Ynni morlyn llanw yng Nghymru

Cyhoeddwyd 10/02/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

10 Chwefror 2017 View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Cyhoeddwyd adroddiad yn cynnal adolygiad annibynnol o ynni morlyn llanw yn y DU ar 12 Ionawr 2017 gan Charles Hendry, cyn Weinidog dros Ynni Llywodraeth y DU. Mae'r adroddiad yn canmol y cynllun braenaru arfaethedig ar gyfer morlyn llanw ym Mae Abertawe ac yn dweud iddo fod yn opsiwn na ellid mo'i ddifaru, gan wneud yr achos o blaid cefnogi datblygu'r sector. Comisiynwyd adolygiad Hendry ym mis Chwefror 2016 gan Lywodraethfoam y DU i asesu'r achos strategol dros greu diwydiant newydd yn y DU ar ffurf ynni morlyn llanw. Roedd hyn yn dilyn cynnig cynllunio llwyddiannus gan gwmni Tidal Lagoon Power i ddatblygu'r morlyn llanw cyntaf yn y byd, a hwnnw ym Mae Abertawe, ynghyd â chynllun dilynol ar gyfer pum prosiect ar raddfa fwy, gan gynnwys tri yn nyfroedd Cymru (yng Nghaerdydd, Casnewydd a Bae Colwyn). Er i brosiect Bae Abertawe ymddangos ym maniffesto Plaid Geidwadol y DU yn 2015, ac i'r prosiect gael caniatâd datblygu ym mis Mehefin 2015, achosodd ansicrwydd ynghylch costau a chymhorthdal i Lywodraeth y DU gomisiynu adolygiad annibynnol. Amcan yr adolygiad oedd archwilio'r cyfraniad y gallai ynni morlyn llanw ei wneud i gymysgedd ynni'r DU, ynghyd â pha mor gosteffeithiol y gallai wneud hynny a faint o gymhorthdal y byddai ei angen i'w gynnal. Mae môr-lynnoedd llanw yn cynhyrchu trydan drwy amgáu ardal o'r môr sydd ar lefel yr arfordir â wal, a harneisio'r ynni o symudiadau'r llanw gan ddefnyddio tyrbinau. Mae nifer o brosiectau môr-lynnoedd wedi cael eu cynnig yng Nghymru oherwydd yr ystod o lefelau'r llanw ar draws yr arfordir - yn enwedig yn Aber Afon Hafren, sydd â'i ystod llanw yr ail mwyaf yn y byd. Yr achos o blaid ynni morlyn llanw yng Nghymru Nododd adroddiad Hendry (PDF 2.72MB) ddau brif fantais môr-lynnoedd llanw, sef mor debygol y byddai'r allbwn trydan a'r allyriadau carbon isel iawn (llai nag 20 gram o CO2 am bob kW awr - yn debyg iawn i ynni gwynt ar y tir ac ynni niwclear). At hynny, disgwylir i forlyn weithio am 120 mlynedd neu ragor, sy'n fwy nag unrhyw dechnoleg ynni arall. O'i ddefnyddio gyda ffynhonnell arall, nododd yr adolygiad y gallai môr-lynnoedd llanw gyfrannu'n helaeth at gyflawni targedau diogelu a datgarboneiddio ynni. Mae Tidal Lagoon Power yn amcangyfrif y gallai eu môr-lynnoedd nhw gyflenwi 8 y cant o'r trydan y mae ar y DU ei angen. Yn ôl yr adroddiad, mae'r buddiannau posibl i economi Cymru yn sylweddol, ac mae llawer o Aelodau'r Cynulliad wedi mynegi eu cefnogaeth yn drawsbleidiol. Nododd yr adolygiad y byddai prosiect Bae Abertawe yn dod â buddiannau economaidd a buddiannau o ran hamdden a fyddai'n rhai gwirioneddol a sylweddol yn yr ardal (t.37) - gan ddisgwyl denu dros 70,000 o dwristiaid y flwyddyn (t.51), ynghyd â buddiannau economaidd ledled y wlad. Credir y bydd y cyfleoedd o ran datblygu cadwyni cyflenwi a chyfleoedd cyflogi yn sylweddol; dywedodd Tidal Lagoon Power yn yr adroddiad fod dros 1000 o fusnesau yn y DU wedi dangos diddordeb mewn cyflenwi rhannau a sgiliau i'r prosiect ym Mae Abertawe, ac mae'r cwmni'n amcanu at gael 50 y cant o'r elfennau a'r deunyddiau o Gymru. Bu i nifer o gwmnïau - gan