Beth yw’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a beth yw ei ddyfodol?

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Yn dilyn cyhoeddi ei Gynllun Academaidd newydd ym mis Ionawr 2017, a disgwyl i Grŵp Gorchwyl a Gorffen Llywodraeth Cymru gyhoeddi ei adroddiad yn fuan, beth yw’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol? Menter a sefydlwyd i gynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn Addysg Uwch yw’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae ganddo rôl bwysig o ran dilyniant ieithyddol ar gyfer y rhai sy’n mynychu sefydliadau Addysg Uwch, yn enwedig yng nghyd-destun targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Datblygiad

Mae gwreiddiau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i’w gweld yng nghytundeb Cymru’n Un, sef clymblaid Llywodraeth Cynulliad Cymru rhwng 2007 a 2011. Roedd Cymru’n Un yn cynnwys ymrwymiad i sefydlu:

Rhwydwaith Addysg Uwch Cyfrwng-Cymraeg – y Coleg Ffederal – er mwyn sicrhau darpariaeth Gymraeg yn ein prifysgolion.

Roedd hyn yn bennaf mewn ymateb i alw cynyddol am gorff o’r fath gan y rheini a oedd yn astudio mewn prifysgolion, grwpiau pwyso, ac yn dilyn gwaith cychwynnol a gynhaliwyd gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) (PDF 204KB) ynghylch darpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn Addysg Uwch, o 2001 ymlaen. Lluniodd yr Athro Robin Williams adroddiad yn 2009 ar gyfer Llywodraeth Cymru ynghylch sut y dylid datblygu cysyniad y ‘Coleg Ffederal’, gan ddatgan:

Ni fydd [y Coleg] yn un endid daearyddol ac ni fydd yn gorff dyfarnu graddau ynddo’i hun ond bydd yn gweithio gyda a thrwy’r sefydliadau addysg uwch (SAUau) presennol yng Nghymru (y cysyniad Ffederal).

Sefydlwyd y Coleg gyda’r nod o ‘gynnal, datblygu a goruchwylio darpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn addysg uwch yng Nghymru’.

Y cyd-destun polisi

Ail nod strategol y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg, a gyhoeddwyd yn 2010, oedd:

Gwella’r broses o gynllunio darpariaeth cyfrwng Cymraeg yng nghyfnodau ôl-14 addysg a hyfforddiant, gan ystyried dilyniant ieithyddol a datblygu sgiliau’n barhaus.

Roedd dau o’r amcanion strategol dilynol yn cyfeirio at y Coleg a’i waith:

AS2.6: ‘Hyrwyddo gweithio mewn partneriaeth rhwng y sector addysg uwch (gan gynnwys y Coleg Ffederal arfaethedig) a’r sector ôl-16 ar lwybrau dilyniant effeithiol i’r dysgwyr o’r ddarpariaeth ôl-16 i addysg uwch cyfrwng Cymraeg.

AS2.7: ‘Gwella’r broses o gynllunio llwybrau ar gyfer dilyniant cyfrwng Cymraeg i mewn i addysg uwch ac ynddi, mewn pynciau academaidd a meysydd galwedigaethol â blaenoriaeth

Roedd y Coleg hefyd yn rhan o Ddatganiad Polisi Llywodraeth Cymru ar Addysg Uwch, 2013:

Drwy’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi datblygiad addysg uwch cyfrwng Cymraeg a Chymru ddwyieithog hyderus.

Yn Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg: y camau nesaf, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2016, mynegodd Llywodraeth Cymru y bwriad canlynol:

Parhau â’n trafodaethau gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Prifysgolion Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i sicrhau darpariaeth addysg uwch cyfrwng Cymraeg cynaliadwy, ac ymgynghori ar y weledigaeth ar gyfer y Coleg er mwyn adeiladu ar y llwyddiant cychwynnol.

Strwythur

Sefydlwyd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol fel cwmni cyfyngedig trwy warant ac elusen gofrestredig ym mis Mawrth 2011. Mae holl brifysgolion Cymru yn aelodau ac mae’r Coleg yn gweithio trwy ganghennau ar draws wyth o brifysgolion. Nod y canghennau yw hyrwyddo a goruchwylio gweithgareddau’r Coleg yn y sefydliadau unigol a bod yn bwynt cyswllt lleol i fyfyrwyr.

Cyllid

Hyd at fis Ebrill 2017, roedd y Coleg yn cael ei ariannu’n bennaf gan CCAUC drwy grantiau blynyddol. Mae Is-adran y Gymraeg yn Llywodraeth Cymru bellach yn gyfrifol am gyllid y Coleg, a dyrannwyd £5.4 miliwn ar gyfer blwyddyn ariannol 2017-18, yn ogystal â £330,000 gan CCAUC i gefnogi ei gynllun ysgoloriaeth. Yn ystod y gwaith craffu ar y gyllideb ym mis Tachwedd 2016 (PDF 946KB), dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams, y byddai’r newid yn y ffordd y caiff y Coleg ei ariannu ‘yn gyfle i sicrhau bod gweithgareddau’r Coleg yn cyfateb i flaenoriaethau a mentrau eraill Llywodraeth Cymru a sicrhau’r gwerth am arian gorau’.

Blaenoriaethau strategol

Amlinellwyd amcanion y Coleg yn ei Gynllun Academaidd cyntaf, a gyhoeddwyd yn fuan ar ôl ei sefydlu ym mis Ebrill 2011. Roedd y nod cyntaf yn ddatganiad cyffredinol o’i ddiben:

I hybu dysg a gwybodaeth … drwy hyrwyddo, cynnal, datblygu a goruchwylio’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn addysg uwch Cymru, gan weithio gyda, a thrwy gyfrwng, sefydliadau addysg uwch yng Nghymru.

Roedd y nodau eraill yn ymhelaethu ar y datganiad hwn:

  • Goruchwylio darpariaeth cyfrwng Cymraeg, a darparu undod o ran pwrpas, cydlyniad ac arweinyddiaeth drwy strategaeth genedlaethol;
  • Creu trefniadaeth gadarn a pharhaol, yn genedlaethol, ar gyfer sicrhau statws llawn i’r Gymraeg fel cyfrwng ar gyfer addysg ac ymchwil o fewn y prifysgolion;
  • Cyfoethogi, dyfnhau ac ehangu’r ddarpariaeth ar gyfer myfyrwyr, gan ysgogi ac ymateb i alw, a chynyddu nifer y myfyrwyr sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Cynllun Academaidd newydd

Lansiodd y Coleg ei gynllun newydd, Cynllun Academaidd: Tuag at 2020 a thu hwnt, ym mis Ionawr 2017. Mae cyflwyniad y cynllun yn crynhoi llwyddiannau’r Coleg hyd yma:

  • Darpariaeth: Mae nifer y cyrsiau cyfrwng Cymraeg wedi cynyddu, ac ar hyn o bryd mae dros 900 o gyrsiau gradd lle gall myfyrwyr astudio rhan o’u cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae 115 o ddarlithwyr wedi eu penodi mewn prifysgolion ar draws Cymru.
  • Ysgoloriaethau: Mae’r Coleg wedi dyfarnu dros 600 o ysgoloriaethau israddedig a 50 o ysgoloriaethau meistr i fyfyrwyr sy’n astudio’r cyfan neu ran o’u cyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae wedi ariannu dros 50 o ddoethuriaethau.
  • Rhaglenni hyfforddi: Mae’r Coleg wedi darparu hyfforddiant i fwy na 1,000 o aelodau o staff mewn 100 o weithdai Datblygu Staff.
  • Isadeiledd technegol: Mae 700 o adnoddau digidol Cymraeg a dwyieithog ar gael mewn 24 o wahanol bynciau ar lwyfan e-ddysgu y Coleg, Y Porth.

Mae’r Cynllun Academaidd newydd yn nodi cyfeiriad newydd i’r Coleg. Yn hytrach nag ymateb i geisiadau gan brifysgolion unigol, bydd y Coleg bellach yn ceisio darparu arweiniad strategol cryfach. Bydd hyn yn golygu lleihau nifer y swyddi darlithio a ariennir a symud tuag at grantiau pwnc. Disgwylir i’r cytundebau cyllido hyn ddod i rym yn 2017/18.

Gwerthusiad o’r Coleg a’i ddyfodol

Yn 2014, comisiynwyd OldBell3 gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i gynnal Gwerthusiad o’r cynnydd a wnaed gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (PDF 1.96MB). Gwnaeth yr adroddiad 17 o argymhellion ar gyfer gwelliannau, gan ddod i’r casgliad:

bod y Coleg wedi cyflawni llawer iawn mewn amser byr ac wedi bod yn hynod lwyddiannus wrth ennill ymddiriedaeth a pharch amrediad o randdeiliaid ar draws y llywodraeth a’r sector addysg uwch yng Nghymru.

Ar 1 Awst 2016, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ‘ar ôl pum mlynedd o weithredu, mae’n amser priodol i ystyried rôl y Coleg i’r dyfodol.’ Cyhoeddodd y byddai grŵp gorchwyl a gorffen Llywodraeth Cymru yn cael ei sefydlu er mwyn adolygu gweithgareddau’r Coleg. Bydd hyn yn cynnwys ystyried:

  • A yw model a strwythur presennol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn briodol ac yn addas at y diben o hyrwyddo a datblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg AU o 2017 ymlaen;
  • Beth yw’r opsiynau ar gyfer cyllido’r Coleg i’w ddyfodol;
  • A yw’r berthynas rhwng y Coleg a sefydliadau AU yng Nghymru yn gynaliadwy i’r dyfodol;
  • A ddylid ymestyn cylch gwaith y Coleg i gynnwys y sector ôl-16;
  • Beth yw rôl y Coleg mewn ymateb i argymhellion adolygiad Diamond a datblygiadau polisi diweddar eraill.

Ar 2 Tachwedd 2016, cyhoeddodd Kirsty Williams aelodaeth y grŵp, gan gynnwys penodiad y cyn-Aelod Cynulliad Delyth Evans yn gadeirydd. Dywedodd hefyd y byddai dyraniad y gyllideb ar gyfer 2017-18 yn cynnig sefydlogrwydd i’r Coleg cyn i’r grŵp adrodd ar ei ganfyddiadau. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg bod y grŵp bron â chwblhau’i waith ac y bydd hi’n gweld yr adroddiad yn fuan.

Mae’r Gwasanaeth Ymchwil yn cydnabod y cymorth y darparodd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i Laura Beth Davies yn ei hastudiaeth academaidd a’i hinterniaeth gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru, a alluogodd y cofnod blog hwn i gael ei gwblhau. Laura Beth yw’r cynrychiolydd ôl-raddedig ar Fwrdd Academaidd y Coleg.


Erthygl gan Laura Beth Davies, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Llun: o Flickr gan Andrew. Dan drwydded Creative Commons.

 

Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Beth yw’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a beth yw ei ddyfodol? (PDF, 237KB)