Absenoldeb disgyblion ar gyfer gwyliau yn ystod tymor yr ysgol

Cyhoeddwyd 26/04/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

26 Ebrill 2017 View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Yn dilyn penderfyniad diweddar gan y Goruchaf Lys, mae'r erthygl hon yn ceisio egluro'r sefyllfa gyfreithiol yng Nghymru mewn cysylltiad ag absenoldeb disgyblion o'r ysgol yn ystod tymor yr ysgol oherwydd gwyliau teuluol. Mae dyfarniad yr achos yn berthnasol i Gymru yn ogystal â Lloegr ond nid yw'n newid y sefyllfa yma.

Dyfarniad y Goruchaf Lys

Fis diwethaf (6 Ebrill 2017), dyfarnodd y Goruchaf Lys mai pennaeth ysgol, yn hytrach na rhiant disgybl, sydd i benderfynu beth yw ‘presenoldeb rheolaidd’ yn yr ysgol. Mae hyn yn cadarnhau bod angen i riant gael caniatâd y pennaeth i dynnu eu plentyn o'r ysgol ar gyfer gwyliau teuluol. Mae Adran 444 o Ddeddf Addysg 1996 yn ei gwneud yn drosedd i riant fethu â sicrhau bod eu plentyn (o oed ysgol gorfodol) yn mynychu ysgol yn rheolaidd. Roedd yr achos a gymerwyd i'r Goruchaf Lys gan Gyngor Ynys Wyth, a gafodd ei gefnogi gan yr Adran Addysg yn Lloegr, yn dipyn o ‘achos prawf’ ac mae'n cadarnhau'r sefyllfa gyfreithiol yng Nghymru a Lloegr. Mae'r dyfarniad yn cadarnhau bod ‘presenoldeb rheolaidd’ yn golygu yn unol â'r rheolau a ragnodir gan yr ysgol. Fodd bynnag, nid yw'n newid y sefyllfa yng Nghymru lle mae rheoliadau eisoes yn pennu beth a ganiateir.

Crynodeb o'r sefyllfa yng Nghymru

O dan adran 444 o Ddeddf 1996, nid yw methiant rhieni i sicrhau bod eu plentyn yn mynychu ysgol yn rheolaidd yn drosedd os mai'r rheswm dros absenoldeb y plentyn yw ‘absenoldeb gwyliau’. Yng Nghymru, yn ogystal â Lloegr, dim ond person sydd wedi'i awdurdodi gan y corff llywodraethu neu berchennog yr ysgol (y pennaeth fel arfer) a all ganiatáu absenoldeb gwyliau. Fodd bynnag, mae Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 yn rhoi disgresiwn i benaethiaid ysgolion yng Nghymru awdurdodi hyd at ddeg diwrnod ysgol o absenoldeb mewn unrhyw flwyddyn ysgol, ar ôl cais gan rieni, at ddibenion gwyliau. Eglurir hyn yng nghanllaw Llywodraeth Cymru, Cynnwys a Chynorthwyo Disgyblion (PDF 2.6MB) (gweler paragraffau 5.2.27-5.2.31). Fodd bynnag, yn ddiweddar bu pwyslais cynyddol gan Lywodraeth Cymru na ddylai rieni ddisgwyl y bydd ysgolion yn cytuno i wyliau teuluol yn ystod y tymor. Mae unrhyw absenoldeb gwyliau yn amodol ar ganiatâd y pennaeth ac felly nid oes gan rieni unrhyw hawl gyfreithiol i dynnu eu plentyn allan o'r ysgol. Os byddant yn gwneud hynny heb ganiatâd y pennaeth, gall hyn arwain at roi hysbysiadau cosb i rieni yng Nghymru o dan Reoliadau Addysg (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2013. Mae’r ystadegau ar absenoldeb disgyblion yng Nghymru ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Eglurhad ym mis Ionawr 2016

Ym mis Ionawr 2016, ysgrifennodd Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar y pryd, at bob awdurdod lleol a phennaeth (PDF 260KB) i egluro bod gan benaethiaid ddisgresiwn i gymeradwyo hyd at ddeg diwrnod o wyliau yn ystod y tymor ym mhob blwyddyn ysgol. Roedd y Gweinidog yn teimlo bod angen iddo egluro hyn am ei fod yn ‘pryderu’n benodol am y ffaith bod canllawiau rhai awdurdodau lleol neu gonsortia yn nodi na ddylai penaethiaid arfer eu disgresiwn ac y dylent, yn hytrach, wrthod pob cais i ganiatáu i ddisgybl fod yn absennol yn ystod y tymor fel mater o drefn ni waeth beth yw’r amgylchiadau dros wneud y cais’. Amlinellodd y Gweinidog ei farn y dylai penaethiaid ymarfer eu disgresiwn wrth ddelio ag absenoldeb hirdymor ac na ddylai eu polisïau ‘olygu na ellir ystyried achosion unigol ar sail eu teilyngdod’. Fodd bynnag, mae hefyd yn honni mai penaethiaid sy'n ‘adnabod y disgybl a’r teulu orau ac am hynny [nhw] sydd yn y sefyllfa orau i wneud y penderfyniad hwnnw [ynghylch y camau gweithredu i'w cymryd mewn achos o absenoldeb yn ystod y tymor]’.

Gwahaniaeth i'r sefyllfa yn Lloegr

Mae'r sefyllfa yn wahanol i Loegr lle nad oes gan benaethiaid yn Lloegr unrhyw ddisgresiwn i ganiatáu i ddisgyblion gymryd gwyliau yn ystod y tymor, heblaw am mewn amgylchiadau eithriadol. Mae pob absenoldeb o'r fath yn debygol o gael ei gofnodi fel absenoldeb heb awdurdod a bydd rhieni yn agored i gael eu herlyn os na fyddant yn barod i dalu cosb benodedig. Yn yr achos gerbron y Goruchaf Lys mae hyn yn golygu mai'r unig ffordd y gallai'r rhiant osgoi erlyniad am beidio â thalu oedd dadlau nad oedd absenoldeb o bum diwrnod yn golygu nad oedd ei ferch yn mynychu'r ysgol yn rheolaidd. Mae erthygl ar flog Llyfrgell Tŷ'r Cyffredin yn egluro'r sefyllfa yn Lloegr a sut gwnaeth Llywodraeth y Glymblaid yn 2013 dynhau'r rheolau presennol i ddileu cyfeiriadau at wyliau teuluol ac absenoldeb estynedig, yn ogystal â dileu'r trothwy statudol o ddeg diwrnod ysgol.

Canllawiau Llywodraeth Cymru

Mae Canllaw Cynnwys a Chynorthwyo Disgyblion (PDF 2.6MB) (2016) Llywodraeth Cymru yn rhoi peth cyngor ar sut y dylai penaethiaid ddefnyddio eu disgresiwn o ran p'un a ddylid awdurdodi absenoldeb disgyblion:
Dylai pennaeth ystyried amgylchiadau pob achos yn unigol. Ystyrir nifer o agweddau, gan gynnwys yr ade6g o’r flwyddyn, hyd a diben y gwyliau, yr effaith ar barhad dysgu, amser arholiadau neu brofion, amgylchiadau’r teulu a dymuniadau rhieni/gofalwyr, yn ogystal â phresenoldeb a chyrhaeddiad cyffredinol y disgybl. [Pwyslais y Gwasanaeth Ymchwil]
Mae'r canllawiau hefyd yn dweud:
Os bydd pennaeth yn penderfynu peidio â chaniatáu cais rhiant/gofalwr am wyliau yn ystod y tymor, ond bod y rhiant/gofalwr yn mynd â’r plentyn ar wyliau pa un bynnag, bydd yr absenoldeb yn cael ei ystyried yn absenoldeb ‘anawdurdodedig’. (…)
Os byddant yn methu â sicrhau bod eu plentyn yn mynychu'r ysgol yn rheolaidd, h.y. os oes absenoldeb ‘anawdurdodedig’ rheolaidd, bydd rhieni yn wynebu hysbysiad cosb o dan Reoliadau Addysg (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2013. Mae hyn gyfystyr â dirwy o £60 os caiff ei dalu o fewn 28 diwrnod, sy'n codi i £120 ar ôl hynny os caiff ei dalu o fewn 42 diwrnod i gyhoeddi'r hysbysiad. Mae canllaw arall Llywodraeth Cymru, Fframwaith Presenoldeb ar gyfer Cymru Gyfan (PDF 537KB) (2011), yn nodi y dylai ysgolion ganiatáu absenoldeb gwyliau yn ofalus:
Ni ddylai rhieni ddisgwyl, na chael eu harwain i ddisgwyl, y bydd ysgolion yn cytuno i wyliau teuluol yn ystod y tymor. Efallai y bydd angen i ysgolion atgoffa rhieni o hyn o bryd i’w gilydd (gweler adran 2). Dylai staff yr ysgol ystyried pob cais yn annibynnol - nid yw polisïau “cymeradwyo cyffredinol” yn dderbyniol. (…) Dim ond o dan amgylchiadau eithriadol y dylid caniatáu absenoldeb am fwy na phythefnos. Dylai ysgolion drafod gyda rhieni pam mae absenoldeb o’r fath yn angenrheidiol. [Pwyslais y Gwasanaeth Ymchwil]
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi rhoi rhai atebion i Gwestiynau Cyffredin ar ei gwefan.
Erthygl gan Michael Dauncey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Llun: o Pixabay. Dan drwydded Creative Commons.   Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Absenoldeb disgyblion ar gyfer gwyliau yn ystod tymor yr ysgol (PDF, 183KB)