A yw cynllun Llywodraeth Cymru i ganiatáu i bobl ifanc deithio ar fysiau’n rhatach yn newid cyfeiriad?

Cyhoeddwyd 13/02/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Mae adroddiadau yn y cyfryngau wedi awgrymu bod cynllun fyngherdynteithio Llywodraeth Cymru, sy'n cynnig gostyngiadau i bobl ifanc 18-16 oed i deithio ar fysiau yng Nghymru, ar fin cael ei ddileu. Fodd bynnag, mae datganiadau a wnaed yn ddiweddar gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith yn dangos nad yw wedi cyrraedd diwedd y daith eto, o bosibl.

Mae'r erthygl hon yn esbonio cefndir y cynllun a sut y mae'n gweithredu, ac yn trafod datganiadau diweddaraf Ysgrifennydd y Cabinet.

Pam y cafodd y cynllun ei gyflwyno?

Yn nhymor yr hydref 2014, daeth Llywodraeth Cymru i gytundeb gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol yn y Cynulliad er mwyn iddynt gefnogi cyllideb ddrafft y Llywodraeth. Un agwedd ar y cytundeb oedd cyflwyno cynllun teithio rhatach i bobl ifanc.

Felly, lansiwyd fynghynllunteithio ym mis Medi 2015, fel cynllun peilot am18 mis a dyrannwyd cyllid o £15m i’w roi ar waith.

Daw’r cynllun peilot presennol i ben ar 31 Mawrth, 2017.

Sut y mae'r cynllun yn gweithio ar hyn o bryd?

Mae fyngherdynteithio yn cynnig gostyngiad o draean pris tocynnau bws arferol, er y gall rhai gweithredwyr gynnig gostyngiadau ychwanegol. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau bws lleol sy'n gweithredu dim ond yng Nghymru neu os yw'r daith yn cychwyn neu’n gorffen yng Nghymru. Mae gwasanaeth siwrneiau hir TrawsCymru yn rhan o’r cynllun hefyd.

I fod yn gymwys ar gyfer y cerdyn, rhaid i ymgeiswyr:

  • fod rhwng 16 a 18 oed, gan gynnwys y ddau oedran; a rhaid i’w
  • prif gartref fod yng Nghymru (gan gynnwys y rhai sy'n astudio yng Nghymru, ar yr amod eu bod yn byw yma).

Traveline Cymru, y gwasanaeth sy’n rhoi gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus ac a ariennir gan Lywodraeth Cymru, sy’n ymdrin â’r ceisiadau, Rhoddir cerdyn â llun i’r defnyddwyr a rhaid iddynt ei ddangos wrth brynu tocyn.

Mae manylion ynghylch sut i wneud cais am gerdyn ar gael ar wefan fyngherdynteithio. Gellir gwneud ceisiadau ar-lein, drwy'r post neu dros y ffôn. Nid yw’r cardiau a ddosbarthwyd yn ystod y cyfnod peilot wedi costio dim i’r defnyddwyr, ar wahân i’r gost o ddarparu llun maint pasbort at ddibenion adnabod. Nid oes angen iddynt ddangos prawf o’u hoedran na’u cyfeiriad wrth wneud cais, ond mae’n bosibl y caiff eu manylion eu cadarnhau gan drydydd parti ar ran Llywodraeth Cymru.

Mae gwefan fyngherdynteithio yn cynnwys cwestiynau cyffredin sy’n rhoi rhagor o wybodaeth.

Felly, beth sy'n digwydd i'r cynllun yn awr?

Ychydig iawn sydd wedi ymuno â’r cynllun. Amcangyfrifir y gallai tua 110,000 o bobl ifanc fanteisio ar y cynllun, ond erbyn canol mis Ionawr 2017 cyfanswm y cardiau a ddosbarthwyd ers lansio'r cynllun oedd tua 8,300.

Ar 18 Hydref 2016, ar ôl iddo wneud datganiad yn y Cyfarfod Llawn am ddyfodol gwasanaethau bysiau yng Nghymru, bu Ysgrifennydd y Cabinet yn ateb cwestiynau a dywedodd mai nifer gyfyngedig oedd wedi ymuno â’r cynllun. Dywedodd y dylid manteisio ar bob cyfle i dynnu sylw ato. Tynnodd sylw hefyd at rôl y sector bws ei hun yn y gwaith o farchnata cyfleoedd i deithio’n rhatach.

Dri mis yn ddiweddarach, ym mis Ionawr 2017, roedd adroddiadau yn y cyfryngau yn awgrymu na fydd y cynllun yn parhau ar ôl i’r cyfnod peilot ddod i ben. Yn ôl ffynonellau Lywodraeth Cymru, penderfynwyd gwneud hyn ar ôl dadansoddi ffigurau a oedd yn dangos nad oedd pobl ifanc yn defnyddio’r cerdyn i deithio’r tu hwnt i'w hardal leol.

Fodd bynnag, wrth ymateb i gwestiwn yn y Cyfarfod Llawn ar 24 Ionawr 2017, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet fod gwaith yn mynd rhagddo i gyflwyno "cynllun olynol":

I remain very keen that there should be a legacy scheme after the current mytravelpass ends on 31 March. My officials have had encouraging discussions with representatives of local authorities and with the confederation of bus operators. I’m optimistic that I will be able to confirm the details of the successor programme very soon.
….this was a pilot scheme, and therefore something that we can learn from. And we have learnt from it. The fact of the matter is that uptake was not as high as we would’ve wished, which is why I’m very keen for the successor programme to reach more young people across Wales. I believe it’s something in the region of 10,000 young people who took advantage of the mytravelpass scheme; I would wish to see that number grow far more with the scheme that will emerge, which I’m hoping to announce within the coming weeks.

Mae pobl ifanc yng Nghymru a gweithredwyr bysiau yn aros yn eiddgar am gyhoeddiad Ysgrifennydd y Cabinet.


Erthygl gan Andrew Minnis, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru