Bathodynnau Glas: Beth yw'r meini prawf ar gyfer cymhwysedd ac asesu?

Cyhoeddwyd 06/06/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Dyma'r erthygl gyntaf mewn cyfres o flogiau yn trafod y cynllun Bathodynnau Glas, gan ystyried ei feini prawf ar gyfer cymhwysedd ac asesu maes o law, ynghyd â'r broses ar gyfer gwneud cais ac apelio, a sut mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu’r cynllun.

Mae'r cynllun Bathodynnau Glas yn drefniant cenedlaethol ar gyfer darparu consesiwn parcio i bobl anabl, sydd mewn grym ar draws y DU. Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am y cynllun yng Nghymru, ond fe'i gweinyddir gan awdurdodau lleol unigol, sef yr awdurdodau sy'n darparu'r bathodynnau.

Cymhwysedd

Mae dau wahanol gategori cymhwysedd ar gyfer Bathodynnau Glas. Gall rhai pobl dderbyn Bathodyn Glas yn awtomatig, a gelwir hyn yn 'gymhwysedd heb asesiad pellach'. Bydd unigolyn yn gymwys heb asesiad pellach os bydd:

  • Wedi cofrestru fel bod yn ddall neu â nam difrifol ar ei olwg;
  • Yn derbyn Cymorth Symudedd Pensiynwyr Rhyfel;
  • Yn derbyn y gyfradd uwch o'r Lwfans Byw i'r Anabl o ran yr elfen symudedd;
  • Yn derbyn yr elfen symudedd o'r Taliad Annibyniaeth Bersonol ac yn sgorio 8 pwynt o leiaf mewn perthynas â gweithgarwch 'symud o gwmpas' yn yr asesiad Taliad Annibyniaeth Bersonol, neu o leiaf 12 pwynt mewn gweithgaredd symudedd ar gyfer cynllunio a dilyn siwrneiau;
  • Wedi derbyn cyfandaliad budd-dal drwy gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog (tariffau 1-8). Dylen nhw hefyd fod wedi cael eu hardystio i fod ag anabledd parhaol neu sylweddol sy'n golygu na allan nhw gerdded neu eu bod yn ei chael hi’n anodd iawn cerdded; neu
  • Wedi derbyn cyfandaliad budd-dal drwy gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog ar lefel dariff 6 ar gyfer anhwylder meddyliol.

Os oedd unigolyn yn derbyn y gyfradd uwch o ran yr elfen symudedd o'r Lwfans Byw i'r Anabl, ond y bu'n rhaid hawlio Taliad Annibyniaeth Bersonol yn lle, a hynny heb gael digon o bwyntiau i fod yn gymwys i gael Bathodyn Glas, gall ddal i ddefnyddio'r bathodyn tan iddo ddod i ben.

Os nad yw'r un o'r telerau hyn yn berthnasol, mae'n bosibl y bydd unigolyn yn dal i fod yn gymwys 'yn amodol ar asesiad pellach'. Bydd yr unigolyn yn gymwys os yw:

  • Ag anabledd parhaol neu sylweddol sy'n golygu na all gerdded neu ei fod yn ei chael yn anodd iawn cerdded;
  • Yn yrrwr a chanddo anableddau difrifol i'w freichiau;
  • Yn methu â dilyn llwybr siwrne gyfarwydd heb gymorth person arall o ganlyniad i anhwylder meddyliol. Gall unrhyw un dros ddwy flwydd oed fod yn gymwys yn unol â'r cyflwr hwn, gan gynnwys pobl sydd dros 65 mlwydd oed;
  • Yn gwneud cais ar ran plentyn dros ddwy oed sydd ag anabledd parhaol neu sylweddol sy'n golygu na all gerdded neu ei fod yn ei chael yn anodd iawn cerdded; neu
  • Yn gwneud cais ar ran plentyn o dan dair blwydd oed sydd â chyflwr meddygol sy'n golygu ei fod angen bod yn agos at gerbyd ar gyfer triniaeth feddygol ar frys neu wrth gludo cyfarpar meddygol mawr.

Yr asesiad

Os yw'r sawl sy'n gwneud cais yn gymwys yn amodol ar asesiad pellach, bydd yr awdurdod lleol yn ystyried tystiolaeth o'u hanabledd er mwyn penderfynu a fydden nhw’n derbyn Bathodyn Glas. Efallai y bydd gofyn i rai unigolion gael asesiad symudedd annibynnol. Os ydyn nhw wedi gwneud cais am Fathodyn Glas, neu wedi bod yn berchen ar un yn flaenorol, efallai mai meddyg teulu'r unigolyn wnaeth gynnal yr asesiad hwn. Erbyn hyn, bydd yr asesiad yn cael ei gynnal gan aseswr symudedd annibynnol. Gan amlaf, gweithiwr proffesiynol meddygol neu therapydd neu ffisiotherapydd galwedigaethol fydd yr aseswr hwn, sydd erioed wedi trin yr unigolyn o’r blaen.

Asesu gallu i gerdded

Bydd unigolyn yn derbyn Bathodyn Glas os ydyn nhw ond yn gallu cerdded â chryn anhawster, a hynny yn araf iawn neu drwy oddef poen mawr. Ni fydd unrhyw ffactorau eraill, megis pa mor anodd y mae unigolyn yn ei chael i gario nwyddau, yn cael eu hystyried. Rhaid i'r anawsterau fod yn rhai parhaol yn hytrach na dros dro.

Asesu gallu i ddefnyddio breichiau

Os oes gan unigolyn anableddau difrifol i'w freichiau, bydd yn gymwys i gael Bathodyn Glas os yw pob un o'r meini prawf a ganlyn yn wir:

  • Mae'n yn gyrru cerbyd yn rheolaidd;
  • Mae ganddo anabledd difrifol yn y ddwy fraich; ac
  • Nid yw'n gallu defnyddio mesurydd parcio, neu byddai'n cael anhawster gwneud hynny.

Ni fydd unigolyn yn gymwys i gael Bathodyn Glas os oes ganddo anableddau difrifol i'w freichiau ond mai cyd-deithiwr ydyw yn hytrach na gyrrwr.

Asesu anhwylder meddyliol

Os yw unigolyn yn gwneud cais am Fathodyn Glas gan na all ddilyn llwybr siwrne sy'n gyfarwydd heb gymorth gan berson arall o ganlyniad i anhwylder meddyliol, bydd yr awdurdod lleol yn ystyried y dystiolaeth o'r anabledd. Cyn gwneud penderfyniad, efallai y bydd yr awdurdod lleol yn:

  • Gwirio a yw'r sawl sy'n gwneud cais ar gofrestr anableddau'r awdurdod lleol;
  • Gwirio a yw'r sawl sy'n gwneud cais yn mynd i glinig cof;
  • Edrych ar wybodaeth ategol gan arbenigwr iechyd perthnasol o ran y cais a wnaed;
  • Cyfeirio'r sawl sy'n gwneud cais at Wasanaeth Cyngor Annibynnol i'w asesu.

Mae llawer o'r wybodaeth uchod wedi'i gymryd oddi ar wefan Advisernet Cymorth ar Bopeth.

Dyma'r erthygl gyntaf mewn cyfres o flogiau yn trafod y cynllun Bathodynnau Glas. Bydd y blog yfory yn esbonio'r broses ar gyfer gwneud cais am Fathodyn Glas, ac apelio’n erbyn penderfyniad yr awdurdod lleol.


Erthygl gan Megan Jones, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Llun o Flikr gan insurancerevolution.co.uk. Dan drwydded Creative Commons.

Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Bathodynnau Glas: Beth yw'r meini prawf ar gyfer cymhwysedd ac asesu? (PDF, 236KB)