Y Cynulliad i drafod Adroddiad Blynyddol 2015/16 Prif Arolygydd Estyn

Cyhoeddwyd 02/03/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

02 Mawrth 2017 View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth (7 Mawrth, 2017), bydd Aelodau'r Cynulliad yn trafod Adroddiad blynyddol 2015/16 Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, Meilyr Rowlands. Cyhoeddwyd yr adroddiad blynyddol ar 24 Ionawr 2017, ac mae eisoes wedi bod yn destun craffu gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 15 Chwefror 2017 . Dwy o'r prif negeseuon yw bod safonau'r ddarpariaeth yn parhau i fod yn 'amrywiol', gyda'r bwlch rhwng perfformwyr gorau a gwaethaf Cymru'n dal 'yn rhy eang', ac mai addysgu yw'r 'agwedd wannaf' ar hyn o bryd ar draws y rhan fwyaf o feysydd addysg yng Nghymru. Mae hyn hyd yn oed yn fwy amlwg o gofio bod y Prif Arolygydd yn cytuno â'r rhan fwyaf o'r drafodaeth addysgol gyffredinol, sef mai safon yr addysgu yw'r 'dylanwad mwyaf' ar ba mor dda mae plant a phobl ifanc yn dysgu.

Amrywioldeb

Mae'r Prif Arolygydd yn adrodd bod 'amrywioldeb' o fewn ysgolion a rhyngddynt  yn parhau i fod yn nodwedd amlwg' o system addysg Cymru. Mae Mr Rowlands yn nodi:
Ym mhob sector, mae darparwyr da a rhagorol, gan gynnwys mewn ardaloedd cymharol ddifreintiedig, ond mae'r bwlch rhwng darparwyr sy'n gwneud yn dda a'r rhai nad ydynt yn gwneud yn dda yn dal i fod yn rhy eang.
Mae hon yn neges debyg i'r llynedd pan amlygodd y Prif Arolygydd  amrywioldeb mewn safonau, gan ddweud mai dyma oedd 'un o nodweddion mwyaf amlwg y system addysg yng Nghymru'. Yn ei adroddiad yn 2014/15, dywedodd hefyd fod y bwlch rhwng y perfformwyr gorau a'r gwaethaf 'yn dal yn rhy eang' a bod 'angen mynd i'r afael ag ef', gan awgrymu ei bod yn broblem yn y tymor hir sy'n ymestyn yn ôl cyn hynny. Yn wir, mae'r Prif Arolygydd yn adrodd bod y 'darlun sylfaenol' o arolygiadau yn 2015/16 yn 'debyg' i'r flwyddyn flaenorol. Dywedodd y Prif Arolygydd wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg mai un o'r prif ffyrdd y gall yr amrywioldeb hwn gael ei weld yw yn lefel y cysondeb ar draws ysgol.
Mae pobl yn dweud, 'Wel, pa un yw'r broblem fwyaf?' Y gwir amdani yw mai'r un broblem yw hi, oherwydd pan fyddwn yn dweud bod ysgol yn perfformio'n dda, neu fod yr arweinyddiaeth yn gadarn mewn ysgol, neu fod yr addysg yn dda yn yr ysgol honno, yr hyn yr ydym yn ei ddweud mewn gwirionedd yw bod yr addysg, neu'r arweinyddiaeth, neu'r ysgol, yn gyson dda. Yr hyn sy'n gwneud darpariaeth yn ddarpariaeth ddigonol yn unig yw ei bod yn anghyson. Felly, mae'r anghysondeb hwnnw-. Mewn ysgolion a darparwyr eraill lle rydym yn nodi eu bod yn ddigonol, mae pocedi o arfer da ond nid yw hyn yn gyson ar draws y system. Dyna beth sy'n arwain at yr amrywioldeb hwn yr ydym yn ei weld ar lefel system, sef bod gennych amrywioldeb o fewn y pocedi hynny gan ddarparwyr.

Safonau addysgu

Ansawdd yr addysgu yw'r dylanwad mwyaf ar ba mor dda y mae dysgwyr yn dysgu, ond dyma'r agwedd wannaf o'r ddarpariaeth ar draws y rhan fwyaf o feysydd addysg yng Nghymru.
Dyma sut y gwnaeth datganiad i'r wasg Estyn adrodd am gyhoeddi adroddiad blynyddol ei Brif Arolygydd ar gyfer 2015/16.  Ymddengos ei fod yn atgyfnerthu'r angen am y diwygiadau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i hyfforddiant a datblygiad proffesiynol athrawon. Yn wir, mae yna ffocws arbennig yn adroddiad blynyddol y Prif Arolygydd eleni ar  well dysgu proffesiynol a datblygiad staff, y  mae'r Prif Arolygydd yn ei ddisgrifio fel 'gofyniad strwythurol ar gyfer gwell addysgu'. Mae ei adroddiad yn cynnwys deg set o gwestiynau ar gyfer ysgolion, sydd wedi'u cynllunio i gynorthwyo â'u cefnogaeth ar gyfer dysgu proffesiynol athrawon. Dywed y Prif Arolygydd bod gan ychydig dros dri chwarter yr ysgolion cynradd a arolygwyd yn 2015/16 safonau addysgu oedd yn dda neu'n well. Fodd bynnag, mae hyn yn wir mewn dim ond lleiafrif o ysgolion uwchradd. Mae'r addysgu yn rhagorol yn 'ychydig iawn' yn unig o ysgolion cynradd ac uwchradd. Mae Llywodraeth Cymru yn diwygio'r cyfleoedd datblygu sydd ar gael i athrawon. Mae'n gweithio gydag 'ysgolion sy'n arloesi' tuag at sefydlu cynnig dysgu proffesiynol sengl newydd erbyn Gorffennaf 2018, mewn pryd ar gyfer argaeledd y cwricwlwm newydd ym Medi 2018. Mae safonau proffesiynol newydd hefyd yn cael eu datblygu ynghyd ag  adnewyddu rhaglenni addysg gychwynnol i athrawon (yn dilyn Adolygiad Furlong) gyda fersiynau 'trawsnewidiol' newydd i'w  cyflwyno ym mis Medi 2019. Mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar hyn o bryd yn cynnal Ymchwiliad i Addysg a Dysgu Proffesiynol Athrawon.

