Addasiadau rhesymol ar gyfer pobl anabl - sicrwydd cyfreithiol neu realiti ymarferol?

Cyhoeddwyd 19/05/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

19 Mai 2017 View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg O dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb, mae'n ofynnol i gwmnïau cyhoeddus a phreifat wneud addasiadau rhesymol i sicrhau y gall pobl anabl ddefnyddio eu gwasanaethau.

Deddf Cydraddoldeb 2010

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gosod dyletswydd ar ddarparwyr nwyddau, gwasanaethau a chyfleusterau i wneud addasiadau rhesymol er mwyn osgoi sefyllfaoedd lle bydd person anabl o dan 'anfantais sylweddol' o'i gymharu â pherson nad yw'n anabl wrth geisio cael mynediad at wasanaethau a chyfleusterau.

Beth yw addasiadau rhesymol?

Mae gwefan Cyngor ar Bopeth yn rhoi enghreifftiau o addasiadau rhesymol:
  • Darparu ramp neu lifft;
  • Darparu dolen sain gludadwy ar gyfer pobl â chymhorthion clyw; a
  • Darparu gwybodaeth mewn fformatau amgen, fel Braille.
  • Nid yw Deddf Cydraddoldeb 2010 yn rhagnodi beth fydd addasiad rhesymol mewn amgylchiadau penodol. Felly, sut y gwneir penderfyniad ynglyn â beth yw addasiad rhesymol mewn unrhyw sefyllfa benodol?
Ym mis Ionawr, gwnaeth Goruchaf Lys y Deyrnas Unedig ddyfarniad mewn achos o'r fath. FirstGroup Plc v Paulley Ceisiodd Doug Paulley, defnyddiwr cadair olwyn, deithio ar fws ym mis Chwefror 2012. Roedd arwydd wedi'i osod mewn lle ar y bws a oedd yn cynnwys llun o gadair olwyn a neges yn gofyn i bobl roi'r sedd i ddefnyddiwr cadair olwyn yn ôl yr angen. Pan geisiodd Mr Paulley fynd ar y bws, roedd y lle hwn yn cael ei ddefnyddio gan fenyw â phlentyn a oedd yn cysgu mewn cadair wthio. Gofynnodd y gyrrwr iddi blygu'r gadair wthio a symud, ond fe wrthododd hi, gan ddweud nad oedd yn bosibl iddi blygu'r gadair wthio. O ganlyniad, bu gofyn i Mr Paulley aros am y bws nesaf. Yn dilyn y digwyddiad hwn, penderfynodd Mr Paulley ddwyn achos yn erbyn FirstGroup am wahaniaethu'n anghyfreithlon yn ei erbyn ar sail ei anabledd. Honnodd fod FirstGroup wedi methu â gwneud 'addasiadau rhesymol' i'w bolisïau, fel sy'n ofynnol o dan Adran 29(2) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Yr achos cychwynnol

Yn gyntaf, canfu'r llys fod FirstGroup yn gweithredu polisi 'cyntaf i'r felin', sef bod cais yn cael ei wneud i unrhyw berson nad yw'n ddefnyddiwr cadair olwyn ond sy'n defnyddio'r lle sydd wedi'i neilltuo ar y bws ar gyfer cadeiriau olwyn i symud, ond os oedd y cais hwnnw'n cael ei wrthod, nid oedd camau pellach yn cael eu cymryd. Daeth y Cofiadur i'r casgliad bod y polisi hwn yn rhoi Mr Paulley a defnyddwyr cadair olwyn eraill o dan anfantais sylweddol o gymharu â theithwyr nad ydyn nhw’n anabl.

Y Llys Apêl

Yn y Llys Apêl, cafodd apêl FirstGroup ei ganiatáu yn unfrydol. Dyfarnodd y llys nad oedd yn rhesymol dyfarnu y dylai FirstGroup addasu ei bolisi fel bod yn rhaid i yrwyr sicrhau bod person nad yw'n ddefnyddiwr cadair olwyn yn symud o le sydd wedi'i neilltuo pan fo'i angen ar berson mewn cadair olwyn, yn hytrach na gwneud cais iddo wneud hynny yn unig. Yn ogystal, dyfarnodd y llys nad oedd gorfodi'r gofyniad hwnnw'n bendant, a hynny gan ddefnyddio'r cam eithaf o dynnu person oddi ar y bws, yn gam rhesymol.

Goruchaf Lys y DU

Caniataodd y Goruchaf Lys apêl Mr Paulley yn unfrydol, ond dim ond i'r graddau bod polisi FirstGroup, sef ei bod yn ofynnol i yrrwr ofyn i berson nad yw'n ddefnyddiwr cadair olwyn symud o le sydd wedi'i neilltuo heb gymryd unrhyw gamau pellach, heb gyfiawnhad. Os yw gyrrwr sydd wedi gwneud cais o'r fath yn dod i'r casgliad bod gwrthod y cais hwnnw yn weithred afresymol, dylai ef neu hi ystyried cymryd camau pellach i ddarbwyllo'r person nad yw'n ddefnyddiwr cadair olwyn i symud o'r lle sydd wedi'i neilltuo. Fodd bynnag, daeth y llys i'r casgliad y byddai cael rheol absoliwt - neu hyd yn oed rheol amodol - i'r perwyl bod yn rhaid i unrhyw berson nad yw'n ddefnyddiwr cadair olwyn symud o le sydd wedi'i neilltuo yn afresymol.

