Y Lladdwr Distaw. Aelodau'r Cynulliad i drafod adroddiad canser yr ofari.

Cyhoeddwyd 23/03/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

23 Mawrth 2017 View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Canser yr ofari

Caiff canser yr ofari ei ddisgrifio'n aml fel 'y lladdwr distaw' oherwydd nad yw'r symptomau'n adnabyddus neu'n aml yn cael eu camgymryd, sy'n golygu bod y cyflwr fel arfer yn cael ei ddarganfod yn hwyr, pan fydd triniaeth lwyddiannus yn llawer anoddach. Canser yr ofari yw'r pedwerydd achos mwyaf cyffredin o farwolaethau o ganser ymhlith menywod yng Nghymru, gyda 238 o farwolaethau yn 2014. Trafododd Pwyllgor Deisebau y Cynulliad Cenedlaethol ddeiseb a gyflwynwyd gan Margaret Hutcheson, nyrs gofal lliniarol sydd wedi ymddeol, yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi sgrinio blynyddol ar gyfer canser yr ofari. Casglodd y ddeiseb 104 o lofnodion ar-lein. Ar 9 Chwefror 2017 cyhoeddodd y Pwyllgor Deisebau ei adroddiad. Bydd Aelodau'r Cynulliad yn trafod yr adroddiad yn y Cyfarfod Llawn ar 27 Mawrth 2017.

Adroddiad y Pwyllgor

Er nad oedd y Pwyllgor yn cefnogi uchelgais y deisebydd am raglen sgrinio genedlaethol yn defnyddio'r prawf gwaed CA125, roedd yn cytuno bod canfod cynnar yn bwysig, gan gydnabod arwyddocâd diagnosis cyn gynted â phosibl ar gyfer canser yr ofari. Clywodd y Pwyllgor, yn anffodus, fod llawer o achosion o ganser yr ofari yn cael diagnosis yn hwyr, sy'n golygu na fydd llawer o fenywod yn cael eu trin nes ei bod yn rhy hwyr, pan fydd llai o ddewisiadau iddynt o ran triniaeth. Dywedodd y Pwyllgor ei fod am weld gwelliannau o ran sgrinio i ganiatáu diagnosis cynnar o ganser yr ofari, ond daeth i'r casgliad nad oes prawf sgrinio digon dibynadwy ar hyn o bryd i'w ddefnyddio ar gyfer canser yr ofari:
Fe wnaeth y Pwyllgor gymryd tystiolaeth fanwl ar effeithiolrwydd y prawf gwaed CA125, ac ar ddulliau canfod posibl eraill, ond yn syml, nid oes digon o dystiolaeth ar hyn o bryd i brofi’n bendant y gellid arbed bywydau drwy gyflwyno rhaglen sgrinio flynyddol. Fodd bynnag, fe wnaeth argymell y dylid cadw llygad ar y posibilrwydd o raglen o'r fath.
Mae yna amryw dreialon yn edrych ar ffyrdd o atal a chanfod canser yr ofari yn gynharach.

Sgrinio canser

Mae sgrinio am ganser yn cynnwys profi pobl sy'n ymddangos yn iach am arwyddion a allai ddangos bod canser yn datblygu. Ar hyn o bryd, mae poblogaeth y DU yn cael eu sgrinio ar gyfer canser y fron, ceg y groth a’r coluddyn. Er mwyn gallu cynnig prawf sgrinio drwy'r GIG, mae angen profi bod y prawf yn gywir ac yn ddiogel. Mae astudiaethau yn mynd rhagddynt i ddod o hyd i brawf sgrinio canser yr ofari ar gyfer y boblogaeth gyffredinol, ond ni fydd prawf sgrinio ar gael yng Nghymru nac yn unrhyw ran o'r DU nes i'r gwaith hwn gael ei gwblhau. Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan yn glir na fydd yn cyflwyno rhaglen sgrinio canser yr ofari oni bai bod hyn yn cael ei argymell gan Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU, sy'n darparu cyngor annibynnol, arbenigol i holl Weinidogion y DU ynglŷn â sgrinio. Y prawf gwaed CA125 Caiff CA125 ei adnabod fel marciwr tiwmor ar gyfer canser yr ofari. Cemegyn sy'n cael ei ryddhau gan gelloedd canser sy'n cylchredeg yn y llif gwaed yw marciwr tiwmor. Mae menywod sydd â chanser yr ofari yn tueddu i fod â lefelau uwch o CA125 yn eu gwaed na menywod nad ydynt yn dioddef o ganser yr ofari. Ond gall lefel CA125 hefyd fod yn uwch am resymau eraill nad ydynt yn ymwneud â chanser. Felly nid yw'r prawf yn gwbl ddibynadwy. Gallai'r prawf gwaed CA125 ganfod canser yr ofari, ond mae ymchwil yn dangos nad yw'n ddigon cywir i gael ei ddefnyddio fel rhan o raglen sgrinio oherwydd y gallai canlyniadau positif hefyd fod o ganlyniad i gyflyrau eraill. Treial Cydweithredol y DU ar gyfer Sgrinio am Ganser yr Ofari (UKTOCS) Roedd y treial UKCTOCS, a ddechreuodd yn 2001, yn cynnwys 200,000 o fenywod rhwng 50 a 74 oed. Mae'n dreial ar hap lle caiff y menywod sy'n cymryd rhan eu dewis ar hap i gael eu sgrinio naill ai drwy brawf CA125 neu archwiliad uwchsain, neu i grŵp rheoli sy'n cael eu dilyn heb sgrinio. Cafodd canlyniadau'r treial UKCTOCS eu cyhoeddi ym mis Rhagfyr 2015. Roeddent yn nodi y gall sgrinio yn seiliedig ar brawf gwaed blynyddol helpu i leihau nifer y menywod sy'n marw o ganser yr ofari tua 20 y cant. Roedd y canlyniad yn debyg ar gyfer menywod a gafodd archwiliad uwchsain. Fodd bynnag, roedd y canlyniadau’n cynnwys 'bwlch hyder' mawr – maint yr ansicrwydd yn y canlyniad i bob diben. Roedd hyn oherwydd mai nifer fach o fenywod sydd wedi datblygu canser yr ofari ac wedi marw ohono hyd yn hyn yn y treial – tua 650 allan o 200,000 – ac mae’n golygu y gallai amrediad y budd posibl fod unrhyw le rhwng 0 a 40 y cant. Felly, daeth yr astudiaeth i'r casgliad bod angen rhagor o amser dilynol i sefydlu amcangyfrifon mwy penodol o ran faint o farwolaethau o ganser yr ofari y gellid eu hatal drwy sgrinio. O ganlyniad, bydd yn parhau i redeg am dair blynedd arall.

Argymhellion y Pwyllgor

Er i’r Pwyllgor ddod i'r casgliad na allai argymell cyflwyno sgrinio blynyddol ar gyfer canser yr ofari, gwnaeth dri argymhelliad:
  • Bod Llywodraeth Cymru yn cadw golwg ar y posibilrwydd o raglen sgrinio genedlaethol;
  • Dylid gwneud rhagor o waith gyda meddygon teulu i sicrhau bod menywod sydd â symptomau canser yr ofari yn cael eu hatgyfeirio am brofion priodol; a
  • Dylid gwneud rhagor i wella ymwybyddiaeth o ganser yr ofari gan gynnwys nodi symptomau cyffredin a rhoi cyngor ynghylch pryd y dylai pobl ofyn am gymorth meddygol.
Mae gwaith ymchwil yn cael ei wneud i ffyrdd gwell o sgrinio ar gyfer canser yr ofari. Y gobaith yw y bydd gwelliannau mewn profion sgrinio yn arwain yn y pen draw at gyfradd is o farwolaethau yn sgil canser yr ofari. Gallwch weld beth yw barn rhai o'r prif elusennau canser fel Ovarian Cancer Action, Cancer Research UK a Target Ovarian Cancer drwy fynd i dudalen y Pwyllgor Deisebau.
Erthygl gan Sarah Hatherley, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Y Lladdwr Distaw. Aelodau'r Cynulliad i drafod adroddiad canser yr ofari. (PDF, 159KB)