Gwneud y gorau o’r môr

Cyhoeddwyd 21/03/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

21 Mawrth 2017 View this post in English | Darllenwch yr erthygl hon yn Saesneg Mae dadl ar 22 Mawrth 2017 yn galw ar “Lywodraeth Cymru i gyflwyno Cynllun Morol uchelgeisiol i gefnogi datblygiad cynaliadwy yr economi las, a'i gwneud yn elfen ganolog o'i strategaeth economaidd newydd.” Mae'r blog hwn yn edrych yn gryno ar ddatblygu Cynllun Morol ar gyfer Cymru, ac yn ystyried potensial yr economi las ar gyfer Cymru.

Cynllunio Morol

Mae ymgynghoriad ar Gynllun Morol Cenedlaethol Cymru Llywodraeth Cymru (WNMP ) i fod i gael ei gynnal ganol 2017. Bydd yn cynnwys ardaloedd glannau Cymru a rhanbarth môr mawr Cymru – sydd bron yn dyblu maint Cymru. Hwn fydd y cynllun cyntaf o'i fath yng Nghymru i ganolbwyntio ar foroedd Cymru, ac yn bwysig, i fynegi sut y gallant gefnogi llesiant y cenedlaethau presennol a chenedlaethau'r dyfodol. Bydd Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru yn cyflwyno dull a arweinir gan gynllun traws-sector integredig o wneud penderfyniadau, a bydd yn llywio systemau rheoleiddio fel trwyddedu morol. traeth yng NghymruMae ymgynghoriad ar Gynllun Morol Cenedlaethol Cymru Llywodraeth Cymru (WNMP ) i fod i gael ei gynnal ganol 2017. Bydd yn cynnwys ardaloedd glannau Cymru a rhanbarth môr mawr Cymru – sydd bron yn dyblu maint Cymru. Hwn fydd y cynllun cyntaf o'i fath yng Nghymru i ganolbwyntio ar foroedd Cymru, ac yn bwysig, i fynegi sut y gallant gefnogi llesiant y cenedlaethau presennol a chenedlaethau'r dyfodol. Bydd Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru yn cyflwyno dull a arweinir gan gynllun traws-sector integredig o wneud penderfyniadau, a bydd yn llywio systemau rheoleiddio fel trwyddedu morol. Caiff gweithgaredd cynllunio morol yng Nghymru ei arwain gan Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 a Datganiad Polisi Morol y DU, a lofnodwyd gan yr holl weinyddiaethau datganoledig a Llywodraeth y DU ym mis Mawrth 2011. Yn sail i hyn mae ymrwymiad i bum Amcan Forol Lefel Uchel a gweledigaeth ar gyfer cefnforoedd a moroedd glân, iach, diogel, cynhyrchiol a bioamrywiol. Mae awdurdodau cynllunio morol eraill, fel y Sefydliad Rheoli Morol, yn gweithio i ddatblygu cynlluniau morol mewn ardaloedd yn Lloegr, fel y de-orllewin a’r gogledd-orllewin, sy’n ffinio â dyfroedd Cymru yn aberoedd Hafren a Dyfrdwy. Cyhoeddodd yr Alban ei chynllun morol cenedlaethol yn 2015 ac mae'n gweithio gyda phartneriaethau cynllunio morol i gynllunio’n rhanbarthol.

Economi las (neu wyrdd)

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried twf gwyrdd yng Nghymru fel:
meithrin twf economaidd, datblygiad a thegwch cymdeithasol a hefyd sicrhau bod modd i’n hasedau naturiol barhau i ddarparu’r adnoddau a’r gwasanaethau amgylcheddol o safbwynt ein llesiant.
Yng nghyd-destun Cymru, mae twf gwyrdd felly’n cynnwys yr amgylchedd morol ac arfordirol. Mae Bargen Las Newydd y Sefydliad Economeg Newydd yn nodi gweledigaeth ar gyfer adfywio cymunedau arfordirol a diogelu adnoddau naturiol. Ei nod yw cydbwyso anghenion economaidd a chymdeithasol cymunedau gyda rhai ein hamgylchedd morol er mwyn sicrhau eu bod yn ffynnu eto. Yn ôl Y Comisiwn Ewropeaidd, mae’r economi las yn werth tua 5.4 miliwn o swyddi ac yn creu Gwerth Ychwanegol Crynswth o bron i €500 biliwn y flwyddyn ar draws Ewrop. Mae Cynllun Gweithredu’r Comisiwn ar gyfer Strategaeth Forol yn Ardal yr Iwerydd yn canolbwyntio’n gryf ar yr ‘economi las’ ac mae'n pennu blaenoriaethau morol ar gyfer 2013-2020, sy’n cynnwys agweddau fel ynni adnewyddadwy'r môr, pysgodfeydd a dyframaeth, ymchwil a buddsoddiad. Yn ystod y Pedwerydd Cynulliad, cynhaliodd y Pwyllgor Menter a Busnes ymchwiliad i Botensial yr Economi Forwrol yng Nghymru (adroddiad terfynol Chwefror 2016 (PDF: 952 KB)). Clywodd y Pwyllgor gan amrywiaeth o randdeiliaid, gan gynnwys Llywodraeth yr Iwerddon, am eu dull o gynllunio morol. Mae Harnessing Our Ocean Wealth – An Integrated Marine Plan for Ireland (PDF 2.05 MB), a gyhoeddwyd yn 2012, yn rhoi pwyslais cryf ar hybu'r economi morol ac mae’n cynnwys targedau fel cynyddu'r trosiant o economi’r cefnfor i fwy na €6.4 biliwn erbyn 2020. Un o brif ganfyddiadau'r Pwyllgor oedd y dylai Llywodraeth Cymru:
sicrhau bod Cynllun Morol Cymru yn darparu fframwaith cynhwysfawr a chyffredinol ar gyfer datblygu adnoddau morol Cymru a'i chymunedau arfordirol yn gynaliadwy. Dylai gynnwys amcanion a thargedau mesuradwy – gan gynnwys perfformiad economaidd – a dylid ei roi ar waith gan ddefnyddio dull 'Llywodraeth gyfan', wedi'i fodelu ar Gynllun Morol Integredig Iwerddon.
Mae amrywiaeth o ddiwydiannau morol yng Nghymru yn ceisio gwneud y gorau o'r cyfraniad y gall moroedd Cymru ei wneud i ddatblygu cynaliadwy. Mae Strategaeth Bwyd Môr Cymru (PDF 56 KB) yn strategaeth sy'n eiddo diwydiant ac sy’n cael ei harwain gan ddiwydiant, a gyhoeddwyd gan Seafish, sy'n ceisio cynnydd o 30 y cant yng nghynnyrch pysgodfeydd a dyframaeth erbyn 2025 a chynnydd o 10 y cant mewn cyflogaeth o fewn yr un amserlen. Gallai sectorau eraill, fel ynni adnewyddadwy’r môr, weld Cymru yn chwarae rhan flaenllaw yn fyd-eang o ran ynni morol. Ar hyn o bryd yng Nghymru, mae dau Barth Arddangos tonnau a ffrwd llanw, cytundebau gwely'r môr ar gyfer tri phrosiect tonnau a ffrwd llanw a chwmnïau fel Tidal Lagooon Power yn cynllunio prosiectau ynni môr-lynnoedd llanw sylweddol yng Nghymru, gan gynnwys Morlyn Llanw Bae Abertawe. Canfu gwaith gan y Celtic Seas Partnership (Prosiect a ariannwyd gan EU LIFE + dan arweiniad WWF) fod y Môr Celtaidd yn darparu swyddi ar gyfer 400,000 o bobl, gan wneud cyfraniad blynyddol i'r economi o tua £15 biliwn. Canfu ei waith ar dueddiadau yn y dyfodol dros yr ugain mlynedd nesaf y bydd y dyfroedd hyn yn brysurach, gan greu cystadleuaeth am le a heriau o ran sicrhau ein bod yn byw o fewn cyfyngiadau amgylcheddol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithredu dull sy'n seiliedig ar ecosystem o reoli'r amgylchedd morol. Er enghraifft, mae Cyfarwyddeb Fframwaith Strategaeth Forol yr UE (MSFD) yn ei gwneud yn ofynnol i sicrhau Statws Amgylcheddol Da (GES) erbyn 2020 ym moroedd Cymru. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru reoli moroedd Cymru ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Erthygl gan Wendy Dodds Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.   Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Making the Most of Marine (PDF, 209KB)