Arsylwadau allweddol eraill

  • Mae mwy o fwlch rhwng y perfformiad gorau a'r perfformiad gwaethaf ar lefel ysgol uwchradd nag ar lefel ysgol gynradd. Mae gan fwy o ysgolion uwchradd berfformiad a rhagolygon ar gyfer gwella sy'n Rhagorol neu'n Anfoddhaol, tra bod ysgolion cynradd yn tueddu i gael eu clystyru yn bennaf o amgylch y ddwy farn ganol, sef Da a Digonol. Mae hwn yn batrwm parhaus o flynyddoedd blaenorol.
  • Mae yna duedd gynyddol o gyflwyno disgyblion yn gynnar ar gyfer arholiadau. Mae Estyn yn gweld y gall fod yn fuddiol mewn rhai pynciau, yn enwedig Mathemateg ond os caiff ei gymhwyso'n ehangach i garfanau mwy o ddisgyblion gall fod yn niweidiol. Gallai helpu disgyblion i ennill graddau C a helpu data perfformiad trothwy Lefel 2 ysgolion (5 neu fwy TGAU ar raddau A* -C), ond mae Estyn yn dweud bod iddo 'anfanteision'.
  • Nid yw dysgwyr mwy galluog yn cyflawni cystal ag y dylent. Mae hyn yn awgrymu nad yw'r system yn gwneud digon i alluogi disgyblion mwy galluog a thalentog i gyflawni eu potensial. Mae'r OECD wedi nodi bod gan Gymru system gymharol gynhwysol ond nid yw'n ymestyn disgyblion mwy galluog a thalentog cystal ag y gallai.
  • Mae cyfran y disgyblion sy'n ennill 5 TGAU ar raddau A*-C wedi cynyddu o 51.1% yn 2012 i 57.9% yn 2015 a 60.3% yn 2016, er bod y gyfran sy'n ennill 5 TGAU ar raddau A* -A wedi lleihau o 17.1% yn 2012 i 16.6% yn 2015 a 15.9% yn 2016. (Sylwer bod Llywodraeth Cymru wedi dechrau defnyddio dull ystadegol ychydig yn wahanol yn 2016, gan fesur y garfan o ddisgyblion ym Mlwyddyn 11 yn hytrach na'r rhai 15 oed ar ddechrau'r flwyddyn academaidd.)
  • Y bwlch rhwng y gyfran o ddisgyblion oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn ennill trothwy Lefel 2 cynhwysol (5 TGAU graddau A* -C gan gynnwys Cymraeg/Saesneg a Mathemateg) a disgyblion eraill oedd 31 pwynt canran yn 2016. Dyma'r culaf y mae'r bwlch wedi bod mewn deng mlynedd.
  • Arolygwyd pob consortia rhanbarthol gan Estyn yn 2015/16. Mae'r Prif Arolygydd yn adrodd nad yw'rconsortia yn dadansoddi yn ddigonol cynnydd grwpiau o ddisgyblion, gan gynnwys y rhai mwy galluog, yn ddigon manwl. Nid ydynt chwaith yn gwneud digon i fynd i'r afael ag amrywioldeb mewn safonau, yn enwedig rhwng ysgolion uwchradd.
  • Parhaodd y broblem tymor hir o berfformiad a chanlyniadau gwael mewn unedau cyfeirio disgyblion yn 2015/16. Mae adroddiadau blynyddol dros nifer o flynyddoedd wedi amlygu hwn yn faes sy'n peri pryder.

Beth y mae Estyn yn edrych arno wrth arolygu ysgolion a lleoliadau eraill?

Mae Estyn yn defnyddio Fframwaith Arolygu Cyffredin a gyflwynwyd ar ddechrau'r cylch arolygu cyfredol ym mis Medi 2010. Mae'r Fframwaith yn cynnwys tri chwestiwn allweddol ynghylch 'pa mor dda' yw'r deilliannau, y ddarpariaeth, a’r arweinyddiaeth a rheolaeth. Yn dilyn hynny, mae Estyn yn ffurfio dwy farn gyffredinol am berfformiad cyfredol a rhagolygon ar gyfer gwella ym mhob lleoliad yn ôl graddfa â phedwar pwynt iddi: Rhagorol, Da, Digonol ac Anfoddhaol. Mae Estyn yn cyhoeddi data ar ei ganlyniadau arolygu. Mae hyn yn darparu manylion yr holl farnau arolygu ers dechrau'r cylch fframwaith arolygu presennol ym mis Medi 2010. Gall hyn gael ei hidlo yn ôl sectorau penodol. Bydd y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth (7 Mawrth, 2017) yn cael ei darlledu ar Senedd TV a bydd trawsgrifiad ar gael ar Gofnod y Trafodion y Cynulliad.
Erthygl gan Michael Dauncey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Llun: o Flickr gan theilr. Dan drwydded Creative Commons.   Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Y Cynulliad i drafod Adroddiad Blynyddol 2015/16 Prif Arolygydd Estyn (PDF, 231KB)