Newyddiaduraeth newyddion yng Nghymru: dirywiad print a thwf digidol

Cyhoeddwyd 06/06/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Mae cylchrediad papurau newydd print Cymru wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y degawd diwethaf – fel sy’n digwydd ledled y byd - gan arwain at golli swyddi, uno papurau newydd a chau papurau newydd. Mae traffig ar-lein tuag at safleoedd newyddion wedi cynyddu’n aruthrol yn ystod yr un cyfnod – er bod refeniw ar-lein yn bell o ddigolledu sefydliadau newyddion am y refeniw a gollir o werthu copïau caled o bapurau newydd. Mae hwn yn ffenomenon rhyngwladol, ond, o ystyried sefyllfa gymharol wan y cyfryngau Cymraeg cynhenid, gellir disgwyl i’r effeithiau gael eu teimlo’n fwy sydyn fyth yng Nghymru.

Dirywiad print; twf digidol

Mae papurau newydd yng Nghymru wedi gweld dirywiad parhaus yng nghylchrediad eu fersiynau print. Ers 2008, mae cylchrediad y Western Mail wedi mwy na haneru - o 37,576 yn 2008 i 15,259 yn 2016. Yn ystod yr un cyfnod, mae cylchrediad y Daily Post wedi gostwng dros draean - o 36,432 yn 2008 i 22,251 yn 2016. Mae hyn yn debyg i brofiadau papurau dyddiol y DU, gyda chylchrediad y Mirror a’r Express ill dau wedi mwy na haneru yn ystod yr un cyfnod. Yn 2016, gwnaeth cylchrediad papurau dyddiol print rhanbarthol ostwng 12.5 y cant ar gyfartaledd.

Er bod cylchrediad papurau newydd mewn print wedi gostwng, mae traffig ar-lein wedi saethu i fyny. Mae’r defnydd o WalesOnline wedi codi bron 1,000 y cant ers 2008, hyd at bron i 6.5 miliwn o borwyr unigryw y mis. Mae nifer o wefannau newyddion rhanbarthol wedi profi twf dau ddigid yn nifer eu hymwelwyr unigryw bob dydd o un flwyddyn i’r llall yn ystod ail hanner 2016, gyda WalesOnline yn gweld twf o 13.1 y cant o un flwyddyn i’r llall.

Punnoedd analog yn troi’n geiniogau digidol

Fodd bynnag, mae’r anawsterau o gael incwm o draffig ar-lein wedi arwain at amgylchiadau economaidd heriol ar gyfer sefydliadau newyddion. Amcangyfrifwyd bod cynhyrchion print grwpiau papurau newydd yn dal i gynhyrchu hyd at 90 y cant o’u refeniw hysbysebu, a bod £31 o refeniw print yn cael ei golli am bob £1 sy’n cael ei hennill mewn refeniw digidol gan bapurau cenedlaethol. Er bod gwefannau newyddion yn sgorio’n uchel o ran nifer yr ymweliadau, mae’r ymweliadau hyn yn tueddu i fod yn gymharol fyr. Erbyn 2020 amcangyfrifwyd y bydd Google a Facebook yn ennill 70 y cant o’r holl arian sy’n cael ei wario ar hysbysebion ar-lein yn y DU.

Ers 2005, bu colled net o tua 200 o bapurau newydd ledled y DU . Yn ogystal â’r gostyngiad cyffredinol yn nifer y teitlau, mae’r Press Gazette yn amcangyfrif bod cyfanswm y newyddiadurwyr sy’n gweithio ar bapurau newydd lleol wedi haneru o leiaf ers 2005, yn yr un modd â refeniw y diwydiant. Mae Dr Andy Williams o Brifysgol Caerdydd o’r farn fod yr effaith ar y gymuned o golli papur newydd yn ddifrifol: “When the Port Talbot Guardian closed down in 2009, citizens lost their primary source of day-to-day information about how to navigate civic and community life.”

Er nad yw’r problemau a achosir gan y gostyngiad mewn refeniw yn benodol i Gymru, gellir dadlau yr oedd gan Gymru lai o gyfryngau i’w colli nag ardaloedd eraill o’r DU yn y lle cyntaf. Yn 2015, nododd Ofcom, y rheoleiddiwr cyfathrebu, fod diffyg cyfrwng print brodorol cryf yng Nghymru yn hollol wahanol i’r hyn a geir yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. O ganlyniad, mae’r rhan fwyaf o ddarllenwyr papurau newydd dyddiol yng Nghymru yn darllen papurau newydd y DU, sy’n cynnwys ychydig iawn o gynnwys sy’n ymwneud yn benodol â Chymru a’i sefydliad etholedig datganoledig, sef Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Esgyniad y cyfryngau hyperleol

Er bod dyfodiad newyddion digidol wedi creu amgylchedd economaidd heriol ar gyfer cwmnïau newyddion, mae hefyd wedi rhoi llwyfan i ddarparwyr newyddion ‘hyperleol’ newydd, sy’n cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr. Mae’r mentrau hyn wedi’u gwreiddio yn y cymunedau, ac er bod y darparwyr newyddion hyn yn aml yn cael eu rhedeg gan bobl sydd â rhywfaint o brofiad neu hyfforddiant newyddiadurol blaenorol, maent yn bennaf yn gwneud hynny am foddhad personol yn hytrach nag arian. Mae tua 400 o gyhoeddwyr hyperleol yn weithredol yn y DU ar hyn o bryd – 46 ohonynt yng Nghymru, sef dros ddwbl y ffigur a ddisgwylir o ystyried maint poblogaeth Cymru.

Mae mentrau hyperleol yn anodd eu troi’n hunangynhaliol yn nhermau economaidd. Er eu bod yn aml yn deillio o’r cyfleoedd y mae cyhoeddi ar-lein yn eu cynnig, maent yn ddarostyngedig i’r un anawsterau o ran cynhyrchu refeniw ar-lein â’r papurau newydd traddodiadol y maent yn eu disodli mewn rhai mannau. Mae ychydig dros 10 y cant o fentrau hyperleol yn cynhyrchu mwy na £500 y mis mewn refeniw.

Yn ogystal â’r safleoedd hyperleol newydd hyn, ceir mwy na 50 o Bapurau Bro - papurau newydd cyfrwng Cymraeg - sydd wedi darparu newyddion lleol i gymunedau Cymraeg eu hiaith ers dros 40 mlynedd. Mae’r Papurau Bro yn cael cyllid gan Lywodraeth Cymru allan o’i chyllideb ar gyfer y Gymraeg, tra bod Golwg 360, y wefan newyddion cyfrwng Cymraeg, yn cael cyllid gan Lywodraeth Cymru drwy Gyngor Llyfrau Cymru.

Cefnogaeth yn y dyfodol

Gyda’r egwyddor o ymyrraeth gyhoeddus mewn darparu newyddion wedi’i derbyn o leiaf yn rhannol gan Lywodraeth Cymru drwy ei chefnogaeth i’r Papurau Bro a Golwg 360, efallai y gellid trafod model cyllido tebyg ar gyfer y sector newyddion hyperleol eginol. Mae Emma Meese, o’r Ganolfan Newyddiaduraeth Gymunedol wedi galw am arian cyhoeddus ar gyfer cyhoeddwyr hyperleol i helpu i adfer newyddiaduraeth ar y lefel leol. Mae Dr Williams yn awgrymu y dylai cyllid craff sydd wedi’i weinyddu’n annibynnol ac y gellir cystadlu ar ei gyfer fod ar gael i helpu i yrru arloesedd a gwneud y sector hyperleol yn fwy cynaliadwy.

Yn ddiweddar, trafododd Emma Meese a Dr Williams yr hyn y gellir ei wneud i gefnogi newyddiaduraeth newyddion yng Nghymru gyda Phwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu y Cynulliad, sy’n cynnal ymchwiliad i newyddiaduraeth newyddion. Amlinellodd Dr Williams y gwahanol fathau o gymorth gan y wladwriaeth sy’n cefnogi papurau newydd traddodiadol yn ei farn ef – fel refeniw hysbysebu o hysbysiadau statudol a gostyngiadau treth ar gyfer papurau newydd – a galwodd i’r rhain gael eu hailasesu ar gyfer yr oes ddigidol. Teimlai Emma Meese y byddai rhoi hawl i fentrau hyperleol gyhoeddi hysbysiadau statudol yn cael effaith enfawr. Roedd Dr Williams yn amcangyfrif bod yr hysbysiadau hyn yn werth £40 miliwn–£50 miliwn y flwyddyn ledled y DU. Mae yna nifer o statudau sy’n cwmpasu gwahanol feysydd o gyfraith sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus osod hysbysiadau mewn papurau newydd lleol. Byddai angen diwygio’r cyfreithiau hyn os yw cyhoeddiadau nad ydynt yn dod o dan y diffiniad traddodiadol o ‘bapur newydd’ yn cael eu cynnwys.

Nododd Emma Meese y gellir gwneud elw o newyddiaduraeth leol o hyd, ond nid digon i fodloni’r cwmnïau mawr sy’n gynyddol yn dominyddu’r dirwedd o ran newyddion yng Nghymru. Gyda hynny, roedd hi’n teimlo y gallai cyllid cychwyn busnes sydd wedi’i dargedu at newyddiaduraeth hyperleol gael effaith fawr ar gamau i sbarduno’r sector.

Beth fyddai barn y cyfryngau sefydledig yng Nghymru ar y cynigion hyn? A fyddai cyllid cyhoeddus ychwanegol ar gyfer mentrau hyperleol yn allgau buddsoddiad preifat yn y sector ac yn rhoi mantais annheg i’r mentrau hyn dros y papurau newydd lleol sy’n weddill? Fel arall, a fyddai rhwydwaith hyperleol bywiog a chynaliadwy – sy’n hyfforddi newyddiadurwyr ac yn cynhyrchu straeon – o fudd i’r sector cyfan? Bydd y Pwyllgor yn trafod materion fel y rhain wrth iddo glywed tystiolaeth gan ddarparwyr newyddion yng Nghymru, fel ITV, BBC a Trinity Mirror, yn ystod yr wythnosau nesaf.


Erthygl gan Robin Wilkinson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Llun: o Flickr gan NS Newsflash. Dan drwydded Creative Commons.

Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Newyddiaduraeth newyddion yng Nghymru: dirywiad print a thwf digidol (PDF, 186KB)