Cyhoeddiad newydd: Ynni Carbon Isel yng Nghymru

Cyhoeddwyd 22/05/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Y papur briffio (PDF, 1.74MB) ymchwil hwn yw'r cyntaf mewn cyfres o bapurau briffio polisi ar ynni carbon isel yng Nghymru. Mae'n cyflwyno'r cyd-destun cenedlaethol a byd-eang ar gyfer ynni carbon isel mewn perthynas â'r trilema ynni, ac yn amlinellu'r tirlun polisi yn Ewrop, y DU a Chymru. Bydd sesiynau briffio dilynol yn rhoi crynodeb o ystadegau ynni carbon isel yng Nghymru a rôl ynni carbon isel mewn trydan, gwres a thrafnidiaeth.

Mae'r Gwasanaeth Ymchwil yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Jeni Spragg gan Gyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol, a alluogodd i'r papur briffio hwn gael ei gwblhau.


Erthygl gan Sean Evans, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.