Y Goblygiadau i Gymru yn sgil Gadael yr Undeb Ewropeaidd: Pwyllgor Cynulliad yn cyhoeddi ei adroddiad cyntaf (16/03/2017)

Cyhoeddwyd 16/03/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

16 Mawrth 2017 Cyhoeddwyd yr erthygl hon ar 30 Ionawr 2017 yn wreiddiol. Mae’n cael ei phostio eto cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar 28 Mawrth 2017. View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Mae Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y Cynulliad (@SeneddMADY) wedi cyhoeddi ei adroddiad cyntaf ar y goblygiadau i Gymru yn sgil gadael yr UE. Adroddiad mewn dwy ran ydyw. Mae Rhan 1 o’r adroddiad yn nodi casgliadau’r Pwyllgor ar y prif oblygiadau i Gymru yn sgil gadael yr UE. Mae’r casgliadau hyn yn seiliedig ar y seminarau a sesiynau tystiolaeth a gynhaliwyd gan y Pwyllgor gydag arbenigwyr blaenllaw ar amrywiaeth o bynciau allweddol, gan gynnwys masnach, gwasanaethau cyhoeddus, cyllid yr UE, addysg uwch a’r amgylchedd. Dyma rai o’r prif gasgliadau:Fflagiau UE
  • O ystyried pwysigrwydd gweithgynhyrchu i Gymru, byddai gosod tariffau yn peri risg sylweddol i’r sector hwn, yn enwedig i’r gweithgynhyrchwyr sy’n gysylltiedig â chadwyni gwerth byd-eang;
  • Mae risg sylweddol i’r fasnach mewn cynhyrchion amaethyddol;
  • Heb ystyriaeth ofalus, bydd cyfyngu ar allu dinasyddion yr UE i weithio yn y DU ar ôl Brexit yn cael effaith niweidiol ar lawer o wasanaethau cyhoeddus, ar rai busnesau ac ar brosiectau seilwaith yn y dyfodol yng Nghymru.
  • Mater o’r brys mwyaf i’r sector addysg uwch yng Nghymru yw cael eglurhad ar statws dinasyddion yr UE sy’n gweithio ac yn astudio yng Nghymru;
  • Dylai Llywodraeth Cymru gymryd yr awenau wrth baratoi gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer yr heriau sydd o’n blaenau.
Mae Rhan 2 o’r adroddiad yn canolbwyntio ar ymateb Llywodraeth Cymru i’r refferendwm, llais Cymru yn y trafodaethau a dyfodol cysylltiadau rhynglywodraethol yn y DU. Ar y pwnc hwn, yn ogystal â’i gasgliadau allweddol, mae’r Pwyllgor yn gwneud chwe argymhelliad. Mae’r argymhellion allweddol yn cynnwys y canlynol:
  • Dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi’r holl dystiolaeth y mae’n seilio ei Phapur Gwyn arni, gan gynnwys manylion y gwaith sydd wedi’i wneud ar fodelu senarios ym mhob sector.
  • Dylai Llywodraeth Cymru roi cofrestr risgiau i’r Pwyllgor ar gyfer pob maes lle y bydd Brexit yn effeithio ar ei gweithgarwch.
  • Dylai Llywodraeth Cymru nodi’r camau y mae wedi’u cymryd er 24 Mehefin 2016 i sicrhau ei bod yn cael gafael ar y swm mwyaf posibl o gyllid Ewropeaidd ac yn ei ddefnyddio cyn inni adael yr Undeb Ewropeaidd.
  • Dylai Llywodraeth Cymru bwyso ar Lywodraeth y DU i’w chynnwys yn llawn wrth lunio’i safbwynt ar gyfer y trafodaethau. Dylai gymryd rhan yn uniongyrchol yn y trafodaethau hynny sy’n ymwneud â phwerau datganoledig, neu â materion sy’n effeithio ar bwerau datganoledig.
  • Mae’r Pwyllgor hefyd yn dod i’r casgliad y byddai sicrhau priodoldeb cyfansoddiadol yn gofyn cael cydsyniad y Cynulliad ar gyfer yr holl Ddeddfau posibl sy’n gysylltiedig â Brexit a gyflwynid gan Senedd y DU.
  • Mae’r Pwyllgor yn nodi, petai’r Bil Diddymu yn tarfu ar y setliad datganoli, y byddai’n cefnogi egwyddor gwarchod y setliad datganoli drwy gyflwyno ‘Bil Parhad i Gymru’.
Byddai Bil Parhad yn ailddatgan bod y canlynol yn bodoli, yng nghyfraith Cymru:
  • pob cyfraith ddomestig sy’n gymwys i Gymru a wnaed at ddibenion gweithredu unrhyw rwymedigaeth UE-nghyfraith / disgresiwn, a
  • yr holl hawliau a’r rhwymedigaethau sy’n uniongyrchol berthnasol/uniongyrchol effeithiol sy’n deillio o gyfraith yr UE
sy’n dod o fewn cymhwysedd y Cynulliad. Mae’r Pwyllgor yn nodi ei obaith y bydd yr adroddiad yn gyfeirbwynt a fydd yn llywio’r drafodaeth ehangach yng Nghymru, a’r tu hwnt, o ran ymadawiad y DU â’r UE ac y bydd yn cael ei ddefnyddio gan sefydliadau eraill wrth iddynt ddechrau ystyried y goblygiadau i Gymru . Mae rhagor o wybodaeth am waith y Pwyllgor ar gael ar ei wefan.
Erthygl gan Nia Moss, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.   Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Y Goblygiadau i Gymru yn sgil Gadael yr Undeb Ewropeaidd: Pwyllgor Cynulliad yn cyhoeddi ei adroddiad cyntaf (PDF, 153KB)