Gofal iechyd trawsffiniol - cleifion o dramor

Cyhoeddwyd 16/03/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

16 Mawrth 2017 View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi yn ddiweddar y bydd yn ofynnol i ysbytai'r GIG yn Lloegr i godi tâl ar gleifion o dramor o flaen llaw ar gyfer gofal wedi'i gynllunio, nad yw'n ofal brys, oni bai eu bod yn gymwys i gael triniaeth am ddim. Sut mae hyn yn berthnasol i'r gweinyddiaethau datganoledig? Beth yw'r trefniadau ar gyfer pobl nad ydynt yn breswylwyr y DU i gael mynediad i ofal iechyd y GIG, ac i gleifion Cymru (a'r DU) i gael triniaeth dramor? A yw hyn yn debygol o newid ar ôl i'r DU adael yr UE?

Mynediad i wasanaethau'r GIG yn y DU - preswylio fel arfer

Mae hawl i ofal iechyd y GIG am ddim yn seiliedig ar fod yn 'preswylio fel arfer' yn y DU. Nid yw preswylio fel arfer yn dibynnu ar genedligrwydd, talu trethi/yswiriant gwladol yn y DU, meddu ar rif GIG neu gael eich cofrestru gyda meddyg teulu, neu fod yn berchen ar eiddo yn y DU. Mae wedi dod i gael ei dderbyn i olygu bod unigolyn yn byw yma yn gyfreithlon, yn wirfoddol, ac at ddibenion sefydlog. O dan y Ddeddf Mewnfudo 2014, rhaid i berson gael caniatâd amhenodol i aros yn y DU, er mwyn cael ei ystyried fel rhywun sy'n preswylio yma fel arfer. Ledled y DU, mae rhai mathau o ofal iechyd, gan gynnwys gwasanaethau meddyg teulu a thriniaeth mewn adran damweiniau ac achosion brys, yn rhad ac am ddim i bob claf ar hyn o bryd p'un a ydynt yn preswylio yma fel arfer ai peidio. I bobl nad ydynt yn breswylwyr y DU, mae'r rhan fwyaf o driniaeth ysbyty yn destun tâl, er bod rhai grwpiau o bobl yn cael eu heithrio, er enghraifft ffoaduriaid, ceiswyr lloches a phlant sy'n derbyn gofal. Yn ogystal, efallai y bydd cleifion sydd â hawliau i ofal iechyd o dan ddeddfwriaeth yr UE neu gytundebau gofal iechyd cyfatebol eraill hefyd wedi'u heithrio rhag taliadau. Mae mwy o fanylion am y trefniadau hyn - sydd hefyd yn berthnasol i breswylwyr y DU sy'n cael triniaeth dramor - yn cael eu darparu isod. O fis Ebrill 2015, efallai bydd gwladolion y tu allan i'r AEE sy'n dod i'r DU am fwy na chwe mis yn gorfod talu gordal iechyd mewnfudo fel rhan o'u cais am fisa. Mae hyn yn rhoi'r hawl iddynt gael triniaeth GIG ar yr un sail â phreswylwyr parhaol y DU. Rheoliadau codi tâl Mae'n ofynnol i sefydliadau'r GIG ledled y DU drwy reoliadau i sefydlu a yw rhywun yn gorfod talu am wasanaethau GIG ac i godi tâl yn unol â hynny. Mae Adran Iechyd y DU wedi dweud bod y gofyniad newydd i ysbytai godi tâl ar gleifion o dramor ymlaen llaw yn dod i rym ym mis Ebrill 2017. Mae hyn yn berthnasol i Loegr yn unig - mae rheoliadau ar wahân yn llywodraethu'r trefniadau codi tâl yn y gweinyddiaethau datganoledig. Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru yn adolygu'r rheoliadau a chanllawiau codi tâl presennol, a disgwylir y bydd yn cyhoeddi fersiynau wedi'u diweddaru ar ffurf drafft ar gyfer ymgynghori yng ngwanwyn 2017.