Ymarferoldeb neu sicrwydd?

Fel y gwelir o ddyfarniadau'r llysoedd, ceir anghytundeb sylweddol ynglyn â’r hyn sy'n rhesymol mewn unrhyw sefyllfa benodol. Nod y Goruchaf Lys wrth wneud penderfyniad oedd rhoi eglurder. Fodd bynnag, ymddengys fod y dyfarniad yn tynnu sylw at bwysigrwydd realiti ymarferol dros sicrwydd cyfreithiol. A wnaiff hyn arwain at bwyslais cynyddol ar bolisïau a chanllawiau, yn hytrach na deddfwriaeth?

Dull gweithredu Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag addasiadau rhesymol ar gyfer pobl anabl

Mae Fframwaith Gweithredu Llywodraeth Cymru ar Fyw'n Annibynnol yn rhoi effaith i'r 'model cymdeithasol o anabledd', sy'n cydnabod bod pobl yn anabl yn sgil y rhwystrau a grëir gan gymdeithas. Egwyddorion arweiniol y polisi yw:
  • dileu'r rhwystrau hyn a chreu cymdeithas sy'n galluogi; a
  • hyrwyddo hawliau a chynhwysiant llawn pobl anabl.
Mae hefyd yn nodi sut y mae Llywodraeth Cymru yn datblygu'r gwaith o weithredu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau (UNCRPD), sy'n cynnwys Erthygl 19: yr hawl i fyw'n annibynnol, sy'n dweud:
  • bod gan bobl anabl yr un hawl i fyw a chymryd rhan yn y gymuned;
  • bod gan bobl anabl yr hawl i'r un dewis a rheolaeth â phobl nad ydyn nhw’n anabl; ac
  • y dylai'r Llywodraeth wneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau bod pobl anabl yn mwynhau'r hawliau hyn.
Gan edrych yn benodol ar hygyrchedd a chludiant cyhoeddus, mae Fframwaith Gweithredu Llywodraeth Cymru ar Fyw'n Annibynnol – Dulliau Mesur Canlyniadau 2014-15 yn pwysleisio pwysigrwydd argaeledd a hygyrchedd cludiant cyhoeddus, gyda'r nod o sicrhau y gall pobl anabl gyrraedd y gwaith, cymryd rhan mewn digwyddiadau teuluol a chymunedol, a chael mynediad at wasanaethau hamdden, diwylliannol a chyhoeddus. Mae'n egluro hefyd fod Arolwg Cenedlaethol Cymru 2013-14 wedi holi ymatebwyr ynglyn â lefelau boddhad mewn perthynas â'r system gludiant (ar raddfa o 1-10, gyda sgôr o 10 yn dynodi'r ymateb mwyaf bodlon). Dengys yr ymatebion a gafwyd i'r cwestiwn hwnnw (a oedd yn cwmpasu cludiant cyhoeddus a phreifat, yn ogystal ag elfennau o'r seilwaith fel llwybrau troed, ffyrdd a llwybrau beicio) fod 39% o oedolion anabl wedi rhoi sgôr uchel (7-10) ar gyfer y system gludiant (o gymharu â 46% o oedolion nad oedden nhw’n anabl). Ar gyfartaledd, y sgôr a roddwyd ar gyfer y system gludiant oedd 5.7 (5.9 i ymatebwyr nad oedden nhw’n anabl). Mae hyn yn awgrymu bod lle i wella'r sefyllfa yn ymarferol, a hynny er mwyn sicrhau bod pobl anabl yn cael mynediad at wasanaethau cludiant, a chludiant cyhoeddus yn benodol. Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio gwneud gwelliannau o'r fath drwy gyflawni ei Hamcanion Cydraddoldeb 2016-2020. Mae'r rhain yn cynnwys:
  • Gwneud anghenion, hawliau a chyfraniadau pobl â nodweddion gwarchodedig yn ganolog i’r broses o ddylunio a darparu’r holl wasanaethau cyhoeddus, yn enwedig gwasanaethau iechyd ac iechyd meddwl, addysg, tai, gwasanaethau cymdeithasol a chludiant. Ac, yn benodol, sicrhau cymorth a mynd i’r afael â rhwystrau i alluogi pobl anabl i fwynhau eu hawl i fyw’n annibynnol a bod â llais, dewis a rheolaeth yn eu bywydau.
Mae'r adroddiad blynyddol diweddaraf am gydraddoldeb yn amlinellu'r cynnydd a wnaed tuag at yr amcan hwn, sy'n cynnwys cyfres o “ganlyniadau gwirfoddol ynghylch ansawdd bysiau y bydd angen i weithredwyr bysiau eu darparu er mwyn cael y Grant Cymorth i Wasanaethau Bysiau o 1 Ebrill 2017 ymlaen”. Gall polisïau Llywodraeth Cymru, dyfarniadau gan y llysoedd neu newidiadau i ddeddfwriaeth wella'r sefyllfa o ran yr addasiadau rhesymol a wneir i alluogi pobl anabl i gael mynediad at gludiant cyhoeddus.
Erthygl gan Megan Jones, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Llun o Flickr gan Shark Attacks. Dan drwydded Creative Commons.   Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Addasiadau rhesymol ar gyfer pobl anabl - sicrwydd cyfreithiol neu realiti ymarferol? (PDF, 263KB)