Ffedereiddio ysgolion; yr ateb i osgoi cau ysgolion gwledig?

Cyhoeddwyd 15/03/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ar 15 Tachwedd 2016, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams, ei bwriad i wneud newidiadau i'r Cod Trefniadaeth Ysgolion. Prif amcan y newidiadau fydd cyflwyno rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig, rhywbeth sydd eisoes ar waith yn yr Alban a Lloegr.

Gellir olrhain y rhagdybiaeth hon yn ôl i un o'r blaenoriaethau ym maes addysg a gyflwynodd Kirsty Williams i Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, cyn ymuno â Llywodraeth Cymru. Un o'r rhesymau pam nad oes rhagdybiaeth o'r fath wedi bod ar waith yng Nghymru yw nad oes diffiniad swyddogol o 'ysgol wledig' yng Nghymru, ac mae hwn yn rhywbeth arall y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn dymuno'i newid yn y Cod Trefniadaeth Ysgolion.

Byddai'r rhagdybiaeth arfaethedig hon yn golygu

  • bod yn rhaid i'r achos o blaid cau ysgolion gwledig fod yn gryf; ac
  • y bydd yn rhaid i awdurdodau lleol ymgynghori'n fwy trylwyr ac ystyried mewn modd cydwybodol bob dewis arall yn hytrach na chau ysgolion, gan gynnwys creu cysylltiadau ag ysgolion eraill. Gelwir hyn yn ffedereiddio.

Yn ogystal â newidiadau i'r Cod Trefniadaeth Ysgolion, ymrwymodd Ysgrifennydd y Cabinet hefyd i ddarparu £2.5 miliwn yn ychwanegol i'r ysgolion gwledig a bach, sydd i gael eu diffinio'n fuan, o fis Ebrill 2017. Bwriad yr arian ychwanegol hwn yw 'cefnogi cydweithio rhwng ysgolion' ac ar gyfer

datblygu ffederasiynau ar draws yr holl ysgolion a gynhelir, a gwybodaeth a chanllawiau gwell ar gyfer y rheiny sy'n ystyried cydweithio a ffedereiddio.

Gallai hyn fod yn arwydd o newid cyfeiriad ym mholisi Llywodraeth Cymru, sydd wedi canolbwyntio yn y gorffennol ar leihau nifer y lleoedd gwag mewn ysgolion yng Nghymru. Roedd hyn yn aml yn golygu cau ysgolion yr ystyrid nad oedd ganddynt ddigon o ddisgyblion. O ganlyniad i Gwestiwn Ysgrifenedig y Cynulliad oddi wrth Aelod Cynulliad y Ceidwadwyr, Darren Millar ym mis Gorffennaf 2016, daeth i'r amlwg fod y rhan fwyaf o'r ysgolion a gafodd eu cau yng nghefn gwlad Cymru. Beth yw ffedereiddio ysgolion? Mae ysgolion yng Nghymru wedi gallu ffedereiddio ers 2010 pan gyflwynwyd Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir a Diwygiadau Amrywiol (Cymru) 2010. Diweddarwyd y rheolau ynghylch ffedereiddio trwy basio Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014. Yr ysgolion cyntaf i ffedereiddio oedd Coleg Cymunedol Michaelston ac Ysgol Uwchradd Glyn Derw yng Nghaerdydd yn 2011. Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar ffedereiddio yn rhoi crynodeb o'r term:

Mae'r term ffederasiwn yn disgrifio cytundeb ffurfiol a chyfreithiol lle mae nifer o ysgolion (rhwng dwy a chwech) yn rhannu trefniadau llywodraethu ac yn meddu ar gorff llywodraethu sengl. Gall ffederasiynau gynnwys cymysgedd o ysgolion cymunedol a chymunedol arbennig sydd naill ai'n ysgolion meithrin, cynradd, arbennig neu uwchradd a gynhelir.

Fodd bynnag, o dan y Rheoliadau Ffedereiddio 2014 newydd, ni chaiff ysgolion a sefydlwyd ar sail ffydd a/neu ymddiriedolaeth, megis ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir neu ysgolion gwirfoddol a reolir, ffedereiddio ac eithrio gydag ysgolion o'r un categori neu gydag ysgolion o'r un statws ymddiriedolaeth elusennol a/neu'r un ethos crefyddol. Ni chaiff ysgolion sefydledig ffedereiddio ac eithrio gydag ysgolion sefydledig eraill.

Mae'r canllawiau hefyd yn nodi nad oes

unrhyw lasbrint penodol ar gyfer ffedereiddio a bydd cynllun neu weithrediad unrhyw ffederasiwn yn dibynnu'n llwyr ar amgylchiadau'r ysgolion unigol a ffocws neu ddiben eu hawydd i gydweithio.

Fodd bynnag, rhaid mai'r rheswm pwysicaf dros ystyried ffedereiddio yw'r manteision y byddai trefniant o'r fath yn eu cyflwyno i blant a phobl ifanc trwy gyfrwng gwell darpariaeth addysgol. Pam ffedereiddio? Nodwyd mewn adroddiad gan y Coleg Cenedlaethol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth, o'r enw 'A study of the impact of school federation on student outcomes', fod ffedereiddio ysgolion:

  • wedi cael effaith gadarnhaol ar ddeilliannau myfyrwyr, er y gall gymryd dwy i bedair blynedd i'r effaith ddod i'r amlwg;
  • yn cynnig rhagor o adnoddau ac o ganlyniad gyfleoedd ar gyfer newid a darparu gwasanaethau ychwanegol; ac
  • yn darparu mwy o gyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol i'r staff, yn aml am bris gostyngol, ar draws y ffederasiwn, ac ar adegau y tu hwnt i'r ffederasiwn. Mae strwythur ffederal hefyd yn hybu cyfleoedd i ysgolion gydweithredu, sy'n cael ei ystyried yn bwysig er mwyn gwella safonau yng Nghymru.

Er bod pob un o'r uchod yn berthnasol ac yn ganlyniadau dymunol yng Nghymru, mae ffactor arall sy'n sbarduno'r syniad o ffedereiddio, sef nifer y lleoedd gwag mewn ysgolion yng Nghymru.

Lleoedd gwag mewn ysgolion yng Nghymru

Cefnogwyd yr ymgyrch i leihau nifer y lleoedd gwag mewn ysgolion gan Lywodraeth flaenorol Cymru, a argymhellodd na ddylai fod gan awdurdodau lleol fwy na 10% o'u lleoedd yn wag ar draws yr holl ysgolion cynradd ac uwchradd yn eu hardaloedd. Ar lefel ysgol unigol, diffinnir lefel sylweddol o ddarpariaeth dros ben fel 25 y cant ac o leiaf 30 o leoedd heb eu llenwi.

Cefnogodd yr ymgyrch hon gyda'i Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif a'i Chod Trefniadaeth Ysgolion. Roedd y Cod yn nodi ei bod yn 'bwysig bod cyllid ar gyfer addysg yn gosteffeithiol'. Dywedwyd yn y Cod hefyd y byddai'n rhaid i unrhyw benderfyniad i ad-drefnu neu gau ysgol fod 'er budd y ddarpariaeth addysgol yn yr ardal.'

Yn 2012, cyhoeddodd Estyn adroddiad o'r enw Sut mae lleoedd dros ben yn effeithio ar yr adnoddau sydd ar gael i wario ar wella deilliannau ar gyfer disgyblion? Canfu'r adroddiad hwnnw fel a ganlyn:

bydd cau ysgol gynradd yn cynhyrchu arbedion posibl o £63,500 yn ogystal â £260 ar gyfer pob lle dros ben a ddiddymir. Bydd cau ysgol uwchradd yn cynhyrchu arbedion posibl o £113,000 a £510 ar gyfer pob lle dros ben a ddiddymir. [fy mhwyslais i]

Y canfyddiad yw bod y cyfuniad hwn o ffactorau wedi cyfrannu at gau 157 o ysgolion rhwng 2006/7 a 2015/16 yn bennaf, mae'n ymddangos, mewn rhannau gwledig o Gymru. Er gwaethaf yr ysgolion a gaewyd, nododd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, mewn nodyn briffio i'w Bwyllgor Cydlynu, fod cyfradd y lleoedd gwag yn 19.6 y cant yn y sector uwchradd a 14.4 y cant yn y sector cynradd erbyn 2015, sef 3.2 y cant yn llai nag yn 2013 yn y sector cynradd. Roedd dros 40 y cant o'r lleoedd dros ben mewn ysgolion bach, sydd i'w cael yn bennaf mewn ardaloedd gwledig. [fy mhwyslais i].

Mae'n ymddangos nawr fod Llywodraeth newydd Cymru yn mynd i addasu ei hagwedd tuag at leoedd gwag, er ein bod yn dal i aros am y manylion a fydd yn sail i'r newid hwn. Efallai y daw'r manylion hyn i'r amlwg ar ôl cyhoeddi'r strategaeth a'r cynllun gweithredu ar gyfer ffedereiddio a chydweithredu yng Nghymru.


Erthygl gan Joseph Champion, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Llun: o Pixnio gan Amanda Mills. Dan drwydded Creative Commons.

Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Ffedereiddio ysgolion; yr ateb i osgoi cau ysgolion gwledig? (PDF, 212KB)