Preswylwyr gwledydd yr AEE (gan gynnwys preswylwyr y DU)

Triniaeth heb ei gynllunio Gall preswylwyr gwledydd Ardal Economaidd Ewrop (AEE) a'r Swistir wneud cais am Gerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd (EHIC), a fydd yn eu galluogi i gael mynediad at ofal iechyd a ddarperir gan y wladwriaeth yn ystod arhosiad dros dro mewn gwlad arall yr AEE / Swistir. Mae'r EHIC yn cwmpasu unrhyw driniaeth feddygol angenrheidiol na ellir ei ohirio hyd nes y byddwch wedi dychwelyd adref. Mae hyn yn cynnwys triniaeth ar gyfer cyflyrau meddygol cronig neu sydd eisoes yn bodoli a hefyd gofal mamolaeth arferol (mae hyn yn cynnwys genedigaeth heb ei gynllunio, ond ni fyddai'n darparu yswiriant ar gyfer rhywun sy'n bwriadu rhoi genedigaeth dramor). Dylid darparu triniaeth ar yr un sail ag y byddai'n cael ei darparu i un o drigolion y wlad honno. Mewn llawer o achosion bydd hyn yn rhad ac am ddim, fodd bynnag, mewn rhai gwledydd mae disgwyl i gleifion gyfrannu at gost eu triniaeth a ddarperir gan y wladwriaeth, a bydd hyn hefyd yn berthnasol i ddeiliaid EHIC sy'n derbyn triniaeth yn y gwledydd hynny. Mae'n pwysleisio nad yw'r EHIC yn ddewis amgen i yswiriant teithio - ni fydd, er enghraifft, yn talu dros rywun mewn achos o achub a dychwelyd adref yn dilyn damwain. Triniaeth wedi'i chynllunio Mae dau lwybr posibl lle y gall trigolion yr AEE deithio i wlad arall yn yr AEE ar gyfer gofal iechyd wedi'i gynllunio:
  • llwybr Cyfarwyddeb yr UE;
  • y cynllun S2.
O dan Gyfarwyddeb yr UE ar hawliau cleifion mewn gofal iechyd trawsffiniol , gall cleifion brynu gofal iechyd y wladwriaeth neu breifat mewn gwlad arall yr AEE a cheisio ad-daliad gan eu gwlad gartref (hyd at gyfanswm cost y driniaeth honno gartref). Nid yw llwybr Cyfarwyddeb yr UE yn berthnasol i'r Swistir. Nid oes o reidrwydd angen awdurdodiad ymlaen llaw, er y bydd hwn yn ofyniad ar gyfer rhai mathau o ofal iechyd, yn gyffredinol gofal i gleifion mewnol a thriniaeth hynod arbenigol, cost uchel. O dan y Gyfarwyddeb, nid yw cleifion yn gallu cael ad-daliad am driniaeth na fyddai ganddynt hawl i'w chael gartref. Mae gwybodaeth bellach am drefniadau o dan Gyfarwyddeb yr UE i'w gweld yng nghanllawiau ar gyfer y GIG  Llywodraeth Cymru ar ofal iechyd trawsffiniol a symudedd cleifion. O dan y llwybr S2, gall preswylwyr yr AEE a'r Swistir geisio triniaeth a gynlluniwyd mewn gwledydd eraill yr AEE/y Swistir, ond mae'n rhaid cael caniatâd ymlaen llaw gan eu Haelod Wladwriaeth eu hunain, sy'n talu'r gost. Mae'r llwybr S2 ond yn berthnasol i driniaeth a ddarparwyd gan y wladwriaeth (nid triniaeth breifat). Mae'r ffurflen S2 yn gweithredu fel math o warant talu - yn y mwyafrif o achosion, nid yw'n ofynnol i'r claf dalu unrhyw beth ei hun (ac eithrio unrhyw daliadau statudol perthnasol a fyddai hefyd yn berthnasol i'r rhai sy'n preswylio yn y wlad fel arfer, er enghraifft, taliadau presgripsiynau a deintyddol yn y DU). Pensiynwyr sy'n byw dramor O dan y cynllun S1, gall pensiynwyr sy'n setlo mewn gwlad arall yn yr AEE neu'r Swistir gael mynediad at wasanaethau gofal iechyd yn y wlad honno ar yr un telerau â phreswylwyr arferol. Mae'r ffurflen S1 yn cael ei chyhoeddi gan y wlad sy'n talu eich pensiwn, ac mae'n rhaid ei chofrestru yn y wlad yr ydych yn byw ynddi nawr. Mae'r cynllun S1 yn cael ei ddefnyddio yn bennaf i bensiynwyr, ond efallai bydd hefyd yn berthnasol i grwpiau eraill megis gweithwyr sy'n cael eu penodi a gweithwyr trawsffiniol. Mae Llywodraeth y DU yn gweithredu ar ran y DU gyfan i adennill costau gan Aelod-wladwriaethau eraill yr AEE o dan y cynlluniau S1, S2 a EHIC. Effaith Brexit Mae'r DU yn 'allforiwr' net o dan drefniadau gofal iechyd cyfatebol yr UE, gan dalu mwy i wledydd eraill yr AEE nag y mae'n ei dderbyn. Mae hyn yn bennaf oherwydd y nifer uwch o bensiynwyr y DU sy'n byw dramor. Ym mis Chwefror 2017 dywedodd Adran Iechyd y DU wrth Bwyllgor Iechyd Tŷ'r Cyffredin:
on an annual basis, we pay out roughly £650 million a year to cover the costs of UK‑insured pensioners in other EEA countries and UK visitors to those countries. (…) Of that, about £500 million is on pensioners, so that is UK‑insured pensioners, of which there are about 190,000 in other EEA countries. I think the figures there are 70,000 in Spain, 44,000 in Ireland, 43,000 in France and about 12,000 in Cyprus. Those are the main countries.
Mae'r trefniadau uchod yn parhau yn eu lle tra bod y DU yn dal i fod yn aelod o'r UE, ond nid yw'n glir eto sut y gallai pethau newid yn dilyn y DU yn gadael yr UE. Mewn tystiolaeth i Bwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y Cynulliad, dywedodd Cydffederasiwn GIG Cymru:
If the UK were to leave the EU single market, these systems would in principle no longer apply in the future, unless bilateral agreements were negotiated. Consideration should be given by negotiators to possible implications for patients and how to ensure that a fair alternative system is put in place, either with the EU as a whole, or with those EU countries, such as Spain, which have high numbers of UK nationals living there.

Gwledydd y tu allan i'r AEE

Mae gan y DU gytundebau gofal iechyd dwyochrog gyda nifer o wledydd unigol y tu allan i'r AEE. Gall y cytundebau hyn ddarparu ar gyfer triniaeth sydd ei hangen ar unwaith ar gyfer cyflyrau sy'n codi, neu gyflyrau sydd eisoes yn bodoli sy'n mynd yn ddifrifol waeth, yn ystod ymweliad dros dro. Mae lefel y gofal y gellir ei ddarparu yn rhad ac am ddim yn amrywio. Fel gyda'r EHIC, argymhellir bod y rhai sy'n teithio mewn gwledydd eraill yn trefnu yswiriant teithio digonol i dalu am eu harhosiad dramor. Efallai y bydd rhai cytundebau dwyochrog hefyd yn darparu ar gyfer nifer cyfyngedig o gyfeiriadau penodol ar gyfer trin cyflyrau sydd eisoes yn bodoli (byddai hyn fel arfer yn gymwys dim ond lle nad oes gan y wlad sy'n cyfeirio gyfleusterau digonol i ddarparu'r driniaeth sydd ei hangen).

I gael rhagor o wybodaeth

  • Gall Pwyntiau Cyswllt Cenedlaethol ym mhob gwlad AEE gynghori cleifion am eu hawliau o dan drefniadau'r UE.
  • Gellir cael gwybodaeth am gael trinaieth wedi'i gynllunio neu heb ei gynllunio mewn gwlad Ewropeaidd arall ar wefan Your Europe yr UE.
  • Mae gwybodaeth bellach a chyngor i bobl sy'n ymweld â gwlad dramor neu sy'n symud dramor, ac ar gyfer y rhai sy'n ceisio triniaeth yng Nghymru, yn cael ei darparu gan Galw Iechyd Cymru .
  • Gweler ein papur briffio o Fehefin 2016 i gael gwybodaeth am y trefniadau gofal iechyd trawsffiniol rhwng Cymru a Lloegr.

Erthygl gan Philippa Watkins, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Gofal iechyd trawsffiniol - cleifion o dramor (PDF, 237KB)