Cyrraedd mewn pryd? Gwerthuso Model Ymateb Clinigol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.

Cyhoeddwyd 24/02/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

24 Chwefror 2017 View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Cefndir i’r model ymateb clinigol newydd Bu newid sylweddol ym myd gwasanaethau ambiwlans yng Nghymru yn ddiweddar. Ym mis Ebrill 2013 pennodd yr Adolygiad Strategol o Wasanaethau Ambiwlans Cymru (adolygiad McClelland) nifer o argymhellion ar gyfer gwella gwasanaethau, gan gynnwys cynigion ar gyfer ffyrdd newydd o fonitro perfformiad ar amseroedd ymateb ambiwlansiau. Yn dilyn adolygiad McClelland, o 1 Hydref 2015 ymlaen, rhoddodd ambiwlansYmddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru fodel ymateb clinigol newydd ar waith dros gyfnod peilot o 12 mis, a ymestynnwyd yn ddiweddarach am 6 mis ychwanegol. Y bwriad yn ystod y cyfnod prawf hwn oedd mai dim ond y galwadau mwyaf difrifol, wedi eu categoreiddio fel rhai coch (bygythiad uniongyrchol i fywyd), fyddai’n cael targed amser ymateb. Byddai pob galwad arall yn cael ymateb priodol, naill ai wyneb yn wyneb neu asesiad dros y ffôn, ar sail angen clinigol. Mae gan y model newydd dri chategori o alwadau:
  • Coch: Bygythiad uniongyrchol i fywyd (rhywun mewn perygl agos o farwolaeth, fel trawiad ar y galon). Y targed yw i 65% o'r ymatebion brys gyrraedd o fewn 8 munud;
  • Ambr: Difrifol ond dim bygythiad uniongyrchol i fywyd (cleifion sydd angen triniaeth yn y fan a’r lle ac a allai fod angen mynd i’r ysbyty);
  • Gwyrdd: Dim brys (yn aml gellir rheoli’r mater gan wasanaethau iechyd eraill) ac asesiad clinigol dros y ffôn.
Ategwyd y model ymateb clinigol newydd hefyd gan y gwaith o ddatblygu cyfres o Ddangosyddion Ansawdd Ambiwlans (AQI), a gyhoeddir bob chwarter blwyddyn ac sy’n cynnwys set fwy manwl o fesurau perfformiad, gan gynnwys profiad y claf a chanlyniadau clinigol. Perfformiad ar sail y targedau newydd Mae’r ystadegau diweddaraf ar amseroedd ymateb ambiwlansiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn seiliedig ar fis Ionawr 2017; Dengys Tabl 1 isod y tueddiadau tra mae Tabl 2 yn nodi’r ffigurau ar gyfer mis Ionawr 2017 yn ôl ardal Bwrdd Iechyd Lleol: Tabl 1: Galwadau coch fesul diwrnod ar gyfartaledd, a’r ganran sy’n cyrraedd o fewn 8 munud, Cymru (Saesneg yn unig) chart8 Tabl 2: Ymatebion ambiwlans brys yng Nghymru i alwadau coch, Ionawr 2017 (Saesneg yn unig) table-2 Yn ogystal, dengys y data perfformiad ar gyfer mis Ionawr 2017:
  • Cafwyd 39,864 o alwadau brys, cyfartaledd o 1,286 y dydd, 4.3% i lawr o’r cyfartaledd dyddiol ar gyfer mis Rhagfyr 2016.
  • O’r cyfanswm, roedd 1,980 (5.0%) yn goch, 26,456 (66.4%) yn felyn ac 11,428 (28.7%) yn wyrdd.
  • Cyrhaeddodd 75.4% o ymatebion brys i alwadau coch o fewn 8 munud, sy’n uwch na’r targed o 65%, ond yn is na’r 75.8% a gofnodwyd ym mis Rhagfyr 2016.
  • Roedd amrywiaeth yn y perfformiad, o 66.2% ym Mhowys i 79.5% yng Nghaerdydd a’r Fro.
Ymchwiliadau i wasanaethau ambiwlans yn ystod y Pedwerydd Cynulliad Yn 2015 cynhaliodd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Pedwerydd Cynulliad ymchwiliad byr i berfformiad y gwasanaethau ambiwlans yng Nghymru; yn ddiweddarach yn yr un flwyddyn cynhaliodd y Pwyllgor sesiynau ychwanegol i archwilio pa gynnydd a wnaed mewn ymateb i'w argymhellion gwreiddiol. Roedd hyn yn fuan ar ôl i gynllun peilot y model ymateb clinigol newydd ddechrau. O ganlyniad i'r ymchwiliadau dilynol, ysgrifennodd y Pwyllgor at Lywodraeth Cymru yn croesawu'r ffaith y cyrhaeddwyd targed Cymru gyfan ar gyfer amseroedd ymateb brys ym mis cyntaf y model prawf newydd. Fodd bynnag, roedd y Pwyllgor yn pryderu bod amrywiadau rhanbarthol sylweddol yn parhau, a dywedodd y byddai'n hoffi gweld y rhain yn cael sylw fel mater o flaenoriaeth, a'i fod yn disgwyl gweld cynnydd parhaus o ran amseroedd ymateb ar lefel leol a chenedlaethol. Yn ei ymateb, croesawodd y Dirprwy Weinidog Iechyd gydnabyddiaeth y Pwyllgor o’r cynnydd a wnaed er ymchwiliad cychwynnol 2015, a dywedodd:
Mae’n destun balchder i mi ein bod wedi cymryd cam ymlaen ar gyfer cleifion trwy gynnal cynllun peilot ar fodel ymateb clinigol gyda'r bwriad o flaenoriaethu cleifion y mae angen ymyriad clinigol brys arnynt. Bwriad y cynllun peilot yw galluogi clinigwyr ac adnoddau ambiwlans i gael eu dyrannu’n briodol ar sail angen clinigol.
Cyfeiriwyd hefyd yn yr ymateb at y cynnydd a wnaed fis ar ôl mis mewn cymhariaeth â’r targedau, a chyhoeddi’r set gyntaf o Ddangosyddion Ansawdd Ambiwlans newydd ym mis Ionawr 2016. Nododd y Dirprwy Weinidog hefyd mewn gohebiaeth bellach i'r Pwyllgor:
Yn ystod cyfnod cynllun peilot y model ymateb clinigol, a fydd yn para blwyddyn, bydd data AQI yn cael eu cyhoeddi bob chwarter, er mwyn cael gwell dealltwriaeth o dueddiadau ac effaith amrywiadau tymhorol. Cyhoeddir y rhain ochr yn ochr â'r amseroedd ymateb 'Coch' a gyhoeddir yn fisol. Fel yr wyf wedi dweud eisoes, mae'r ffordd yr ydym yn rhannu gwybodaeth allweddol ynghylch gwasanaethau ambiwlans yng Nghymru yn golygu bod ein dull gweithredu y mwyaf tryloyw yn y DU ac ymysg y mwyaf tryloyw ledled y byd.
Adolygu’r model ymateb clinigol Nododd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon mewn Datganiad Ysgrifenedig ym mis Medi 2016 bod disgwyl i adroddiad gwerthuso terfynol y model ymateb clinigol gael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2016 ac y byddai'n gwneud penderfyniad terfynol ar ddyfodol y cynllun peilot erbyn diwedd mis Mawrth 2017. Nid oedd adroddiad interim ar y model a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys ym mis Medi 2016 yn nodi unrhyw bryder sylweddol. Mae'r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys hefyd wedi cael diweddariad am ddrafft terfynol yr adroddiad gwerthuso, sy'n nodi:
…the removal of time based targets for the majority of calls has allowed for more efficient dispatching of ambulance resources, increased opportunities for hear and treat; and supported timely responses to patients with the greatest clinical need.
Roedd disgwyl i’r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys gael gweld yr adroddiad gwerthuso terfynol ym mis Ionawr 2017 cyn ei gyflwyno i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, y mae disgwyl iddo wneud datganiad ynghylch y gwerthusiad i'r Cyfarfod Llawn ar 28 Chwefror 2017.
Llun gan Diluvienne o Flickr. Dan drwydded Creative Commons. Erthygl gan Paul Worthington, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru