A yw diwygiadau addysg Llywodraeth Cymru ar y trywydd iawn?

Cyhoeddwyd 22/02/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

22 Chwefror 2017 View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Bydd Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, yn gwneud datganiad yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth (28 Chwefror, 2017) ar argymhellion y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) ar gyfer Llywodraeth Cymru ynghylch ei diwygiadau addysg. Ym mis Hydref 2016, comisiynodd Ysgrifennydd y Cabinet y Sefydliad i ystyried y diwygiadau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i wella safonau addysg, ac a ydynt ‘ar y trywydd iawn’. Dylanwad y OECD ar bolisi addysg Llywodraeth Cymru [caption id="attachment_2448" align="alignright" width="300"]Llun yw hwn o fformiwla fathamategol mewn sialc ar fwrdd du. Llun: o Pixabay. Dan drwydded Creative Commons.[/caption]   Mae’r OECD wedi cael dylanwad sylweddol ar bolisïau addysg Llywodraeth Cymru yn y blynyddoedd diwethaf, yn bennaf drwy ei Raglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA). Cychwynnodd Llywodraeth flaenorol Cymru lu o ddiwygiadau mewn ymateb uniongyrchol i  ganlyniadau PISA siomedig Cymru yng nghylchoedd 2009 a 2012. Wrth ymateb i Ganlyniadau PISA Cymru yn 2015, a gyhoeddwyd ar 6 Rhagfyr 2016, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
Byddwn yn defnyddio’r canlyniadau hyn a’r data cyfoethog y maen nhw’n eu rhoi inni, ynghyd â’r adroddiad OECD sydd ar ddod, i gefnogi a herio fy mlaenoriaethau a fy rhaglen.
Cynhaliodd y OECD adolygiad manwl o’r system addysg yng Nghymru yn 2014, a arweiniodd at gynllun gwella addysg newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer y cyfnod hyd at 2020, sef Cymwys am Oes (a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2014). I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun hwn, gweler ein herthyglau blaenorol, Gwella safonau ysgolion (Mehefin 2016), Polisi addysg yn gogwyddo tuag at PISA? (Rhagfyr 2015) a PISA: Beth ydyw a pham y mae’n bwysig? (Tachwedd 2016). Adolygiad y OECD ym mis Hydref 2016 a bwriad Llywodraeth Cymru i adnewyddu cynllun Cymwys am Oes Roedd cyfranogiad mwyaf diweddar y OECD yn dilyn ymweliad Kirsty Williams â swyddfa’r Sefydliad ym mis Medi 2016, dim ond rhai misoedd ers iddi ddechrau yn ei rôl fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, pan ddywedodd:
Rwy o blaid dilyn tystiolaeth ryngwladol. Dyna pam rwy wedi gofyn i’r OECD edrych ar ein diwygiadau a rhoi gwybod inni a ydyn ni ar y trywydd iawn ac a yw’r cynnydd sy’n cael ei wneud yn briodol. Dyw hi ddim yn ddigon da i gyfyngu ar ein huchelgeisiau drwy edrych ar yr hyn sy’n digwydd ar draws y ffin yn unig. Rhaid inni anelu at fod ymhlith y gorau yn y byd. Felly, pan gwrddais i â’r OECD, gofynnais iddynt roi gwybod imi a yw’r strategaethau iawn gyda ni ar waith erbyn hyn ers eu Hadolygiad yn 2014.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ystod gwaith craffu ar y gyllideb ym mis Tachwedd 2016 (PDF 543KB) y byddai canfyddiadau’r OECD yn dylanwadu ar ei phenderfyniadau terfynol ynglŷn â sut i ddefnyddio’r £20 miliwn a ddyrannwyd yn 2017-18 ar gyfer codi safonau ysgolion (sy’n rhan o gyfanswm o £100 miliwn a addawyd dros gyfnod pum mlynedd y Cynulliad hwn).
I’m not waiting for them to tell me how to spend the money. This is the approach I’m intending. But I do want to reflect, before I make absolute, final allocations [on] their report. It would seem churlish to me to have them over to test this and then have no reflection on what they might say. So, those are the areas and the figures that we’re looking at the moment—a taster of where we’re going—but I will use the feedback from the OECD report to refine what we’re doing. As I said, we’ve put this forward to them as part of our plans, but I do want a little bit of flexibility to be able to reflect on what they tell us.
Mewn llythyr at y Pwyllgor (PDF 784KB) ynglŷn â datblygiad y cwricwlwm newydd, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet fod canfyddiadau cynnar y OECD, yn dilyn ei ymweliad â Chymru ym mis Tachwedd, yn nodi bod llawer o bethau yn awr ar waith sy’n rhoi Cymru ar drywydd mwy addawol. Ychwanegodd:
Mae’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygu Economaidd wedi cadarnhau imi yn ddiweddar ein bod ar y trywydd iawn a bod angen inni lynu wrth y llwybr hwn.  Yn unol â hyn, byddaf yn adnewyddu ein cynllun cyflawni strategol, Cymwys am Oes, gyda’r nod o gyhoeddi dogfen ddiwygiedig yn y gwanwyn. Mae’n bwysig ein bod yn gwneud hyn er mwyn sicrhau bod popeth a wnawn yn y maes addysg yn cyd-fynd â’n hagenda ddiwygio, ac yn gefn i honno.
Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran Addysg Mae i gynllun gwella addysg presennol Llywodraeth Cymru, sef Cymwys am Oes, bedwar amcan strategol:
  • Gweithlu proffesiynol rhagorol gydag addysgeg gryf wedi’i seilio ar ddealltwriaeth o’r hyn sy’n gweithio.
  • Cwricwlwm sy’n ddeniadol ac yn atyniadol i blant a phobl ifanc ac sy’n datblygu eu gallu i gymhwyso gwybodaeth a sgiliau yn annibynnol.
  • Pobl ifanc yn ennill cymwysterau sy’n cael eu parchu’n genedlaethol ac yn rhyngwladol ac sy’n gweithredu fel pasbort credadwy i’w haddysg a’u cyflogaeth yn y dyfodol.
  • Arweinwyr addysg ar bob lefel yn cydweithio mewn system hunan-wella, gan helpu a herio ei gilydd er mwyn codi safonau ym mhob ysgol.
Gellir gweld beth yw blaenoriaethau Kirsty Williams fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg mewn llythyrau a gyfnewidiodd â’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, ym mis Mehefin 2016. Nodir yn y llythyrau hyn fanylion y cytundeb a fu’n sail i benodiad Kirsty Williams i’r Cabinet, a’r cyfrifoldeb ar y cyd y mae’n ei dderbyn am benderfyniadau’r Cabinet. Y deg blaenoriaeth addysg yw:
  • Bod argymhellion Adolygiad Diamond yn cael eu hystyried, gyda’r nod o weithredu’n gynnar lle bo’n briodol, ond ni fydd unrhyw effaith negyddol ar y gyllideb addysg uwch os bydd unrhyw newidiadau;
  • Lleihau maint dosbarthiadau babanod;
  • Sicrhau bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau mewn bywyd drwy ehangu’r Grant Amddifadedd Disgyblion;
  • Cymell, cydnabod a hyrwyddo rhagoriaeth addysgu fel y gallwn ni godi safonau ledled y sector;
  • Blaenoriaethu mynediad ysgolion at fand eang cyflym iawn fel rhan o’r rhaglen genedlaethol;
  • Hyrwyddo a gwella llwybrau academaidd a galwedigaethol i a thrwy addysg bellach ac uwch;
  • Adolygu effaith y polisi cyfredol ar leoedd gwag mewn ysgolion, gyda phwyslais ar ysgolion gwledig, a rhoi mwy o ystyriaeth i dueddiadau twf y dyfodol;
  • Ymgynghori ymhellach ar argymhellion penodol Adolygiad Hazelkorn o oruchwylio a rheoleiddio addysg a hyfforddiant ôl-orfodol;
  • Edrych ar y posibilrwydd o ehangu cylch gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gynnwys addysg bellach;
  • Blaenoriaethu cymorth ar gyfer gwell cysylltiadau rhwng addysg a diwydiant.
Pan ofynnwyd, yn ystod y gwaith craffu ar y gyllideb, a oedd unrhyw flaenoriaethu pellach o fewn y deg blaenoriaeth hyn, atebodd Ysgrifennydd y Cabinet (PDF 565KB):
O ran blaenoriaethu, mae cyflawni mewn perthynas â’r holl ymrwymiadau yn parhau i fod yr un mor bwysig. Fodd bynnag, rwy’n disgwyl y bydd ein polisïau i gyd yn helpu i godi safonau a chau rhagor ar y bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion o’n cymunedau mwyaf difreintiedig a’r rheini o ardaloedd mwy llewyrchus.
Beth i’w ddisgwyl gan ddatganiad Ysgrifennydd y Cabinet Bydd Aelodau’r Cynulliad a rhanddeiliaid, fel ei gilydd, yn awyddus i glywed dyfarniad y OECD ar ddiwygiadau addysg Llywodraeth Cymru a chamau nesaf Ysgrifennydd y Cabinet. Mae adroddiad ac argymhellion y Sefydliad yn debygol o ddylanwadu ar y fersiwn nesaf o Cymwys am Oes ac ar flaenoriaethau gwella addysg a ddiweddarwyd Llywodraeth Cymru, yn ogystal ag ar benderfyniadau ar sut i wario’r buddsoddiad ychwanegol i godi safonau ysgolion. Mae’r arwyddion, a roddwyd gan Kirsty Williams ers ymweliad y OECD, yn awgrymu rhagor o’r un peth, yn hytrach na newid sylweddol o ran cyfeiriad:
Pan wahoddais yr OECD y mis diwethaf i edrych ar sut yr oeddem yn gwneud yng Nghymru, roedd eu cyngor imi’n ddiamwys: daliwch ati; byddwch yn ddewr; rydych yn gwneud y pethau iawn.
Dywedodd Meilyr Rowlands, Prif Arolygydd Estyn, wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (PDF 751KB) yn ddiweddar:
I think I don’t expect to see great u-turns or changes. I think it’s a question of building on the current direction. The general sense of direction, I think, is the right one. I think what we need to do now is to implement those initiatives successfully. So, I’d be expecting to see some detail about how some of these things, such as the curriculum reform, are going to be implemented successfully.
Bydd datganiad Ysgrifennydd y Cabinet a chwestiynau dilynol Aelodau’r Cynulliad yn cael eu darlledu ar Senedd TV, a bydd trawsgrifiad ar gael yng Nghofnod y Trafodion y Cynulliad.
Erthygl gan Michael Dauncey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru