Gweithwyr dur yn pleidleisio i dderbyn cynnig Tata - beth yw'r camau nesaf i'r diwydiant?

Cyhoeddwyd 17/02/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

17 Chwefror 2017 View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Ar 15 Chwefror 2017, gwnaeth aelodau undebau llafur Community, UNITE a GMB oll bleidleisio i dderbyn y cynnig gan Tata Steel yn ymwneud â phensiynau, buddsoddiad yn y dyfodol a sicrwydd swyddi. Roedd y tair undeb wedi argymell bod gweithwyr yn derbyn y cynnig, tra'n cydnabod y penderfyniad anodd y byddai'n rhaid i weithwyr ei wneud o ran eu pensiynau. Mae Tata wedi dweud bod gwaith yn parhau i fynd rhagddo gyda'r undebau ac eraill i sicrhau dyfodol i'r diwydiant. Beth sydd yn y cynnig? Mae undeb llafur UNITE wedi nodi manylion y cynnig y gwnaeth aelodau'r undeb bleidleisio arno, a oedd yn cynnwys:
  • Cau Cynllun Pensiwn British Steel ar gyfer croniadau yn y dyfodol ar 31 [caption id="attachment_7066" align="alignright" width="300"]tatasteel Llun o Flickr gan Ben Salter. Dan drwydded Creative Commons.[/caption] Mawrth 2017 a chyflwyno Cynllun Pensiwn Cyfraniadau Diffiniedig. Bydd taliadau untro ychwanegol i aelodau'r cynllun pensiwn 50+ oed sy'n ymddeol rhwng 60 a 64 oed ar gael hefyd mewn rhai amgylchiadau.
  • Ymrwymiad i redeg 2 ffwrnais chwyth ym Mhort Talbot tan o leiaf 2021, a buddsoddiad arfaethedig yn Ffwrnais Chwyth 5 i ymestyn ei oes y tu hwnt i 2021.
  • Ymrwymiad i gynllun buddsoddi sy'n cynnig £1 biliwn o fuddsoddiad dros 10 mlynedd, ar yr amod bod Tata Steel UK yn gwneud o leiaf £200 miliwn mewn enillion cyn treth, llog, dyled ac amorteiddiad (EBITDA) y flwyddyn.
  • Amddiffyn yn erbyn diswyddiadau gorfodol tan 2021, sy'n cyfateb i'r ymrwymiad a roddwyd i'r gweithlu yn ffatri IJmuiden Tata yn yr Iseldiroedd.
Bydd Tata hefyd yn ceisio ailstrwythuro Bonws Elw'r DU, ac yn cyflwyno cyfraddau ac amodau newydd ar gyfer cyflogeion newydd. Mae hefyd yn anelu i wneud arbedion cost cyflogaeth gwerth £13 miliwn ledled y DU. Sut mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi buddsoddi yn y diwydiant dur a'r cymunedau dur? Yn flaenorol, cynigiodd Llywodraeth Cymru becyn gwerth dros £60 miliwn i Tata, gydag amodau ynghlwm, cyn cyhoeddi eu bod yn gwerthu asedau'r DU ym mis Mawrth 2016, gan gynnwys buddsoddiad mewn gwelliannau amgylcheddol a datblygu'r llinell galfaneiddio ym Mhort Talbot.  Yn dilyn y bleidlais, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ei fod yn gobeithio cyflwyno cyhoeddiadau yn fuan ar y prosiectau hyn. Hefyd, sefydlodd Ardal Fenter Glannau Port Talbot mewn ymateb i'r cyhoeddiad bod swyddi yn cael eu colli ym mis Ionawr 2016. Hefyd, cytunodd Llywodraeth y DU i ariannu Lwfansau Cyfalaf Uwch ar gyfer tri safle yn yr Ardal Fenter, sy'n galluogi busnesau i hawlio 100% o lwfans y flwyddyn gyntaf ar gyfer cost cyfalaf buddsoddiad newydd mewn peiriannau ac offer. Ym mis Rhagfyr 2016, cytunodd Llywodraeth Cymru i gyfrannu £8 miliwn tuag at gyfanswm buddsoddiad o £18 miliwn mewn gwelliannau i weithfeydd pŵer Port Talbot a sefydlu canolfan ymchwil a datblygu yn Abertawe. Ym mis Chwefror 2017, cyfrannodd £1.6 miliwn tuag at welliannau amgylcheddol yn Celsa Steel yng Nghaerdydd, a £1.2 miliwn o fuddsoddiad mewn tri chwmni arall yn y diwydiant. Ym mis Rhagfyr 2016, cytunodd Llywodraeth Cymru i ddarparu £4 miliwn i Tata i gyfateb â'i buddsoddiad mewn hyfforddiant i staff a rheolwyr ledled Cymru.  Mae cynllun cymorth diswyddo ReAct Llywodraeth Cymru wedi helpu gweithwyr Tata a chwmnïau'r gadwyn gyflenwi. Mae Llywodraeth y DU wedi helpu i liniaru prisiau trydan uchel ac effaith polisi newid hinsawdd. Dros y ddau gynllun iawndal a gyflwynwyd, mae Llywodraeth y DU wedi darparu dros £100 miliwn o iawndal i'r diwydiant dur. A yw'r cymorth hwn wedi mynd i'r afael â'r heriau allweddol y mae'r diwydiant yn eu hwynebu, a pha gamau pellach sydd eu hangen? Ym mis Hydref 2015, nododd y diwydiant dur bum maes lle gellid cymryd camau i fynd i'r afael â'r heriau y mae'n wynebu yn y tymor hwy. Mae UK Steel yn dweud o'r rhain, mae un wedi'i weithredu'n llwyr, tri yn rhannol ac nid yw un wedi'i weithredu o gwbl. I'r gwrthwyneb, mae Llywodraeth y DU o'r farn ei bod wedi mynd i'r afael â phedwar o'r camau gweithredu hyn. O ran prisiau ynni, er bod y diwydiant dur wedi croesawu pecyn cymorth Llywodraeth y DU, mae prisiau trydan ar gyfer cynhyrchwyr y DU yn parhau i fod dipyn uwch na'r cystadleuwyr yn Ewrop. Mae UK Steel yn nodi gwahaniaeth o £17 fesul Mega Watt Awr rhwng cynhyrchwyr y DU a'r Almaen, gan effeithio ar benderfyniadau buddsoddi rhwng gweithfeydd dur mewn gwledydd gwahanol. Bydd gweithredu mewn cysylltiad â ‘dympio’ dur yn allweddol lle bydd angen i Lywodraeth y DU wneud penderfyniadau ar ôl i'r DU adael yr UE, gan y bydd angen iddi sefydlu mesurau amddiffyn masnach. Bu pryder nad yw tariffau gwrth-dympio blaenorol yr UE wedi bod yn ddigon uchel, ac nad yw Llywodraeth y DU wedi helpu i godi'r rheol ‘dyletswydd leiaf’ gan yr UE. Mae'r sector yn pryderu ynghylch y potensial y bydd tariffau yn cael eu gosod ar ôl i'r DU adael yr UE.  Er bod tariffau WTO ar gynnyrch dur yn 2%, mae tariffau fel y 10% ar y diwydiant modur yn peri mwy o bryder. O ran ardrethi busnes, mae'r diwydiant dur wedi galw bod peiriannau ac offer yn cael eu heithrio o filiau ardrethi busnes. Canfu UK Steel fod cwmnïau yn y DU yn talu bum i ddeg gwaith mwy o ardrethi busnes na chynhyrchwyr yn Ffrainc a'r Almaen. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud hyn, gan ei bod o'r farn ei bod yn gymhleth i'w weithredu ac wedi dewis helpu'r diwydiant mewn ffyrdd eraill. Fodd bynnag, yn sgil ailbrisio ardrethi busnes yn ddiweddar, gwelwyd gostyngiad yng ngwerthoedd ardrethol gwaith dur yng Nghymru. Mae UK Steel wedi nodi o dan gynllun rhyddhad trosiannol Llywodraeth Cymru, ni fydd gostyngiadau biliau ardrethi busnes gweithfeydd dur yn cael eu capio fel y bydd yn digwydd yn Lloegr. Mae'r ddwy lywodraeth wedi gweithredu o ran caffael hefyd.  Mae Llywodraethau Cymru a'r DU wedi cyhoeddi prosiectau seilwaith yn yr arfaeth a fydd angen dur. Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru wedi newid ei chontractau cludiant i'w gwneud yn ofynnol nad yw dur wedi'i ‘dympio’ yn cael ei ddefnyddio. Hefyd, mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno mesurau caffael, gan gynnwys ei gwneud yn ofynnol i adrannau llywodraeth ganolog i ystyried effeithiau economaidd a chymdeithasol y dur maent yn ei gael. Ymysg y camau gweithredu allweddol ar gyfer y diwydiant dur yn y dyfodol mae cydymffurfio â chanllawiau, a datblygu dulliau adrodd tryloyw. Ym mis Mai 2016, galwodd Prifysgol Abertawe am gefnogaeth i gynnig newydd ar gyfer canolfan arloesi a thechnoleg genedlaethol ar gyfer dur. Mae'r IPPR wedi dadlau y dylai diwydiannau sylfaen megis dur gael eu hintegreiddio'n well i'r rhwydweithiau Catapult, sydd wedi'u dylunio i hybu arloesedd mewn sectorau allweddol ledled y DU. Gan edrych at y dyfodol, mae rhai'n ystyried nad yw cynigion Llywodraeth y DU am strategaeth ddiwydiannol yn ystyried dur yn ddigonol. Mae Llywodraeth y DU a'r diwydiant dur yn trafod y potensial o gael 'bargen sector' i'r diwydiant, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru. Bydd sectorau yn datblygu cynlluniau i hybu cynhyrchiant.  Yna gallai Llywodraeth y DU helpu mewn sawl ffordd, gan gynnwys polisi sgiliau a hyfforddiant, newidiadau i reoliadau, helpu i fynd i'r afael â'r rhwystrau i fasnach a helpu i greu sefydliadau sectoraidd newydd.
Erthygl gan Gareth Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru