Cyhoeddiad Newydd: Y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) – Crynodeb o'r Fil

Cyhoeddwyd 31/03/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

31 Mawrth 2017 View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Cyflwynwyd y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) gan Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, ar 12 Rhagfyr 2016. Mae Llywodraeth Cymru yn dweud yn bendant bod angen newid. Mae'n dweud bod y Bil hwn yn 'gweddnewid' system 'nad yw bellach yn addas i'w diben'. Mae'r briff hwn gan y Gwasanaeth Ymchwil yn crynhoi darpariaethau'r Bil a'r cefndir o ran ei gyflwyno. Mae hefyd yn rhoi trosolwg o'r Cod drafft gweithredol y mae Llywodraeth Cymru wedi ei gyflwyno i helpu gyda gwaith craffu, gan dynnu sylw at bwyntiau allweddol i ddeall y Bil. Mae'r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) yn cynnig gosod system ddiwygiedig yn seiliedig ar Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn lle'r fframwaith Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) presennol. Mae'r Bil yn darparu ar gyfer Cynlluniau Datblygu Unigol statudol cyffredinol i bob plentyn a pherson ifanc ag ADY. Byddai hyn yn rhoi terfyn ar y gwahaniaeth presennol rhwng ymyriadau a arweinir gan yr ysgol a datganiadau a gyhoeddir gan yr awdurdod lleol, ac yn integreiddio'r trefniadau deddfwriaethol ar wahân sy'n bodoli ar gyfer disgyblion mewn ysgolion a myfyrwyr ôl-16 mewn colegau. Mae'r Bil hefyd yn ceisio gwella cydweithio rhwng awdurdodau lleol a byrddau iechyd, yn ogystal â sefydlu system decach a mwy tryloyw sy'n rhoi mwy o bwyslais ar osgoi anghytundeb a datrys anghydfod. Y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) – Crynodeb o'r Fil (PDF, 3,233KB)
Erthygl gan Michael Dauncey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.