Asesu ar gyfer dysgu neu atebolrwydd?

Cyhoeddwyd 23/05/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Mae'r erthygl hon yn rhoi rhywfaint o wybodaeth gefndir ar gyfer datganiad Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yng Nghyfarfod Llawn dydd Mercher (24 Mai, 2017) o dan y teitl 'Asesu ar gyfer Dysgu - dull gwahanol yng Nghymru'.

Mae asesu ar gyfer dysgu yn cyfeirio at ddefnyddio asesu yn barhaus fel elfen graidd o addysgu, a elwir hefyd yn asesu ffurfiannol, yn hytrach nag asesu disgyblion ar ddiwedd cyfnod o ddysgu, er enghraifft Cyfnod Allweddol, a elwir yn asesu crynodol. Felly, defnyddir technegau asesu ar gyfer dysgu drwy raglen astudio benbaladr yn hytrach nag ar y diwedd yn unig.

Nid ydynt yn newydd ym myd addysg yng Nghymru. Yn ôl yn 2010, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ar y pryd ganllawiau am sut i ddatblygu meddwl ac asesu ar gyfer dysgu yn yr ystafell ddosbarth (PDF 1.75MB); yno, disgrifir asesu ar gyfer dysgu fel a ganlyn:

Gellir defnyddio adnoddau asesu ar gyfer dysgu i ddarganfod ble mae'r dysgwr arni ar hyn o bryd, symud y dysgwr tuag at ei gam nesaf (PDP), gweithredu fel gwiriadau ar hyd y daith tuag at gyrraedd y cam nesaf, a darganfod a yw'r camau nesaf wedi cael eu cyrraedd.

Yn hytrach na chyfrannu at werthuso system gyfan fesul ysgol yn ôl mesurau perfformiad ac atebolrwydd, mae defnyddio asesu yn bennaf i lywio'r gwaith addysgu ac i fod o fudd uniongyrchol i'r dysgwr sy'n cael ei asesu yn gynyddol wedi ennill tir ym maes polisi dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.

Yr OECD a Donaldson

Mae asesu yn cael ei ddiwygio yng Nghymru ar hyn o bryd. Asesu oedd testun adolygiad yr Athro Graham Donaldson, Dyfodol llwyddiannus (PDF 1.53MB) (Mawrth 2015), ochr yn ochr â'r cwricwlwm i raddau mwy. O'r 68 argymhelliad yn adroddiad yr Athro Donaldson, mae a wnelo 19 ohonynt ag asesu (mae'r rhain ar dudalennau 116-117 o Dyfodol llwyddiannus).

Fel yn achos y cwricwlwm, roedd yr Athro Donaldson yn glir ynghylch yr angen am newid, gan ddweud mai 'anfodlonrwydd ar y trefniadau asesu presennol oedd un o’r negeseuon cryfaf a gawsom' yn ystod yr adolygiad. Roedd Llywodraeth Cymru eisoes wedi cydnabod bod yn ddryslyd ac nad ydynt bellach yn addas at y diben.

Gwnaeth yr Athro Donaldson gyfanswm o 19 argymhelliad ynghylch asesu mewn naw maes newid. Mae'r rhain yn cynnwys asesu beth sy'n bwysig a bod yn glir ynghylch y rhesymau dros wneud hynny, gan alinio asesu yn agos â dibenion y cwricwlwm. Gweler ein herthygl o fis Mawrth 2015 am yr hyn a oedd gan yr Athro Donaldson i'w ddweud am asesu.

Cytunodd Adolygiad Donaldson â chasgliad yr OECD (yn ei Adolygiad yn 2014 (PDF 3.57MB)) y dylai asesu gael ei ddefnyddio yn bennaf i lywio dysgu, a dylid ei gyfeirio tuag at wella ysgolion yn hytrach nag atebolrwydd a chymharu perfformiad ysgolion. Argymhellodd yr Athro Donaldson na ddylai asesiadau gan athrawon gael eu hadrodd i Lywodraeth Cymru mwyach; dywedodd y dylent yn lle hynny fonitro perfformiad mewn agweddau allweddol ar y cwricwlwm trwy brofion blynyddol ar sail samplu.

Mae argymhellion yr Athro Donaldson yn cynnwys:

  • Dylai’r trefniadau ar gyfer asesu roi blaenoriaeth i’w rôl ffurfiannol mewn addysgu a dysgu (Argymhelliad 37).
  • Dylai asesu gan athrawon, sy’n caniatáu asesu ystod eang o ddysgu, barhau’n brif gyfrwng ar gyfer asesu cyn ymgeisio am gymwysterau (Argymhelliad 39).
  • Dylai Llywodraeth Cymru sefydlu fframwaith asesu a gwerthuso cynhwysfawr i weithredu’r argymhellion yn yr adroddiad hwn (Argymhelliad 53).

Derbyniodd Llywodraeth Cymru bob argymhelliad yn llawn, ac ymatebodd Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, ar 30 Mehefin 2015. Mae cynllun gweithredu Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2015, yn dweud y byddai'r Llywodraeth yn cyhoeddi Fframwaith Asesu a Gwerthuso Cenedlaethol erbyn mis Medi 2018.

Cynhaliodd yr OECD adolygiad arall o ddiwygiadau addysg Llywodraeth Cymru yn hydref 2016. Cyhoeddwyd adroddiad yr OECD, 'Rapid Policy Assessment' (PDF 2.91MB), ym mis Chwefror 2017; ynddo amlygwyd pwysigrwydd asesu i ddiwygiadau Llywodraeth Cymru a galwyd am i sylw polisi pellach gael ei roi fel a ganlyn:

Moving forward with the development of the new assessment and evaluation framework. Continue investing in the formative assessment and data-handling skills of teachers and school leaders. Ensure greater synergies between the national school categorisation system and the new inspection framework under development. As part of the evaluation and assessment framework, consider including a national approach to identifying and celebrating good practices, driven by school self-evaluations.

Profion darllen a rhifedd cenedlaethol

Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ail-ddweud yn ddiweddar (datganiad, 2 Mai, 2017) y bydd y profion darllen a rhifedd cenedlaethol y mae disgyblion ym mlynyddoedd 2 i 9 yn eu sefyll bob blwyddyn yn cael eu defnyddio i gryfhau dysgu disgyblion unigol a'r dull a ddefnyddir gan athrawon, yn hytrach nag at ddibenion atebolrwydd ysgolion. Dywedodd Kirsty Williams:

Yng Nghymru, nid ydym yn defnyddio canlyniadau’r Profion Cenedlaethol i ddyfarnu ar berfformiad ysgolion. Mae ein profion ni, yn awr ac yn y dyfodol gyda’r genhedlaeth newydd o asesiadau arloesol, at ddefnydd ffurfiannol gan ysgolion. Adnoddau ydynt a fydd yn galluogi athrawon i gefnogi pob dysgwr i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo, a hynny yn yr ysgol a thu hwnt.

System Genedlaethol ar gyfer Categoreiddio Ysgolion

Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio deilliannau asesu fel rhan o fatrics o fesurau i rannu ysgolion yn gategorïau lliw yn ôl lefel yr her a lefel y cymorth sydd eu hangen arnynt. Dyma ddisgrifiad Llywodraeth Cymru o'r system:

Diben y system yw darparu cefnogaeth ac annog gwella ar y cyd Drwy roi ysgolion mewn sefyllfa sy'n eu galluogi nhw i nodi'r ffactorau sy'n cyfrannu at eu cynnydd a'u llwyddiant ac i ddeall pa feysydd sy'n rhaid canolbwyntio arnyn nhw i sicrhau eu bod yn parhau i ddatblygu. Nid diben y system yw i gosod labeli na llunio tablau cynghrair moel.

Fodd bynnag, mae Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon o’r farn bod llywodraethau yn genedlaethol, yn rhanbarthol ac yn lleol yn gorddibynnu ar fesurau atebolrwydd sy’n canolbwyntio ar ddim ond deilliannau disgyblion. Dywedodd Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg:

School leaders believe that there is a need to disconnect accountability from an outcome-only obsessed assessment framework and, instead, fully implement a system that adheres to the key principles in the [Donaldson] review recommendations. We want a system which enables all schools, and those working directly with our children and young people, to focus upon their core purpose, maximising pupil progress and, as a result, achieving the best possible outcomes.

Rhybuddiodd Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau hithau fod perygl y byddai’r cyfyngiadau a osodwyd gan y fframwaith cymwysterau, gan fodelau atebolrwydd di-ildio, yn cynnwys dyfarniadau cul Estyn, yn mygu agenda arloesol.

Trefnwyd datganiad yr Ysgrifennydd Cabinet a chwestiynau gan Aelodau ar y datganiad am tua 15.25 ddydd Mercher 24 Mai 2017. Darlledir y Cyfarfod Llawn ar Senedd TV a bydd trawsgrifiad ar gael ar wefan Cofnod Trafodion y Cynulliad.


Erthygl gan Michael Dauncey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Llun o Flickr gan theilr. Trwydded Creative Commons.

Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Asesu ar gyfer dysgu neu atebolrwydd? (PDF, 201KB)