Cyhoeddiad newydd: y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) - Crynodeb o’r newidiadau a wnaed yng Nghyfnod 2

Cyhoeddwyd 27/03/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

27 Mawrth 2017 View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Gosodwyd y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) (‘y Bil’) gerbron y Cynulliad ar 12 Medi 2016. Cyflwynwyd y Bil yn y Cyfarfod Llawn gan Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, ar 13 Medi 2016. Y Bil hwn yw’r darn cyntaf o ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â threthi penodol i gael ei gyflwyno yn y Cynulliad. Mae’n cyflwyno darpariaethau ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir yng Nghymru, a fydd yn cymryd lle Treth Dir y Dreth Stamp ym mis Ebrill 2018. Mae'r ddogfen hon yn nodi rhai o'r prif newidiadau a wnaed i'r Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) (“y Bil”) yn ystod trafodion Cyfnod 2. Cynhelir trafodion Cyfnod 3 yn y Cyfarfod Llawn ar 28 Mawrth 2017 i ystyried gwelliannau i’r Bil (fel y’i diwygiwyd yng Nghyfnod 2). Y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) - Crynodeb o’r newidiadau a wnaed yng Nghyfnod 2 (PDF, 1117KB)
Erthygl gan Christian Tipples, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.