Deall allforion Cymru: golwg ar yr Ystadegau Masnach Rhanbarthol diweddaraf

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Wrth i’r wlad ymgodymu â beth fydd ffurf masnach yn y DU ar ôl gadael yr UE, mae ffocws cynyddol ar y sefyllfa bresennol o ran masnach Cymru. Adnodd defnyddiol i’n helpu i ddeall y siâp a maint o allforion a mewnforion Cymru yw’r Ystadegau Masnach Rhanbarthol a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi. Yn yr ystadegau hyn, caiff masnach gyda gwledydd y tu allan i’r DU ei dyrannu i wledydd a rhanbarthau’r DU.

Yn ddiweddar, cwblhaodd Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad ei ymchwiliad i ddyfodol amaethyddiaeth a pholisïau datblygu gwledig yng Nghymru. Roedd hyn yn ymchwilio i’r egwyddorion a ddylai fod yn sail i’r polisïau Cymreig newydd y bydd angen eu creu i ddisodli’r polisïau a bennir ar hyn o bryd gan yr Undeb Ewropeaidd.

Gan gofio’r uchod, mae’r blog hwn yn ymchwilio i rai o’r prif ffigurau ar gyfer allforion o Gymru, gan ganolbwyntio ar rai o’r ystadegau allweddol ar gyfer y sector amaethyddol.

Faint mae Cymru yn ei allforio, a ble mae’n mynd?

Mae’r inffograffeg canlynol yn dangos rhai o’r pwyntiau allweddol yn ymwneud ag allforion Cymru yn 2016.

Inffograffeg yn crynhoi ystadegau'r allforion o Gymru i wledydd y tu allan i'r DU.

Mae’r data ar gyfer y flwyddyn 2016. Mynegir masnach yn nhermau gwerth ariannol.

Caiff masnach ei dyrannu i ranbarthau yn y DU yn ôl y fethodoleg Ystadegau Masnach Rhanbarthol a drafodir yn fanylach isod.

Mae ‘heb ei dyrannu – anhysbys’ yn cynnwys y nwyddau hynny lle nad oes digon o fanylion yn hysbys er mwyn eu dyrannu i ranbarth. Mae ‘heb ei dyrannu – hysbys’ yn cynnwys nwyddau lle mae’r manylion llawn yn hysbys, ond lle mae’n afrealistig dyrannu hyn i ranbarth penodol.

Nid yw’r rhan ‘UE’ o allforion Cymru yn cynnwys rhanbarthau eraill y DU, gan fod ystadegau Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn gofnod o fasnach y DU â gwledydd y tu allan i’r DU.

Mae’r categorïau fel y’u diffinnir gan godau Dosbarthiad Masnach Ryngwladol Safonol y Cenhedloedd Unedig. Mae ‘cig’ yn cyfeirio at bob math o gig a pharatoad cig, gan gynnwys cig coch a gwyn.

Beth am amaethyddiaeth Cymru?

Mae’r data allforio uchod yn tynnu sylw at rôl o allforion yr UE yn y sector amaethyddol. Bu diddordeb arbennig yn nyfodol cig oen o Gymru ar ôl gadael yr UE, a dyfalu ynghylch a fydd cytundeb masnach newydd gyda Seland Newydd yn dod â chystadleuaeth galed gan gig oen o Seland Newydd.

Nid yw Ystadegau Masnach Rhanbarthol Cyllid a Thollau EM yn ddigon manwl i edrych ar gig oen yn benodol, ac nid ydynt yn cynnwys allforion o Gymru i weddill y DU. Fodd bynnag, mae Hybu Cig Cymru (HCC) wedi darparu amcangyfrifon ynghylch i ble y mae cig oen o Gymru yn mynd. HCC yw’r corff dan arweiniad y diwydiant sy’n gyfrifol am ddatblygu, marchnata a hyrwyddo cig coch o Gymru.

Inffograffeg yn dangos lle caiff cig oen o Gymru ei fwyta

O ran cig oen o Gymru sy’n cael ei allforio i’r UE, Ffrainc, yr Eidal, yr Almaen, Sbaen, yr Iseldiroedd, Gwlad Belg a Sgandinafia yw’r mewnforwyr mwyaf. Mae allforion y tu allan i’r UE yn gymharol fach, yn bennaf i’r Swistir, Canada, yr Emiradau Arabaidd Unedig a Hong Kong.

Mae amaethyddiaeth yn rhan hanfodol o lawer o gymunedau yng Nghymru. Yn 2015, roedd y ‘sector amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota’ yn cyfrif am 3% o gyflogaeth. Fodd bynnag, roedd y gyfran hon yn llawer uwch mewn rhai ardaloedd. Er enghraifft, y gyfran ym Mhowys oedd 16%, a’r gyfran yng Ngheredigion oedd 11%.

Sut y caiff masnach ei dyrannu i’r gwledydd datganoledig a rhanbarthau Lloegr?

Gwneir nifer o ragdybiaethau methodolegol i ddyrannu masnach i’r gwledydd datganoledig a rhanbarthau Lloegr. Ceir rhagor o fanylion ar y fethodoleg Ystadegau Masnach Rhanbarthol ar wefan Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi. Mae dau newid methodolegol diweddar wedi effeithio ar y ffigurau a gyhoeddwyd yn ddiweddar.

Gallai’r fod yn bwysig cadw’r newidiadau hyn mewn cof wrth ddefnyddio’r Ystadegau Masnach Rhanbarthol. Mae’n arbennig o bwysig wrth gymharu data o wahanol gyfnodau neu wahanol ffynonellau, oherwydd y gallai fod na fydd tueddiadau ar yr wyneb yn adlewyrchiad cywir o newidiadau gwirioneddol.

Daeth y newid cyntaf i rym ym mis Mai 2016 o ganlyniad i newidiadau deddfwriaethol ynghylch y ffordd y caiff nwyddau eu datgan i’r Tollau. Mae’n ymwneud â’r pwynt lle caiff nwyddau eu cofnodi – naill ai wrth iddynt fynd i mewn warws tollau (y sail flaenorol ‘Masnach Gyffredinol’), neu wrth iddynt adael (y sail ‘Masnach Arbennig’ sydd newydd ei mabwysiadu).

Mae nifer o newidiadau eraill a gyflwynwyd yn chwarter 3 2016 yn cynnwys ffordd newydd o ddyrannu masnach i ranbarthau. O dan y fethodoleg flaenorol, roedd y dyraniadau’n seiliedig ar leoliad y brif swyddfa. Mae’r fethodoleg newydd yn dyrannu masnach yn seiliedig ar gyfran y cyflogeion mewn rhanbarth penodol. Mae hyn yn lleihau’r ‘camwyriad prif swyddfa’, lle ceir tueddiad tuag at wledydd a rhanbarthau â nifer uchel o brif swyddfeydd cwmnïau.

Mae gwefan Llywodraeth Cymru yn nodi bod newydd y fethodoleg wedi cael effaith fawr ar ystadegau masnach Cymru. Gan ddefnyddio’r hen fethodoleg, aeth 39.2% o allforion Cymru i’r UE yn y pedwar chwarter sy’n dod i ben ym Mehefin 2016. O dan y fethodoleg newydd, aeth 67.4% o allforion Cymru i’r UE dros yr un cyfnod.


Erthygl gan Jeni Spragg, David Millett a Gareth Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae’r Gwasanaeth Ymchwil yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Jeni Spragg gan Gyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol, a alluogodd i’r erthygl hon gael ei chwblhau.
Ffynhonnell: Ystadegau Masnach Rhanbarthol CThEM

Ffynhonnell: HCC

 

Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Deall allforion Cymru: golwg ar yr Ystadegau Masnach Rhanbarthol diweddaraf (PDF, 366KB)