Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Cymru: beth ydyw a phryd y bydd ar gael?

Cyhoeddwyd 24/02/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

24 Chwefror 2017 View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg   Mae'r dull o ran cynllunio defnydd tir strategol yng Nghymru yn newid. Mae Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 yn cyflwyno dwy lefel newydd o gynllun datblygu, a fydd yn eistedd uwchben y Cynlluniau Datblygu Lleol presennol:
  • Fframwaith Datblygu Cenedlaethol sy'n cwmpasu Cymru gyfan. Bydd y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn nodi polisïau Llywodraeth Cymru ar ddatblygu a defnyddio tir mewn cyd-destun gofodol, ac yn disodli Cynllun Gofodol Cymru; a
  • Chynlluniau Datblygu Strategol - mae'r rhain yn gynlluniau rhanbarthol a fydd yn eistedd rhwng y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol a Chynlluniau Datblygu Lleol mewn rhai rhannau o Gymru, a byddant yn ymdrin â materion sy'n torri ar draws nifer o ardaloedd awdurdod cynllunio lleol (ond nad ydynt o arwyddocâd cenedlaethol).
Mae'r erthygl hon yn canolbwyntio ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol; gellir darllen mwy am Gynlluniau Datblygu Strategol a Chynlluniau Datblygu Lleol yn ein papur briffio ar bolisi cynllunio lleol (PDF 1MB) ac ym Mhrosbectws Cynlluniau Datblygu Llywodraeth Cymru. Y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Bydd y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn nodi fframwaith defnydd Llun o Bont Britannia ar draws culfor y Fenaitir 20 mlynedd ac yn cael ei adolygu o leiaf bob pum mlynedd. Yn wahanol i Gynllun Gofodol Cymru, bydd y Fframwaith yn cael statws cynllun datblygu, sy'n golygu bod yn rhaid i bob Cynllun Datblygu Strategol a Chynllun Datblygu Lleol gydymffurfio ag ef. Mae Llywodraeth Cymru yn crynhoi diben y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol fel a ganlyn;
  • yn nodi lle y mae angen twf a seilwaith o bwysigrwydd cenedlaethol a sut y gall y system gynllunio gyflawni hyn;
  • yn creu cyfeiriad ar gyfer Cynlluniau Datblygu Strategol a Chynlluniau Datblygu Lleol;
  • yn cefnogi penderfyniadau ceisiadau o dan drefn Datblygiadau o Arwyddocâd Bwysigrwydd Cenedlaethol; gellir darllen mwy am Ddatblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol yn ein papur briffio ar Ddatblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (PDF 614KB);
  • yn ategu Polisi Cynllunio Cymru, sy’n disgrifio polisïau cynllunio cenedlaethol Llywodraeth Cymru a bydd yn parhau i osod y cyd-destun ar gyfer cynllunio defnydd tir; ac
  • yn cyd-fynd â strategaethau economaidd, trafnidiaeth, amgylcheddol, tai, ynni a diwylliannol cenedlaethol ac yn sicrhau y gall y rhain gael eu cyflawni drwy’r system gynllunio.
Mae Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft gael ei ystyried gan y Cynulliad Cenedlaethol cyn cyhoeddi'r Fframwaith terfynol. Bydd gan y Cynulliad 60 diwrnod (heb gynnwys y toriad) i ystyried y Fframwaith drafft. Rhaid i Lywodraeth Cymru ystyried unrhyw benderfyniad neu argymhellion a wneir gan y Cynulliad, neu unrhyw un o'i bwyllgorau, wrth benderfynu a ddylai'r Fframwaith drafft gael ei ddiwygio. Rhaid i Lywodraeth Cymru gyhoeddi datganiad ochr yn ochr â'r Fframwaith terfynol yn amlinellu sut y mae wedi ystyried penderfyniadau neu argymhellion y Cynulliad. Mae'r amserlen bresennol (isod) yn dangos y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft yn cael ei ystyried gan y Cynulliad ym mis Hydref - Rhagfyr 2019. Disgwylir i'r Fframwaith terfynol gael ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2020. Galw am dystiolaeth a phrosiectau Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn galw am dystiolaeth a phrosiectau (7 Rhagfyr 2016 i 7 Mawrth 2017) er mwyn helpu i lywio datblygiad y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol. Mae'r ymgynghoriad yn gofyn am brosiectau a thystiolaeth ar lefel genedlaethol a fydd yn helpu Cymru i gyrraedd ei hamcanion cenedlaethol amrywiol. Mae'n rhoi'r canlynol fel enghreifftiau a allai fod yn berthnasol i'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol:
  • astudiaethau Cymreig sy'n edrych ar y potensial i greu ynni adnewyddadwy, materion cysylltedd rhwng gwahanol rannau o Gymru neu faterion amgylcheddol sy'n berthnasol i sawl rhanbarth; a
  • materion sy'n ymwneud ag ardal lai ond sy'n bwysig i'r genedl, megis gorsafoedd pŵer neu gynefinoedd sy'n bwysig i'r genedl.
Caiff tystiolaeth a phrosiectau a gyflwynir eu hystyried yng nghyd-destun y system cynllunio datblygiad ac yn erbyn y saith nod llesiant, fel y nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'r ddogfen ymgynghori yn dweud y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi manylion am y dystiolaeth a'r prosiectau a gyflwynir, a hefyd yn cyhoeddi crynodeb o'i hasesiad ohonynt. Fodd bynnag, ni cheir amserlen ar gyfer pryd y bwriedir i hyn gael ei wneud. Datganiad o Gyfranogiad y Cyhoedd Mae Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gyhoeddi Datganiad o Gyfranogiad y Cyhoedd yn nodi sut y bydd yn ymgynghori â'r cyhoedd wrth ddatblygu'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol. Cyhoeddwyd y ddogfen hon ym mis Tachwedd 2016 yn dilyn ymgynghoriad yn nechrau 2016. Mae'r Datganiad o Gyfranogiad y Cyhoedd yn dangos y bydd dau gyfnod 12 wythnos arall o ymgynghori cyhoeddus, cyn i'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft gael ei ystyried gan y Cynulliad. Mae'r amserlen lawn ar gyfer y Fframwaith fel a ganlyn: ndf-table_welsh
Erthygl gan Elfyn Henderson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru