn uniongyrchol, os byddant yn llwyddiannus mae’n debygol y bydd y cynlluniau peilot hyn yn arwain at newidiadau ar draws y rhwydwaith yn y dyfodol, fel y caiff masnachfreintiau rheilffyrdd eu hadnewyddu. Disgwylir gwelliannau i beiriannau tocynnau a gwefannau hefyd yn ystod 2017, a all arwain at fanteision mwy uniongyrchol. Felly beth yw’r broblem? Mae gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth ddyletswydd statudol o dan y Ddeddf Rheilffyrdd 1993 i wneud yn siŵr bod prisiau tocynnau trên yn rhesymol, i amddiffyn drwy faterion tocynnau ac i hyrwyddo’r defnydd o wasanaethau a ddarperir gan fwy nag un gweithredydd. Caiff hyn ei gyflawni drwy "reoleiddio prisiau tocynnau" drwy gytundebau masnachfraint, a "rheoleiddio materion tocynnau" drwy gytundebau ar draws y diwydiant a gaiff eu gorfodi gan y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd (ORR), rheoleiddiwr y diwydiant, fel amod o’r trwyddedau gweithredu. Mae rhagor o fanylion am y trefniadau hyn ar gael yn atodiad A o ddogfen Adran Drafnidiaeth y DU a gyhoeddwyd yn 2012 Adolygiad o Brisiau a Materion Tocynnau Trên: Ymgynghoriad cychwynnol (Saesneg yn unig). Mae’r RDG yn esbonio sut y bydd y treialon arfaethedig yn mynd i’r afael ag effeithiau’r rheoliadau hyn:
The trials will be designed to establish the changes needed to regulation and processes so that train companies can offer customers simpler, easy to use fares. Decades-old government rules covering rail fares, originally intended to protect customers but introduced before the internet and online booking, have prevented train companies from being more flexible in offering tickets that customers want.
Bu cymhlethdod prisiau a materion tocynnau rheilffordd yn achosi problemau ers blynyddoedd. Ym mis Mehefin 2012 cyhoeddodd Swyddfa Rheoleiddio’r Rheilffyrdd ddogfen ar Brisiau a materion tocynnau - gwybodaeth a chymhlethdod (Saesneg yn unig). Roedd canfyddiadau’r adroddiad hwn yn cynnwys, bod mwy na hanner y teithwyr a holwyd o’r farn bod cael y tocyn gwerth gorau "yn dipyn o loteri", roedd 45 y cant yn meddwl bod y system yn rhy anodd i’w deall, tra bod 41 y cant wedi prynu tocynnau ac wedi darganfod yn ddiweddarach y gallent fod wedi gwneud yr un daith am gost is. Nid oedd bron dri-chwarter yr holl bobl a holwyd yn gwybod yn hyderus ynghylch beth oedd amseroedd y tocynnau ‘teithio ar adegau tawel’. Yn yr un modd, canfu gwaith ymchwil ansoddol ar Ddefnyddioldeb peiriannau gwerthu tocynnau (TVM) (Saesneg yn unig), a gyhoeddwyd gan Transport Focus yn 2010, er bod y mwyafrif helaeth (72 y cant) o deithwyr "yn fodlon â chyfleusterau prynu tocynnau mewn gorsafoedd", roedd rhai teithwyr yn parhau i gael problemau. Roedd y problemau hyn yn cynnwys cynllun gwael o ran sgrîn y peiriant, dilyniannu sgrîn dryslyd a chymhleth, a dryswch ynghylch dilysrwydd tocynnau a chyfyngiadau, ac felly bod teithwyr yn aneglur ynghylch pa opsiynau sy’n cynnig y tocyn gwerth gorau iddynt. Ym mis Hydref 2016, cyhoeddodd y Pwyllgor Dethol ar Drafnidiaeth, Tŷ’r Cyffredin, yr adroddiad Dyfodol y rheilffyrdd: Gwella profiad teithwyr rheilffyrdd (Saesneg yn unig), sef y diweddaraf mewn cyfres o adroddiadau sy’n ystyried prisiau a materion tocynnau dros y degawd diwethaf.  Roedd yr adroddiad yn disgrifio rhwystredigaethau teithwyr ‘:
Particular bugbears include use of ambiguous terms such as “London Terminals” and “Any Permitted” in relation to destinations and routes; “split-ticketing”, by which cross-country journeys can often be made more cheaply by purchasing a series of tickets between intermediate stations on the journey; and ticket vending machines that do not always offer the full range of ticketing information or the cheapest available fares.
Mae llywodraethau olynol y DU wedi addo y byddant yn symleiddio prisiau tocynnau trên. Addawyd ym Mhapur Gwyn y llywodraeth Lafur, Darparu system Reilffordd Gynaliadwy (Saesneg yn unig), ym mis Gorffennaf 2007 i’w gwneud yn haws i deithwyr benderfynu pa bris yw’r un cywir ar gyfer eu taith, cael ymdeimlad o ran prisiau, ac i ddarganfod a oes yna ddewis rhatach ar gael. Cynhaliodd Llywodraeth ddiwethaf y DU adolygiad o brisiau a thocynnau, a chyhoeddi ei chanfyddiadau yn "Camau nesaf" (Saesneg yn unig) ym mis Hydref 2013. Beth sy’n digwydd ar hyn o bryd? Cyhoeddwyd gwybodaeth am dri chynllun peilot i fynd i’r afael ag amrywiaeth o faterion:
  • Tocynnau hollt: Mae RDG yn dweud y bydd cynllun "pris gorau i ben y daith" yn cael ei brofi gyda Threnau CrossCountry sydd, ar hyn o bryd, oherwydd rheoliadau, yn gorfod prisio tocynnau i ben y daith ar gyfer cysylltiadau teithiau hir iawn, hyd yn oed ble y gall cwsmeriaid guro’r pris hwnnw drwy gyfuno gwahanol fathau o docynnau. Mae manylion ynghylch pa lwybrau penodol a gaiff eu cynnwys yn y treial yn cael eu cwblhau ar hyn o bryd, a byddant yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir;
  • Prisio ar sail taith Sengl: Bydd yn cael ei brofi ar y llwybrau Llundain-Glasgow a Llundain-Caeredin. Ar hyn o bryd, mae llawer o docynnau sengl ar y llwybrau hyn yn costio llawer mwy na 50 y cant o bris tocyn dychwelyd. Dywed y RDG y bydd y cynllun peilot yn profi prisio taith sengl "fel bod cwsmeriaid bob amser yn gwybod beth yw’r pris rhataf ar gyfer eu taith o ddewis, i fynd a dod yn ôl"; a
  • Newidiadau o ran llwybrau: Bydd y llwybr Llundain-Sheffield yn cael ei “ail-wampio i adlewyrchu’r hyn sydd ar gael mewn gwirionedd", lle, ar hyn o bryd y mae prisiau sy’n amlwg yn anaddas, ond rhaid iddynt barhau i gael eu cynnig, ac mae hyn yn creu dryswch ac yn cynnig gwerth gwael am arian. Dywed y RDG:
Regulations [on this route] date back to when the direct service was much less frequent and journeys often needed a change of train via a longer route. This means that tickets are required to be available which are not in step with actual options available now.
Yn ddiweddar, mewn erthygl ar y treialon roedd y cylchgrawn masnach Passenger Transport wedi nodi enghraifft o’r materion sydd i’w datrys gan y cynllun peilot o ran llwybr Llundain-Sheffield. Roedd yn tynnu sylw at y ffaith, er bod gwasanaeth uniongyrchol i Sheffield o orsaf St Pancras, gall gwasanaeth o orsaf Kings Cross, sy’n newid yn Doncaster, gynnig dewis arall. Ond er gwaetha’r ffaith ei bod yn cymryd mwy o amser ac fod angen newid trên ar y daith, mae rheoliadau o ran prisiau yn golygu bod y llwybr Kings Cross yn ddrutach. Yn ychwanegol at y tri threial, mae’r RDG wedi amlygu camau a nodir yn y cynllun gweithredu ar y cyd i wneud peiriannau a gwefannau prynu tocynnau trên yn haws i’w defnyddio, drwy roi ‘gwell gwybodaeth i gwsmeriaid ac i’w gwneud yn symlach i ddod o hyd i’r tocyn cywir am y pris cywir’. Mae’r cynllun gweithredu yn egluro y bydd y newidiadau yn cynnwys enwau a diffiniadau clir ar docynnau, dull ar-lein i chwilio am esboniad ar gyfyngiadau, ac opsiynau ar gyfer dod o hyd i’r pris rhataf. Beth sy’n digwydd nesaf? Bydd y tri threial yn dechrau ym mis Mai 2017, gydag amrywiaeth o welliannau i beiriannau a gwefannau gwerthu tocynnau yn dechrau yn y gwanwyn 2017, ac a gaiff ei gyflwyno’n ehangach yn ystod y flwyddyn. Bydd gweithgor yn adolygu cynnydd yn erbyn y camau gweithredu yn fisol, a chyhoeddir adroddiad interim yn Adroddiad Defnyddwyr Blynyddol y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd ym mis Gorffennaf 2017, ac adroddiad terfynol ym mis Rhagfyr 2017. Heb amheuaeth, bydd teithwyr rheilffordd yn gobeithio gweld gwelliannau mawr yn dilyn y cynlluniau peilot. Ar ôl cymaint o drafod dros gynifer o flynyddoedd, bydd teithwyr a’r diwydiant fel ei gilydd yn gobeithio y bydd y cynllun gweithredu yn sicrhau y caiff teithwyr flwyddyn newydd dda yn 2018.
Erthygl gan Andrew Minnis, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru