Yr aer rydych yn ei anadlu: Sut mae Cymru yn mynd i’r afael â llygredd aer marwol

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Yn ôl adroddiad diweddar gan Goleg Brenhinol y Meddygon mae cymaint â 1,300 o bobl yn marw bob blwyddyn yng Nghymru ar ôl anadlu aer llygredig.

Ledled y DU, amcangyfrifir mai’r nifer yw 40,000 a’i fod yn costio £27 biliwn y flwyddyn. Mae’r broblem mor ddifrifol bellach fel bod Sefydliad Iechyd y Byd wedi cyhoeddi adroddiad yn awgrymu bod llygredd aer byd-eang yn fygythiad sy’n fwy nag HIV ac Ebola.

Mae ansawdd yr aer yn fater mawr yn y DU. Yn ystod pum diwrnod cyntaf 2017 yn unig, llwyddodd Llundain i fynd dros ei lwfansau llygredd aer blynyddol a roddwyd gan yr UE. Yn amlwg, nid oedd y ‘big smoke’ wedi gallu ei anghofio ei lysenw o’r 1950au gan ei fod yn cofnodi’r lefelau llygredd aer gwaethaf yn y DU yn rheolaidd.

Mae gan Gymru hefyd ei phroblemau ei hun o ran llygredd. Yn ôl adroddiadau, ffordd yng Nghaerffili sydd â’r ail grynodiad uchaf o nitrogen deuocsid (NO2) yn y DU. Roedd gan y ffordd, sef y ffordd fwyaf llygredig y tu allan i Lundain, lefelau o NO2 a oedd wedi mynd dros y terfyn 60 gwaith yn ystod 2016; 42 gwaith yn fwy na’r hyn a ganiateir o dan gyfraith yr UE.

Mae NO2 yn llygrydd sy’n cael ei allyrru gan bob peiriant hylosgi, ond injans diesel yw’r gwaethaf. Gall y nwy achosi llid ar y llwybrau anadlu a llid ar y llygaid. Mae hefyd yn gwaethygu cyflyrau anadlol sydd eisoes yn bodoli fel asthma.

Strategaeth Ansawdd Aer y DU

Tagfeydd ar yr M4, CymruHyd awr, prif gam y DU i fynd i’r afael â llygredd aer oedd Strategaeth Ansawdd Aer y DU. Cyhoeddwyd y strategaeth yn 2007 ac mae’n darparu amcanion i gyrraedd a chadw rhai safonau aer penodol. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae’r strategaeth wedi dod o dan y lach am ei aneffeithiolrwydd, gan arwain i’r Pwyllgor Dethol yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig gyhoeddi adolygiad 40 tudalen o’r mesurau yn 2016. Roedd y ddogfen yn beirniadu ymdriniaeth DEFRA o’r mater gan ddweud bod y Gymdeithas Llywodraeth Leol o’r farn bod DEFRA wedi methu â chymryd dull cydlynol ar draws y llywodraeth.

Fis diwethaf, cyhoeddodd DEFRA strategaeth ddrafft newydd ar ansawdd aer. Mae’r ddogfen, a achosodd gynnwrf ar ôl i Lywodraeth y DU golli brwydr yn yr uchel lys i oedi cyn rhyddhau’r ddogfen, yn nodi cynllun gweithredu mwy cyfoes.

Strategaeth Ddrafft y DU

Mae’r strategaeth ddrafft yn cynnwys camau a fydd yn cael eu cyflwyno ledled y DU. Mae ansawdd aer wedi’i ddatganoli, a gall deddfwriaeth fel Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) gynnig momentwm i fynd i’r afael â’r broblem llygredd aer. Mae’r Ddeddf, sy’n annog cyrff cyhoeddus i wneud dewisiadau cynaliadwy yn unol â nodau llesiant, yn cynnwys asesiadau o lesiant lleol a dangosydd i fesur llygredd NO2 yn yr aer.

Mae’r rhan sy’n benodol am Gymru yn y strategaeth ddrafft yn defnyddio egwyddorion y Ddeddf yn uniongyrchol;

Mae’n ofynnol i gyrff cyhoeddus gynllunio a gweithredu ar gyfer yr hirdymor a meddwl yn ochrol am yr hyn y gallant ei gyflawni[…]. Gall ansawdd aer gael effeithiau sylweddol ar iechyd dynol, gan effeithio ar ansawdd a hyd fywydau pobl. Bydd gostwng lefelau llygredd aer […] yn cyfrannu, yn uniongyrchol neu drwy effeithiau anuniongyrchol, at y mwyafrif o’r Nodau Llesiant.

Yn Lloegr, mae gan y cynigion bwyslais gwahanol gan ganolbwyntio yn hytrach ar Barthau Aer Glân. Disgrifir y rhain fel ardaloedd lle cymerir camau wedi’u targedu i wella ansawdd yr aer. Mae hyn yn cael ei groesawu gan sefydliadau moduro, gyda Gerry Keaney, Prif Weithredwr BVRLA yn dweud:   ‘We’ve long called for a national framework that would require consistent Clean Air Zone (CAZ) emission standards, so it’s good to see this being published today.’

Nid yw pawb yn cytuno. Dywedodd Maer Llundain, Sadiq Khan, ar Facebook: ‘We’ve dragged the government kicking and screaming through the courts to produce these belated proposals – but they are toothless and woefully inadequate.’

Cyn cyhoeddi’r strategaeth, roedd yna sibrydion o gynllun sgrapio diesel a allai wobrwyo perchnogion sy’n sgrapio eu cerbydau. Fodd bynnag, mae’r strategaeth yn honni mai’r bwriad yw cyflymu’r trosiant fflyd cerbydau ar y ffordd i gerbydau glanach a does dim sôn am unrhyw gynllun penodol.

Mae’r camau yn y strategaeth hefyd yn datgelu cynllun am ymgynghoriad newydd dan arweiniad Llywodraeth Cymru. Bydd yr ymgynghoriad, a gynhelir yn y 12 mis nesaf, yn cynnig ‘Fframwaith Parth Aer Glân i Gymru’. Yn ôl y strategaeth, bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill i sicrhau ei bod yn darparu canllawiau sy’n berthnasol ac yn ddefnyddiol iddyn nhw.

Mesurau sydd eisoes yn bodoli yng Nghymru

Bydd y ‘Fframwaith Parthau Aer Glân’ yn adeiladu ar amrywiaeth o fesurau sydd eisoes wedi’u gweithredu yng Nghymru gan gynnwys monitro real amser ac adrodd ar ansawdd aer.

Caiff y mesurau hyn eu gweithredu yn bennaf gan awdurdodau lleol drwy system o ‘Reoli Ansawdd Aer Lleol’ (LAQM). Cefnogir LAQM gan ddogfennau canllaw a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, sy’n darparu gwybodaeth am bob agwedd ar LAQM gan gynnwys targedau crynodiad llygryddion a ffurfio cynllun gweithredu.

Ategir y rhain gan ddeddfwriaeth amcanion ansawdd aer yn Rheoliadau Ansawdd Aer (Cymru) 2000, Rheoliadau Diwygio 2002 a Rheoliadau Safonau Ansawdd Aer 2010 sydd wedi’u llunio’n bennaf o amgylch amcanion ansawdd aer yr UE.

Er mwyn cyflawni’r amcanion hyn, mae awdurdodau lleol wedi defnyddio safleoedd monitro ledled Cymru i gofnodi newidiadau mewn ansawdd aer. Mae pob un o’r 22 awdurdod lleol yn aelodau o Fforwm Ansawdd Aer Cymru (WAQF) ac yn cyflwyno adroddiad am eu gwybodaeth am ansawdd aer i’w lunio gan yr WAQF. Mae’r fforwm hefyd yn cynnig cyngor ac arbenigedd i helpu awdurdodau lleol i gyrraedd eu targedau llygredd.

Ymgynghoriad Ansawdd Aer 2016

Y llynedd, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar ansawdd aer lleol a chynigiodd sawl mesur i symleiddio proses LAQM, gan gynnwys adrodd yn amlach ar lefelau llygredd aer ac annog cydweithio rhwng awdurdodau lleol i wella effeithlonrwydd.

Rhan allweddol o’r ymgynghoriad hwn oedd trafodaeth ar ‘Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer’ (AQMA). Mae’r rhain yn ardaloedd dynodedig lle nad yw safon ansawdd aer cenedlaethol yn cael ei gyrraedd. Yn yr ardaloedd hyn, mae’n rhaid i awdurdodau lleol gynnal mesurau arbennig i fonitro a rheoli’r broblem llygredd. Gwneir hyn gyda chyngor a rheoleiddio gan Cyfoeth Naturiol Cymru.  Roedd yr ymgynghoriad yn argymell y dylai awdurdodau allu datgan AQMA yn haws er mwyn gallu gweithredu mesurau yn brydlon ac yn effeithiol.

Mae’r Gwasanaeth Ymchwil yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Keri McNamara gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, a alluogodd i’r post blog hwn gael ei gwblhau.


Erthygl gan Keri McNamara, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Llun: o Flickr gan Paul Townsend. Dan drwydded Creative Commons.

 

Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Yr aer rydych yn ei anadlu: Sut mae Cymru yn mynd i’r afael â llygredd aer marwol (PDF, 207KB)