Y Cynulliad i drafod egwyddorion cyffredinol Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru)

Cyhoeddwyd 23/02/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

23 Chwefror 2017 View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Cafodd Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 7 Tachwedd 2016, a’i gyflwyno yn y cyfarfod llawn gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 8 Tachwedd 2016. Bydd y Cynulliad yn trafod egwyddorion cyffredinol y Bil ar 28 Chwefror 2017. Cyflwynodd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon adroddiad yn nhrafodion Cyfnod 1 ar egwyddorion sylfaenol Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) ar 10 Chwefror 2017. Mae'r Bil yn gosod cyfres o gynigion mewn meysydd penodol o bolisi iechyd y cyhoedd: tybaco a chynhyrchion nicotin; 'triniaethau arbennig' (aciwbigo, rhoi twll mewn rhan o'r corff, electrolysis a thatŵio); rhoi twll mewn rhan bersonol o'r corff; asesu'r effaith ar iechyd; gwasanaethau fferyllol; a darparu toiledau. Ceir rhagor o wybodaeth am gefndir y Bil, trosolwg o'i rannau, crynodeb o'i oblygiadau ariannol, a geirfa Gymraeg yn y Crynodeb o'r Bil (PDF, 1,175KB) a luniwyd gan y Gwasanaeth Ymchwil. Mae Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) wedi cael ei groesawu ar y cyfan, ond mae nifer o randdeiliaid wedi ei ddisgrifio fel cyfle wedi'i golli i gyflwyno mesurau a fyddai'n mynd i'r afael â rhai o'r materion mwyaf sylweddol o ran iechyd y cyhoedd, gan gynnwys gordewdra a segurdod corfforol, ynghyd ag unigrwydd ac unigedd. Mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio y bydd Bil Iechyd y Cyhoedd yn canolbwyntio ar feysydd penodol lle mae deddfwriaeth yn briodol, ynghyd ag ystod o gamau gweithredu eraill i wella iechyd (gan gynnwys camau deddfwriaethol eraill, yn ogystal â gwasanaethau, rhaglenni ac ymgyrchoedd ym maes iechyd y cyhoedd). Mae adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio'r holl ddulliau sydd ar gael, gan gynnwys unrhyw gyfleoedd a ddaw yn sgil deddfwriaeth a phwerau sydd eisoes yn bodoli, er mwyn mynd i'r afael â gordewdra a materion iechyd eraill sy'n flaenoriaeth ymysg y cyhoedd. Mae'r Pwyllgor yn croesawu'r cynigion penodol a gaiff eu cynnwys yn y Bil ar y cyfan. Mae adroddiad y Pwyllgor yn gosod nifer o argymhellion gyda'r nod o gryfhau'r ddeddfwriaeth. Er enghraifft, mae'r Pwyllgor am weld y ddarpariaeth ar gyfer rhoi twll mewn rhan bersonol o'r corff yn cael ei chryfhau i gynnwys gwarchod pobl ifanc hyd at 18 oed (mae'r Bil fel y'i cyflwynir yn gosod cyfyngiad oedran o 16 oed ar gyfer rhoi twll mewn rhan bersonol o'r corff). Cyflwynodd Pwyllgor Cyllid y Cynulliad adroddiad ar oblygiadau ariannol y Bil ar 10 Chwefror 2017. Trafododd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol briodoldeb y darpariaethau yn y Bil ar gyfer creu is-ddeddfwriaeth. Cyhoeddwyd yr adroddiad hwnnw ar 10 Chwefror 2017 hefyd. Yn amodol ar y Cynulliad yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru), bydd y Bil yn symud ymlaen at drafodion Cyfnod Dau (sef trafodaeth fanwl ar y Bil ac unrhyw welliannau a gynigir gan Bwyllgor). Disgwylir y bydd trafodion Cyfnod Dau wedi dod i ben erbyn 7 Ebrill 2017. Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) (PDF, 1,175KB) blog-cy
Erthygl gan Philippa Watkins, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru