Tai

Cartrefi Clyd i Gymru

Gyda nifer o'r cyflenwyr ynni mawr yn cyhoeddi cynnydd yng nghost trydan a nwy yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae tlodi tanwydd yn ôl yn y penawdau. Er na all Llywodraeth Cymru ddylanwadu ar gost ynni na gwneud i bobl newid cyflenwyr, fe all, ac mae yn cyflwyno rhaglenni sy'n ceisio gwella effeithlonrwydd ynni, lleihau tlodi tanwydd a mynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd.

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Gyda nifer o’r cyflenwyr ynni mawr yn cyhoeddi cynnydd yng nghost trydan a nwy yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae tlodi tanwydd yn ôl yn y penawdau. Er na all Llywodraeth Cymru ddylanwadu ar gost ynni na gwneud i bobl newid cyflenwyr, fe all, ac mae yn cyflwyno rhaglenni sy’n ceisio gwella effeithlonrwydd ynni, lleihau tlodi tanwydd a mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.

Beth yw tlodi tanwydd?

Tai teras yng Nghymoedd De Cymru

Mae person yn byw mewn tlodi tanwydd os oes angen iddo wario mwy na 10% o’i incwm cartref ar gostau ynni i wresogi ei gartref i safon foddhaol, ac mewn tlodi tanwydd difrifol os oes rhaid iddo wario 20% neu fwy. Mae Llywodraeth y DU wedi mabwysiadu gwahanol ddiffiniad o dlodi tanwydd  yn seiliedig ar y dangosydd Incwm Isel Costau Uchel (LIHC), ond dim ond yn Lloegr y mae hwn yn cael ei ddefnyddio.

Yn 2016, roedd Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif bod tua 23% o gartrefi yng Nghymru yn byw mewn tlodi tanwydd, sy’n cyfateb i tua 291,000 o gartrefi.

Y Rhaglen Cartrefi Clyd

Ym mis Ionawr cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fuddsoddiad o £40 miliwn yn ychwanegol dros y pedair blynedd nesaf i ‘wneud hyd at 25,000 o gartrefi ledled Cymru’n fwy ynni effeithiol ac i roi hwb i fentrau twf gwyrdd eraill’.

Mae Rhaglen Cartrefi Clyd   Llywodraeth Cymru, sy’n yn cynnwys y cynlluniau Nyth ac Arbed, yn darparu cyllid ar gyfer gwelliannau effeithlonrwydd ynni i gartrefi incwm isel a’r rhai sy’n byw mewn cymunedau difreintiedig ledled Cymru.

Mae Nyth yn gynllun a arweinir gan alw sy’n darparu cyngor a chyllid i helpu i wella effeithlonrwydd ynni a lleihau tlodi tanwydd. Dechreuodd yn 2011 a chymerodd le’r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref (HEES).  Nwy Prydain sy’n rheoli’r cynllun Nyth a chaiff rhai gwasanaethau eu darparu gan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni.  Mae gwelliannau effeithlonrwydd ynni am ddim yn canolbwyntio ar y cartrefi mwyaf aneffeithlon o ran ynni, lle mae pobl sy’n derbyn budd-daliadau sy’n dibynnu ar brawf modd yn byw. Mae’r contract ar gyfer y cynllun Nyth yn dod i ben ar 31 Awst 2017, a chafwyd ymgynghoriad cyhoeddus  ynghylch cynigion ar gyfer ei olynu.

Mae Arbed yn gynllun sy’n seiliedig ar ardal, sy’n darparu mesurau effeithlonrwydd ynni drwy brosiectau lleol mewn cymunedau difreintiedig.   Caiff rhai o’r prosiectau o dan y cynllun eu darparu gan reolwyr cynllun wedi’u caffael, caiff eraill eu darparu drwy awdurdodau lleol.  Mae’r mathau o welliannau y gellir eu cyflawni o dan Arbed yn cynnwys insiwleiddio waliau solet ac uwchraddio boeleri a systemau gwresogi.  Mae Arbed wedi defnyddio cyllid sylweddol yr Undeb Ewropeaidd.

Strategaeth Llywodraeth Cymru

Mae gan Lywodraeth Cymru rwymedigaeth statudol i ddileu tlodi tanwydd, cyn belled ag y mae’n rhesymol ymarferol, ym mhob cartref yng Nghymru erbyn 2018. Mae’r targed hwn yn cael ei nodi yng nghyhoeddiad 2003 Llywodraeth Cymru, Ymrwymiad Tlodi Tanwydd i Gymru. Roedd yn un o ofynion Deddf Cartrefi Cynnes ac Arbed Ynni 2000 bod Llywodraeth Cymru yn pennu targed.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Strategaeth Tlodi Tanwydd yng Ngorffennaf 2010. Mae’r strategaeth yn disgrifio beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i’r afael â thlodi tanwydd.

Mae strategaeth effeithlonrwydd ynni Llywodraeth Cymru ar gyfer y cyfnod 2016-2026, Strategaeth Effeithlonrwydd Ynni Cymru  ,  yn mynd i’r afael â fforddiadwyedd, sicrwydd cyflenwad ynni a’r angen am ddatgarboneiddio, yn ogystal â chanolbwyntio ar dwf economaidd sy’n gysylltiedig â swyddi a sgiliau ‘gwyrdd’.  Mae’r strategaeth yn pwysleisio bod gwella effeithlonrwydd ynni yn rhan allweddol o gyflawni’r nodau llesiant a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. O dan y Ddeddf, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyfres o ddangosyddion cenedlaethol sydd wedi’u cynllunio i fesur cynnydd tuag at gyflawni’r saith nod llesiant. Mae un o’r dangosyddion yn ymwneud ag effeithlonrwydd ynni, ac mae’n mesur canran yr anheddau â pherfformiad ynni digonol.


Erthygl gan Chloe Corbyn a Jonathan Baxter, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Llun o Flickr gan Jeremy Segrott. Dan drwydded Creative Commons.

 

Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Cartrefi Clyd i Gymru (PDF, 155KB)