Cyhoeddiad newydd: Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) - Crynodeb o’r newidiadau a wnaed yng Nghyfnod 2

Cyhoeddwyd 04/05/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

04 Mai 2017 View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Bu'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn craffu ar Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) yng Nghyfnod 2 ar 23 Mawrth 2017. Derbyniwyd pob un o'r gwelliannau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru. Er na dderbyniwyd yr un o welliannau'r gwrthbleidiau, dywedodd Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol y byddai'n gweithio gydag Aelodau ac yn ystyried cyflwyno rhagor o welliannau mewn sawl maes yng Nghyfnod 3. Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) - Crynodeb o’r newidiadau a wnaed yng Nghyfnod 2 PDF, 510KB)
Erthygl gan Philippa Watkins, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.