gynnwys sawl cwmni o'r sector dur - ddisgrifio'r rhaglen arfaethedig gan Tidal Lagoon Power fel 'lifeline' i'w busnes (t.47). Codi a gostwng: costau'r prosiect  chostau adeiladu o £1.3 biliwn, bu pryderon na fyddai'r prosiect 320 megawatt ym Mae Abertawe yn gosteffeithiol i'r sawl sy'n talu'r bil. Yn gychwynnol, yn y cynllun Contractau Gwahaniaeth, amcangyfrifwyd y byddai'r pris y byddai'n rhaid ei warantu er mwyn gwerthu'r trydan yn ddrytach na phŵer niwclear o Hinkley Point C, er enghraifft, ac y byddai hyn yn golygu bod biliau defnyddwyr yn cynyddu. Fodd bynnag, cyfrifwyd y costau hyn ar sail model 30 mlynedd. Fel y nodwyd yn yr adroddiad, un o brif nodweddion economaidd môr-lynnoedd yw eu costau cynnal isel, a'r modd y gellir rhannu cyfanswm y costau ar draws oes hir y môr-lynnoedd. Wrth brisio ar gyfer model Contractau Gwahaniaeth dros oes o 60 mlynedd neu 90 mlynedd, mae ynni morlyn llanw yn llawer mwy cystadleuol. Daw i'r casgliad y byddai morlyn Bae Abertawe yn costio 30 ceiniog y flwyddyn i bob tŷ yng Nghymru am 30 mlynedd, a'i bod yn bosibl na fyddai angen unrhyw gymhorthdal ar ôl 60 mlynedd (t.75). Am ei fod yn forlyn braenaru, disgwylir iddo gynnig costau gostyngol i unrhyw brosiectau dilynol, gan eu gwneud yn gystadleuol iawn â thechnolegau carbon-isel dros oes y prosiectau. Edrych tua'r dyfodol Mae'r adolygiad yn gwbl eglur wrth iddo gefnogi datblygu prosiect ar raddfa fach ym Mae Abertawe cyn gynted â bo modd (t.91), gan alw hynny'n 'bolisi na ellid mo'i ddifaru' (p.89), ac mae'n annog Llywodraeth y DU i adeiladu ar y cynnydd y mae wedi ei wneud â Tidal Lagoon Power wrth symud at y cyfnod olaf o'r broses negodi. Mae Tidal Lagoon Power hefyd yn disgwyl am drwydded forol gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Un o brif argymhellion yr adroddiad yw i forlyn Bae Abertawe fod yn weithredol am gyfnod rhesymol cyn dechrau ar y gwaith adeiladu ar gyfer unrhyw brosiectau graddfa fawr. Golyga hyn y gellid monitro'r ystod lawn o effeithiau dros gyfnod o amser. Ymateb yw hyn i raddau i'r pryderon ynghylch yr amgylchedd yn sgil effeithiau posibl y morlyn ar fywyd yn y môr, sy'n aneglur iawn ar hyn o bryd gan nad yw'r dechnoleg wedi'i datblygu'n llawn. Er mwyn helpu cynnal y gadwyn gyflenwi yn ystod y cyfnod hwn, mae'r adroddiad yn galw i ddatblygu cyfres o fôr-lynnoedd graddfa fach eraill rhwng y prosiectau ar raddfa fwy. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith yn y cyfarfod llawn ar 25 Ionawr 2017 fod Llywodraeth Cymru yn cydweithio â llywodraeth leol, darparwyr sgiliau a busnesau er mwyn canfod cyfleoedd i gynnal cyfres gyson o brosiectau. Mae Llywodraeth Cymru wedi dangos diddordeb mewn bod yn rhanddeiliad o brosiect Bae Abertawe, ac mae Plaid Cymru wedi cynnig cwmni ynni cyhoeddus nid er elw i fod yn addas i gynnal y gwaith. Bydd Dadl Llywodraeth Cymru yn cael ei chynnal ar 14 Chwefror 2017 i drafod y cynigion hyn yn fanwl, yn ogystal â chanfyddiadau'r Adolygiad. Bydd Llywodraeth y DU yn ymateb i ganfyddiadau'r adolygiad ar ôl asesu'r argymhellion. Mae'r Gwasanaeth Ymchwil yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Jack Miller gan Brifysgol Sussex, a alluogodd i'r blog hwn gael ei gwblhau.
Erthygl gan Jack Miller, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru